Showing 1284 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Cerddi

Cerddi yn ei law, cyhoeddwyd llawer ohonynt yn Ffynhonnau uchel (2012), ynghyd â 'High Springs' sef cyfieithiad o'r gerdd sy'n dwyn yr un teitl â'r gyfrol a chopi o'r gyfrol hefyd,

Edward (Ned) Thomas Edmunds

Deunydd yn ymwneud ag Edward (Ned) Thomas Edmunds, a ymfudodd i'r Wladfa, Patagonia ym 1912 a dod yn brifathro cyntaf ysgol y Gaiman, gan gynnwys cardiau post wedi'u harysgrifio, ffotograffau [?un yn dangos Edward Thomas Edmunds] a choeden deuluol. Gwraig gyntaf Edward Thomas Edmunds oedd Margaret Wilhelmina (Minnie) (née Jones), chwaer Angharad Williams (née Jones), ac mae'n bosib mai ei llaw hi a welir ar gefn y cardiau post (gweler hefyd Cardiau post at Mary Williams dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams - Mary Francis (née Williams), Cerdyn post at Dilys Williams oddi wrth Edward (Ned) Thomas Edmunds, Wilhelmina (Minnie) Edmunds a Ioan Edmunds dan bennawd Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams a Cerdyn post at John Edwal Williams oddi wrth [?Margaret Wilhelmina (Minnie) Edmunds] dan bennawd John Edwal Williams.

Deunydd yn ymwneud â'r Parchedig William Williams (1781-1840) ('Williams o'r Wern'), un o hynafiaid Edward Thomas Edmunds, gan gynnwys llungopi o ysgrif gan Dyfnallt Owen o'i lyfr Ar Y Tŵr (1953) a llungopi o erthyglau o'r wasg. Gweler hefyd y goeden deuluol (a ddisgrifir uchod) yn olrhain perthynas Edward Thomas Edmunds gyda 'Williams o'r Wern'.

Ffynnon Beuno a ffynhonnau eraill

Cyfeiriadau, torion papur newydd, lluniau, ebyst a llythyrau yn ymwneud â sawl ffynnon, yn enwedig Ffynnon Beuno, p. Clynnog, ond hefyd yn cynnwys Ffynnon Armon, p. Capel Garmon, Ffynnon Elan, p. Dolwyddelan, Ffynnon Bedr, p. Llanbedrycennin, Ffynnon Elian, p. Llanelian, Ffynnon Faglan, p. Llanfaglan, Ffynnon Adwy Ddaugae, p. Llanrug, Ffynnon Fair, Penrhys, a Ffynnon Gwenfrewi, p. Treffynnon. Hefyd torion papur newydd yn ymwneud â ffynnon dienw uwchben Ystrad Fflur; rhestr o ffynhonnau ac eglwysi cysylltiedig ym Môn a Llŷn; 'Llygad y ffynnon', rhif 27 (Nadolig 2009); a 'Wellsprings', no. 16 (Awst 2010).

Papurau iechyd amrywiol

Papurau iechyd amrywiol, gan gynnwys asesiad anghenion cychwynnol ar gyfer partneriaeth Ysbyty Gwynedd-Ysbyty Quthing, Mawrth; adroddiad blynyddol Dolen Cymru 2011/12; ac adrodd ar Lesotho Wales Link ar gyfer bwrdd Dolen Cymru, [c.Rhag.].

Ashmole 19

  • NLW Facs 1071.
  • File
  • [2012]

Llungopi o Ashmole Roll 19 a gedwir yn Llyfrgell y Bodley, Rhydychen, yn cynnwys arfbeisiau cyndeidiau John ap Dafydd ap Bened ap Dafydd, a luniwyd gan Wiliam Cynwal yn yr unfed ganrif ar bymtheg (gweler M. P. Siddons, Welsh Pedigree Rolls (1996), rhif. 75).

Cynwal, Wiliam, -1587 or 1588.

Ysgrifau coffa

Teyrngedau o’r wasg, 1985, i John Eilian, ynghyd â chopi o Barn, Ebrill 2012, yn cynnwys erthygl Geraint Percy Jones am ‘Arloeswr y wasg John Eilian (1903-85)'.

Mesur yr Iaith Gymraeg

Papurau amrywiol ynglyn a Mesur yr Iaith Gymraeg gan gynnwys copiau o bapurau polisi Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, deddfwriaeth perthnasol, nodiadau a gohebiaeth.

Carolau Gilmor,

Carolau Gilmor, cyhoeddwyd gan Y Lolfa, 2011 [yr argraffiad cyntaf yn 1991]. Cynnwys: Ganwyd Crist i'r byd; Fe anwyd mab ym Methlem; Hwn yw fy mhlentyn i; Nos Nadolig yw; Carol ben-blwydd; Beth yw'r seren dlos?; Ave Maria; Anwylyn Mair; Goleuni'r byd; Carol Parsal (S.A.T.B. a S.S.A.A.).

Cyfrifiadau

Allbrintiadau o gyfrifiadau 1871 a 1891 yn dangos manylion teulu David (Dafydd neu Dafi) a Martha Williams, rhieni John Edwal Williams. Erbyn cyfrifiad 1891 'roedd John Edwal wedi gadael cartref ac ni chynhwysir ei enw ar y cyfrifiad.

Cofnodion

Cofnodion cyfarfodydd a phapurau cysylltiol Pwyllgor Rheoli Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf., 2008-2011, ynghyd â chofnodion Cyfarfodydd Cyffredinol a phapurau cysylltiol, 2003-2010.

Gwybodaeth achyddol

Ebost, dyddiedig 5 Rhagfyr 2011, at dderbynnydd anhysbys yn cynnwys gwybodaeth achyddol am deulu John Edwal Williams. Ceir yr enw 'Dai' (David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai John Edwal - gweler Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams) ar frig y ddalen yn llaw David Williams.

Cyfrifiad

Allbrint o gyfrifiad 1911 yn dangos manylion teulu Waldo Williams, a oedd ar y pryd yn byw yn Nhŷ Ysgol Prendergast, Hwlffordd, lle 'roedd John Edwal Williams, tad Waldo, yn brifathro. Mae'r cofnodion yn dangos fod y teulu bellach yn gyflawn ac mai Saesneg oedd iaith pob un o'r plant.

Papurau iechyd amrywiol

Papurau iechyd amrywiol, gan gynnwys araith Dr Clowes ar lansiad Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng GiG ac Ardal Iechyd Quthing, Mai; a rhaglen ac adroddiad ar ymweliad Dr Clowes a Su Mably â Lesotho ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru, Tach.-Rhag.

Results 101 to 120 of 1284