Deunydd yn ymwneud ag addysg gynradd ac uwchradd yng Nghymru, ac yn arbennig yn Sir Gaernarfon, 1931-77, gan gynnwys deunydd, 1976, ynglyn ag ad-drefnu addysg gynradd ac uwchradd yng nghylchoedd Llandudno a Chonwy, a deunydd, 1970-7, yn ymwneud â'r Coleg Normal, Bangor. Wyth ffeil yn cynnwys adroddiadau, cofnodion, llythyrau, ac eitemau eraill yn gysylltiedig â gwalth gwahanol bwyllgorau Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru, 1967-78. Ffeil yn cynnwys adroddiadau gwahanol is-bwyllgorau Pwyllgor Cymru'r Cyngor Ysgolion, 1969-74. Dwy ffeil yn cynnwys gohebiaeth, cofnodion, lluniau, ac eitemau eraill, 1974-8, yn ymwneud â Chanolfan Rhyd-ddu, Gwynedd.