Dangos 1033 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Yr Her a'r Llwybr

Copiau o'r Her, cylchgrawn Cangen Plaid Genedlaethol Cymru Coleg y Brifysgol, Bangor, rhifau 1-2 (Ionawr-Gŵyl Dewi 1940). Hefyd copiau o'r Llwybr, rhifau 3-6, 10, 21, cyfrol 2, rhifau 4, 6-9, 11-13, cyfrol 3, rhifau 1-4. Mae rhai rhifau cyfrol 2 wedi'u ffeilio mewn cyfrol gartref gyda chyfathrebiadau eraill. Mae gwahoddiad gan Blaid Llafur Ceredigion i Dr Gwenan Jones gwrdd ag Iwan Morgan, darpar ymgeisydd Seneddol, mewn noswaith gymdeithasol, Hydref 1944, yn cael ei defnyddio fel nod llyfr.

Yr Hydref (Lliwiau'r Hydref),

Sgôr mewn llawysgrif a llungopi gyda rhai newidiadau, o 'Yr Hydref' ar gyfer unsain, cyfansoddiad Gilmor Griffiths, geiriau gan Dorothy Jones. Defnyddi'r teitl ychwanegol 'Lliwiau'r Hydref'.

Yr hyn y mae J.R. yn gofio

'Yr hyn y mae J.R. yn gofio', [1884], llawysgrif anghyflawn (penodau 3-6) gan John Roberts (J.R.) yn adrodd hanesion am Annibyniaeth ei oes (ff. 1-20, rectos yn unig). = 'Yr hyn y mae J.R. yn gofio', [1884], an incomplete manuscript (chapters 3-6) by John Roberts (J.R.) relating events in recent Welsh Congregational history (ff. 1-20, rectos only).
Ysgrifenwyd ar gefn amryw lythyrau (at S.R. a J.R.), cylchlythyrau a phosteri, 1867-1884 (ff. 1-20, versos yn unig). = It is written on the reverse of miscellaneous letters (to S.R. and J.R.), circulars and posters, 1867-1884 (ff. 1-20, versos only).

Ysgol Glan Clwyd,

Llythyron, rhaglenni cyngherddau a thoriadau papurau sy'n adlewyrchu perthynas Gilmor Griffiths a'r ysgol. Copi o'r cyhoeddiad 'Ysgol Glan Clwyd', y Deugain Mlynedd Gyntaf, 1956-1996.

Ysgrifau

Ysgrifau teipysgrif am aelodau o’i theulu yn bennaf, gan gynnwys, ‘Dau fedydd a dwy afon’; ‘Fy nain’, ‘Jane Ann Jones’ (Merched yn Bennaf); ‘Rhamant y siwrneiau i Ddyffryn Clwyd o Lannau Meirion’; ‘Y pentref lle’m ganwyd’; ‘Aelwyd Taid a Nain’; ‘Ysgrifennu nofel hanes’; a ‘Y cyffredin yn troi’n anghyffredin’.

Ysgrifau

Ysgrifau, [2002]-[2004], yn bennaf, gan gynnwys 'Hen Lyfr Cownt Ifan Williams y Bwtshwr', 'Cadw mis y pregethwr', 'Y ddafad golledig', 'Prynu mynaran', ‘Y dresar’, 'W. M. Llewelyn' ac ‘Ymweliad Trevor Fishlock â Phenderyn'. [Cyhoeddwyd rhai ohonynt o bosib yn Clochdar, papur bro Cwm Cynon].

Ysgrifau coffa

Torion gwreiddiol o'r wasg a llungopïau, 1950-2002, yn cynnwys ysgrifau coffa i T. Eirug Davies, ei rieni ac aelodau eraill o'i deulu.

Ysgrifau coffa

Teyrngedau o’r wasg, 1985, i John Eilian, ynghyd â chopi o Barn, Ebrill 2012, yn cynnwys erthygl Geraint Percy Jones am ‘Arloeswr y wasg John Eilian (1903-85)'.

Canlyniadau 1021 i 1033 o 1033