Dangos 1033 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llyfr casglu Llundain

Llyfr casglu Apel y Capeli Annibynol Cymreig (dyfrnod 1830), yn bennaf yn llaw y Parch. John Saunders, gyda manylion casgliadau yn Llundain, Chwefror-Mai 1835 (ff. 1 verso-19 verso). = A Welsh Congregational Churches Appeal Fund collecting book (watermark 1830), mainly in the hand of the Rev. John Saunders, containing details of collections in London, February-May 1835 (ff. 1 verso-19 verso).
Mae nodyn gan Samuel Roberts mewn perthynas a landlordiaeth yn Llanbrynmair ar ff. 75 verso-76 (testun â'i wyneb i waered). = A note by Samuel Roberts concerning landlordism in Llanbrynmair is on ff. 75 verso-76 (inverted text).

Saunders, John, 1796-1871.

Llyfr casglu Athrofa Aberhonddu

Llyfr casglu Samuel Roberts, 1838, ar gyfer apêl i godi arian i sefydlu athrofa Annibynol yn Aberhonddu, gyda manylion casgliadau yng Nghymru a Sir Gaerhirfryn (ff. 2-14, 53 verso). = Collecting book of Samuel Roberts, 1838, for an appeal for funds to establish a Welsh Congregational Academy at Brecon, with details of subscriptions in Wales and in Lancashire (ff. 2-14, 53 verso).

Llyfrau archebion

Dwy gyfrol, [1864]-[1865], yn llaw T. J. Griffiths, argraffwr, gydag ychwanegiadau gan Samuel Roberts, yn cynnwys rhestr o archebion ar gyfer Samuel Roberts, Pregethau a Darlithiau (Utica, E.N., 1865). = Two volumes, [1864]-[1865], in the hand of T. J. Griffiths, printer, with additions by Samuel Roberts, containing a list of orders for Samuel Roberts, Pregethau a Darlithiau (Utica, N.Y., 1865).

Griffiths, Thomas J., 1835-1924

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Pymtheg llyfryn, [1872x1880], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = Fifteen booklets, [1872x1880], containing sermon notes by Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).
Mae un llyfryn yn cynnwys dau gydiad rhydd y tu mewn i gloriau lledr, ynghyd a rhestr mannau pregethu Gruffydd Rhisiart am 1880. = One booklet consists of two loose gatherings inside leather covers, together with a list of Gruffydd Rhisiart's preaching engagements for 1880.

Pregethau J.R.

Tri llyfryn, [19 gan., trydydd ¼], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw John Roberts (J.R.). = Three booklets, [18 cent., third ¼], containing sermon notes by John Roberts (J.R.).

Cynal Breichiau; Y Diwedd

Dwy bregeth yn llaw John Roberts (J.R.), [1873x1874], yn dwyn y teitlau 'Cynal Breichiau' (ff. 1-11) ac 'Y Diwedd' (ff. 12-17). = Two sermons in the hand of John Roberts (J.R.), [1873x1874], entitled 'Cynal Breichiau' (ff. 1-11) and 'Y Diwedd' (ff. 12-17).

Yr hyn y mae J.R. yn gofio

'Yr hyn y mae J.R. yn gofio', [1884], llawysgrif anghyflawn (penodau 3-6) gan John Roberts (J.R.) yn adrodd hanesion am Annibyniaeth ei oes (ff. 1-20, rectos yn unig). = 'Yr hyn y mae J.R. yn gofio', [1884], an incomplete manuscript (chapters 3-6) by John Roberts (J.R.) relating events in recent Welsh Congregational history (ff. 1-20, rectos only).
Ysgrifenwyd ar gefn amryw lythyrau (at S.R. a J.R.), cylchlythyrau a phosteri, 1867-1884 (ff. 1-20, versos yn unig). = It is written on the reverse of miscellaneous letters (to S.R. and J.R.), circulars and posters, 1867-1884 (ff. 1-20, versos only).

S.R. funeral addresses

Llawysgrif anghyflawn o Samuel Roberts, Funeral Addresses (Conway, 1880), cyfrol o anerchiadau angladd a bregethwyd ganddo yn Llanbrynmair cyn 1857. = Incomplete manuscript of Samuel Roberts, Funeral addresses (Conway, 1880), a volume of addresses preached at funerals in Llanbrynmair before 1857.
Mae'r testun presennol yn gyfieithiad Saesneg o'r anerchiadau Cymraeg gwreiddiol. Yn cynnwys y rhagymadrodd, dyddiwyd 1 Medi 1880 (ff. 1-4), a rhan o'r testun (ff. 11-105), a atgynhyrchiwyd ar tt. 3-4, 8-54 o'r gyfrol cyhoeddedig. = The present text comprises English translations of the original Welsh addresses. It includes the introduction, dated 1 September 1880 (ff. 1-4), and part of the body of the text (ff. 11-105), reproduced on pp. 3-4, 8-54 of the published volume.

