Showing 1284 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Y Tlawd hwn,

Sgôr mewn llawysgrif o 'Y Tlawd hwn', gan Gilmor Griffiths. Darn adrodd i gyfeiliant telyn. Dim geiriau [o bosib y gerdd o'r un enw gan W. J. Gruffydd].

Y Tŵr a'r Graig

Copïau llawysgrif drafft a llungopïau o ran o gywydd Waldo Williams Y Tŵr a'r Graig (yma'n dwyn y teitl [?gwreiddiol] 'Rhwng y Ddwy Garn'), y copïau llawysgrif a chopïau gwreiddiol y llungopïau yn llaw Waldo Williams. Cyhoeddwyd y cywydd am y tro cyntaf yn rhifyn Tachwedd 1938 o'r cylchgrawn Heddiw.

Y Waedd,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Clychau'r gog' gan R. Williams Parry, i'r alaw 'Y Waedd' gan Haydn Morris.

Ymadawiad Arthur,

Sgôr mewn llawysgrif o 'Ymadawiad Arthur', gan Gilmor Griffiths, geiriau T. Gwynn Jones. Darn adrodd i gyfeiliant telyn o bosib.

Ymgyrch cadw Cymru'n ddi-GM

Papurau'n ymwneud ag ymgyrch Plaid Cymru, y grwp Cynghrair Rhydd Ewrop/Gwyrddion yn y Senedd Ewropeaidd, a'r Cynulliad Cenedlaethol ynglyn ag organebau wedi'u haddasu'n enetig (GMO), ac i labelu bwyd a bwyd anifeiliaid GM.

Ymgyrch refferendwm datganoli Cymru

Deunydd amrywiol yn ymwneud ag ymgyrch dros bleidlais Ie yn refferendwm datganoli Cymru 1997, cynlluniau am etholiadau i'r Cynulliad, pasio'r deddf yn Senedd y DG a threfniadau mewnol Plaid Cymru am yr ymgyrch.

Ymlaen asyn bychan,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopi o 'Ymlaen asyn bychan' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Dorothy Jones. Côr pedwar llais.

Ymweliadau

Llythyrau, teithlenni, adroddiadau a phapurau eraill yn ymwneud ag ymweliadau gan ddirprwyaethau Lesotho â Chymru a'r DU, ac ymweliadau gan ddirprwyaethau o Gymru i Lesotho.

Ymweliadau

Papurau paratoadol ac adroddiadau ar ymweliadau gan ddirprwyaethau Cymreig i Lesotho, 1987-1997, ac ymweliadau gan ddirprwyaethau Lesotho â Chymru, 1990-1998.

Results 1241 to 1260 of 1284