Print preview Close

Showing 1284 results

Archival description
File Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

William Price Jones

Cardiau post, un â marc post 19 Rhagfyr 1915 a'r llall â marc post aneglur, yn dwyn cyfarchion Nadolig at 'Mrs J. E. Williams' (Angharad Williams) oddi wrth ei brawd, William Price Jones. Mae'r cyfeiriad 'Oak or Elm Cottage' ar un o'r cardiau yn enghraifft o hiwmor William Price Jones (gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 39; gweler hefyd Cardiau post at Mary Williams dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams - Mary Francis (née Williams)).

Adroddiad blynyddol y Durban Benevolent Society am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 1974 a roddwyd i neu a anfonwyd at William Price Jones, brawd Angharad Williams (née Jones), ynghyd â nodyn ar ran y Gymdeithas yn cyfeirio at gwymp a gafodd y derbynnydd, gan obeithio am wellhad buan. Mae'r gyfrol yn cynnwys adroddiad gan William Price Jones, ysgrifennydd a thrysorydd y Gymdeithas.

Llungopïau o lythyrau, 27 Awst 1973 a di-ddyddiad (ond ceir y dyddiad '28 10 76' mewn llaw anhysbys ar frig y llythyr dyddiedig 27 Awst 1975, sydd o bosib yn cyfeirio at y llythyr di-ddyddiad), a llythyr gwreiddiol, 17 Hydref 1975, oddi wrth William Price Jones, brawd Angharad Williams (née Jones), at ei chwaer Mwynlan Mai Edmond (née Jones). Yn y llythyr di-ddyddiad ceir ôl-nodyn yn llaw William Price Jones a ffotograff ohono (wedi'i lungopïo yn unol â chorff y llythyr) wedi'i glymu i frig y llythyr. Ceir nodyn (heb ei lungopïo) [?yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai Angharad] ar frig yr un llythyr yn datgan 'Brawd ieuengaf Angharad i'w chwaer ieuengaf Mwynlan'. Mae'r llythyrau yn cynnwys peth o hanes bywyd William Price Jones yn Durban, De Affrica, cyfeiriad at farwolaeth ei wraig, Doreen, a hanes y llawdriniaeth a gafodd ar ei lygad.

William Williams (Gwilamus)

Dyddiadur a llawlyfr y Bedyddwyr am 1920, sef dyddiadur olaf William Williams (Gwilamus), brawd John Edwal Williams. Ceir nodyn ar y clawr, o bosib yn llaw Dilys Williams, merch John Edwal a nith Gwilamus, yn datgan 'DYDDIADUR OLAF W. G. WILLIAMS RHOSAERON "Uncle William" Brawd Dad [h.y. John Edwal Williams] dy dadcu di David William[s]' (h.y. David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai John Edwal - gweler Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams). Mae'r nodiadau yn y dyddiadur yn dirwyn i ben ym mis Ebrill 1920, a bu farw Gwilamus yn y mis Gorffennaf canlynol (gw. Llythyr oddi wrth Nan a Waldo Roberts at Gwladys [Llewellyn] dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams).

Woolworths; Londis; Marks & Spencer

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1984-1998, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o storfeydd cenedlaethol; nifer o Aelodau Senedd Cymraeg; nifer o aelodau Tŷ’r Arglwyddi; yr Aelod Seneddol Ewropeaidd, Wayne David; a Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn trafod gweithredu polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys copi o gylchlythyr Cymdeithas yr Iaith (1994); datganiadau i’r wasg (1994); a nifer o bosteri ymgyrch.

Wrth y tân,

Sgôr mewn llawysgrif o 'Wrth y Tân', trefniant Gilmor Griffiths o'r alaw Rwsieg ar gyfer lleisiau merched neu blant (? S.A.A.A.). Geiriau gan W. J. Bowyer.

Y Baban Diwrnod Oed

Llungopi o gerdd yn dwyn y teitl 'Y Baban Diwrnod Oed'. 'Pethau Waldo' wedi'i nodi yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo Williams, ar ddalen flaen y llungopi.

'Y Bardd Celtaidd'

Papurau a gohebiaeth, 1991, yn ymwneud â thrydydd Fforwm ar deg y Ganolfan ‘Y Bardd Celtaidd’ fel un o weithgareddau gŵyl ‘Celtica 1991’, yn cynnwys rhaglen; slipiau ateb; rhestr o fynychwyr; copi o’r llyfryn ‘Celtica 1991’; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Llinos Roberts-Young; Saunders Davies; Elin M. Jones; D. M. Lewis; Susan Jenkins; Hywel ap Robert; T. Arwyn Watkins; A. O. H. Jarman; Morfydd E. Owen; a Nerys Ann Jones.

Y Briallu,

Sgôr mewn llawysgrif o'r gân 'Y Briallu', Gilmor Griffiths a Rhydwen Williams (1916-1997) yn gweithio ar y cyd, ar gyfer cwmni teledu Granada. Geiriau gan Eifion Wyn.

Y Corn Gwlad

Un rhifyn yn unig a argraffwyd o'r cylchgrawn hwn sef Cylchgrawn Blynyddol Gorsedd y Beirdd a'r Eisteddfod wedi'i olygu gan John Eilian.

Y Cymro

Papurau, 1930-1934, gan gynnwys gohebiaeth rhwng Rowland Thomas, perchennog Hughes a'i Fab, a John Eilian.

Y Cyngor Prydeinig

Gohebiaeth amrywiol gyda'r Cyngor Prydeinig, yn ymwneud yn bennaf â datblygu cysylltiadau, a threfnu ac ariannu teithiau rhwng Cymru a Lesotho.

Y Ddinas

Torion o erthyglau a gyfrannodd i'r golofn 'Sylwadau' yn Y Ddinas (cylchgrawn Cymry Llundain), 1953-1955, a llythyr ato oddi wrth Caradog Prichard, 1955, 'Emlyn Evans: Gwerthfawrogiad', Y Ddinas, Awst 1957, ynghyd ag erthyglau diweddarach a gyhoeddwyd yn Llais Ogwan a Y Goleuad.

Prichard, Caradog, 1904-1980

Y Deffro,

Llungopi o sgôr mewn llawysgrif o 'Y Deffro' ar gyfer unsain, cyfansoddiad Gilmor Griffiths, geiriau gan Leslie Harries. Un ar gyfer llais gyda chyfeiliant, ac un ar gyfer y llais yn unig.

Y Faenol Bropor,

Gosodiad gan Glyn Hopkins o eiriau 'Ann Griffiths' gan D. G. Jones, i'r alaw 'Y Faenol Bropor' gan Gilmor Griffiths. Llungopi o'r sgôr, yn ogystal â geiriau i donig sol-ffa.

'Y Fforwm Gernywaidd'

Papurau a gohebiaeth, 1988, yn ymwneud â seithfed Fforwm y Ganolfan, ‘Y Fforwm Cernywaidd’, yn cynnwys y rhaglen; rhestr o fynychwyr; crynodebau; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth Brian Murdoch; Oliver Padel; Morfydd E. Owen; R. Geraint Gruffydd; Jack Arnell; Gwenan Creunant; Terence McCaughey; E. Evans; Tim Saunders; Bedwyr Lewis Jones; Lauran Toorians; Myrna Harris; a Charles Thomas.

Y Ford Gron

Llythyrau, 1920 -1932, 1984, at John Eilian oddi wrth lenorion a gwleidyddion amlwg yn y 1920au a 1930au, llawer ohonynt yn ymateb i'r cylchgrawn.

Results 1201 to 1220 of 1284