Barddoniaeth ac emynau S.R.

Llyfryn, [19 gan., trydydd ¼], yn cynnwys barddoniaeth ac emynau yn llaw Samuel Roberts. = A booklet, [19 cent., third ¼], containing poetry and hymns in the hand of Samuel Roberts.

Llythyrau at S.R., &c.

Saith llythyr a deugain, 1824-1881, y rhan fwyaf at Samuel Roberts a'i dad, John Roberts, oddiwrth teulu a ffrindiau. Mae'r gohebwyr yn cynnwys Edward Davies, Drenewydd, 1833-1834 (ff. 4-13), Griffith a Maria Griffith, [c. 1858] (ff. 19-20), Richard Griffith, 1858 (ff. 21-23), Samuel Griffith[s], 1858-1859 (ff. 24-31), S. L. Lewin, Amwythig, [1833]-1834 (ff. 42-45), D. Morgan, Ogof, 1834 (ff. 46-49), David Rees, Llanelly, 1865, 1867 (ff. 53-56), J.R. a Rees Griffiths, 1834 (ff. 64-67), Thomas Weaver, Amwythig, 1825-1826 (ff. 80-83), a Sarah Yallowley, [1820au] (ff. 89-92). = Forty-seven letters, 1824-1881, mostly addressed to Samuel Roberts and John Roberts, senior, from family and friends. The correspondents include Edward Davies, Newtown, 1833-1834 (ff. 4-13), Griffith a Maria Griffith, [c. 1858] (ff. 19-20), Richard Griffith, 1858 (ff. 21-23), Samuel Griffith[s], 1858-1859 (ff. 24-31), S. L. Lewin, Shrewsbury, [1833]-1834 (ff. 42-45), D. Morgan, Ogof, 1834 (ff. 46-49), David Rees, Llanelly, 1865, 1867 (ff. 53-56), J.R. and Rees Griffiths, 1834 (ff. 64-67), Thomas Weaver, Shrewsbury, 1825-1826 (ff. 80-83), and Sarah Yallowley, [1820s] (ff. 89-92).
Mae yna lythyrau drafft gan S.R., 1824, 1827, [1870au] (ff. 68-75), dau yn ymwneud a dadl gyda'r Parch. Richard Shut, Drenewydd, ac un at John Rylands. Mae rhai llythyrau yn cynnwys atebion drafft ac arnodiadau eraill gan S.R. = There are several draft letters from S.R., 1824, 1827, [1870s] (ff. 68-75), two concerning a dispute with the Rev. Richard Shut, Newtown, and one to John Rylands. Some letters include draft replies and other annotations by S.R.

Roberts, John, 1767-1834

Llythyrau at S.R., &c.

Pedwar ugain o lythyrau, 1800-1876, y rhan fwyaf at Samuel Roberts a'i dad, John Roberts, oddiwrth teulu a ffrindiau. Mae'r gohebwyr yn cynnwys Maria Griffith, 1828, Dorothy Hughes, 1822-1823, Michael Jones, Llanuwchllyn, 1833, David Lewis, Old Hall, 1822-1826, J. W. H. Pritchard, 1823-1827, Thomas Weaver, 1825-1826, Samuel Weston, 1822-1826, a Sarah Yallowley, 1822-1826. = Eighty letters, 1800-1876, mostly addressed to Samuel Roberts and John Roberts, senior, from family and friends. The correspondents include Maria Griffith, 1828, Dorothy Hughes, 1822-1823, Michael Jones, Llanuwchllyn, 1833, David Lewis, Old Hall, 1822-1826, J. W. H. Pritchard, 1823-1827, Thomas Weaver, 1825-1826, Samuel Weston, 1822-1826, and Sarah Yallowley, 1822-1826.
Mae rhai o'r llythyrau yn cynnwys atebion drafft ac arnodiadau eraill gan S.R. Mae nifer yn cynnwys copïau [gan S.R.?] o lythyrau (dyddiedig 1831-1834) gan ei dad (ff. 2 verso, 18 verso, 68 recto-verso, 70, 73, 87 recto-verso, 104 recto-verso, 115, 133 recto-verso). Mae'n debyg i rhain gael eu copïo ar gyfer llyfr S.R., Cofiant y Parch. John Roberts, o Lanbrynmair (Llanelli, 1837) sydd yn cynnwys cyfieithiad Cymraeg o'r rhan fwyaf ohonynt. Mae llythyrau oddiwrth John Roberts i'w frawd George, 1800, 1805, yn nodi genedigaethau S.R. a J.R. = Some of the letters include draft replies and other annotations by S.R. A number contain copies [by S.R.?] of letters (dated 1831-1834) of his father (ff. 2 verso, 18 verso, 68 recto-verso, 70, 73, 87 recto-verso, 104 recto-verso, 115, 133 recto-verso). These were probably copied in preperation for S.R.'s Cofiant y Parch. John Roberts, o Lanbrynmair (Llanelli, 1837) which includes Welsh translations of most of them. Letters from John Roberts to his brother George, 1800, 1805, record the births of S.R. and J.R.

Roberts, John, 1767-1834

Llyfrau cofnodi symud anifeiliaid

Papurau, [1967]-[1987], yn cofnodi gweithrediadau ar y fferm, ynghyd â chopi o fap 25 modfedd (Cards. Sheets XXIII) (ail argraffiad 1905) yn dangos y fferm a'r caeau a'r gaer Caer Wen o'r Oes Haearn gydag ychwanegiadau diweddarach.

John (Tydu) Jones

Llythyrau a anfonodd John (Tydu) Jones at ei nai Tydfor a'r teulu o Ganada, ynghyd ag enghreifftiau o'i ddawn fel bardd ac ysgrif bortread [anfuddugol Tydfor] ar ei ewythr, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1983.

'Aelwyd y teulu'

Cyflwynwyd y gyfrol er cof am ei rieni ac yn anrheg 'I Tydfor fy nai ar ei seithfed penblwydd, Medi 2 1941, Wncwl John'. Mae'n cynnwys 'Englynion bore'; 'Englynion yr alltud' i'w frodyr a'i chwiorydd a 'Tydfor, fy nai'; 'Yn yr iaith fain' ac 'Englynion eraill', ynghyd â chyfieithiad i'r Saesneg o 'Hen wlad fy nhadau'.

Papurau ei rhieni

Tystysgrif priodas ei rhieni Hugh Davies Jones a Laura Owen a briodwyd yng Nghapel Salem, Llanbedr, 10 Mehefin 1912 a llungopi o deyrnged i'w thad 'Y diweddar Barch. H. D. Jones' a gyhoeddwyd yn Yr Hauwr [misolyn Undeb Bedyddwyr Cymru at wasanaeth Yr Ysgol Sul] yn [1924].

Papurau amrywiol

Llungopi o gerdd deyrnged gan HCW [Hugh Cernyw Williams] i’r Parch. H. D. Jones, ei thad, a fu farw yn 1924; papurau yn ymwneud â hanes lleol Ardudwy, gan gynnwys ‘Atgofion am Uwch Artro’, gan ei mam Laura Davies Jones a gyhoeddwydy yn Seren Cymru, yng nghanol y saithdegau; ‘Atgofion plentyndod yn Ardudwy’ gan ei chwaer Annie Davies Evans; adysgrif o sgwrs ar dri thâp rhwng Robin Gwyndaf a Laura Davies Jones, mam Rhiannon Davies Jones; yr arfer o osod 'Yr asgwrn coel' uwchben drws tŷ; hanes ‘Y Llyfr Ymwelwyr’, ynghyd ag adroddiad ar seremoni lansiad ei nofel Adar Drycin (1993) gan Wasg Gwynedd yn stiwdio Barcud, Caernarfon.

Torion

Cyfrol yn cynnwys torion o’r wasg, 1932-1943, gan gynnwys rhai am ‘Pryddest Dafydd Huws’, pryddest ddigrif a anfonwyd i Eisteddfod Genedlaethol Aberafan 1932 ac a gyhoeddwyd yn Y Ford Gron.

Adolygiadau

Adolygiadau o’i weithiau ac adolygiadau ganddo, 1911-1960, a gyhoeddwyd yn Yr Eurgrawn yn bennaf, ynghyd â rhai yn Y Beirniad, Yr Efrydydd, Y Traethodydd a Y Dysgedydd.

Canlyniadau 121 i 140 o 1033