Showing 59614 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Welsh
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

Diarddel o'r Orsedd

Adroddiadau papur newydd yn sôn am ei ddiarddel o’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955. Yr oedd i fod i gyfarch y bardd buddugol yn seremoni'r cadeirio.

Bro Meirion,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Hen ŵr bychan a dwy ŵydd dew' i'r alaw 'Bro Meirion' gan E. G. Griffiths, Blaenau Ffestiniog.

Cloch Llanerfyl,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Gwyn ap Nudd' gan Elfed, i'r gainc 'Cloch Llanerfyl' gan Dwynwen Jones.

Hiraethog,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Pen y Cei' gan Trebor Roberts (Porthmadog), i'r alaw 'Hiraethog' gan Haydn Morris. Braslun mewn llawysgrif.

Llety'r bugail,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'O nefol addfwyn oen', gan William Williams, Pantycelyn, i'r alaw 'Llety'r Bugail' gan Eleri Owen. Llawysgrif a llungopi tonic sol-ffa.

Llyn Llech-Owain,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Guto Benfelyn' gan I. D. Hooson i'r alaw 'Llyn Llech-Owain'. Ychwanegiad tonig sol-ffa mewn pencil.

Maes Garmon,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Cymer, Arglwydd, f'einioes i', gan F. R. Havergal i'r alaw 'Maes Garmon' gan Edna Wyn Griffiths.

Pen Dinas,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Dydd o Haf' gan Geraint Lloyd Owen, o'r alaw 'Pen Dinas' gan Elisabeth M. Jones.

Amryw bamffledi

Amryw bamffledi a llyfrynnau, rhai gydag enw 'Nans' ar y clawr, gan gynnwys J. E, Jones, '1925-1955, cychwyn Plaid Cymru' (1955); Gwynfor Evans, 'Welsh nationalist aims' (reprint from 'Mankind', July 1957); J. E. Jones, 'Satellite parties in Wales', (Plaid Cymru, [post 1958]; dau gopi); Gwynfor Evans, 'Cyfle olaf y Gymraeg' (1962); 'Gwlad ein plant' (Plaid Cymru, 1964); 'Datblygu Cymru oll' (Plaid Cymru, [c.1965]); 'Pam? peintio peintio peintio' (Cymdeithas yr Iaith, [1969]); 'Phil Bach, 'Achos y naw & contempt cases: adroddiad llygad dyst (Cwmni Gwasg Rydd Caerdydd, 1972); Gwynfor Evans, 'Darlith Goffa J. R. Jones' (prawf galley, 1982); 'Llyfryn gwybodaeth y cynulliad' (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, [1999]; Aled Edwards, 'Gwneud gwahaniaeth: y Cynulliad Cenedlaethol yn gweithio dros Gymru' (Ymgyrch Senedd i Gymru, 2002); 'Bro a bryn: Cymru wledig heddiw ac yfory' (Cymdeithas Trefnu Gwledig Cymru, d.d.); Islwyn Ffowc Elis, 'Cysgod y cwmwl' (Cymdeithas y Cymod, d.d.); 'Electricity without vandalism' (Plaid Cymru, d.d.); 'Cyfiawnder i Gymro: datganiad J. E. Jones, trefnydd y Blaid, gerbron ynadon Caernarfon', (d.d.); 'Wales matters to you!' (Plaid Cymru, d.d.); ac Ioan Bowen Rees, 'The Welsh political tradition' (1961, re-issued 1973). Hefyd rhaglenni ysgol haf a chynhadledd flynyddol Plaid Cymru, Aberdâr 1948, Caerdydd 1960, Llangollen 1961, Pwllheli 1975, Aberystwyth 1977; clawr 'Hannercanmlwyddiant Plaid Cymru Awst 1925-Awst 1975', gyda stamp 5½c. Owain Glyndŵr a phostnod '5 Awst 75, Pwllheli, Gwynedd'; a llawlyfr y Cynulliad, 2001, 2002.

Cerdd dant,

Gosodiadau cerdd dant gan Gilmor Griffiths, sgorau mewn llawysgrif, brasluniau a chopïau. Y rhan fwyaf gyda geiriau.

Bro Meirion,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Gwenoliaid', gan B. T. Hopkins i'r alaw 'Bro Meirion' gan E. G. Griffiths, Blaenau Ffestiniog.

Ceiro,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Tryweryn' gan J. W. Llannerchymedd, i'r gainc 'Ceiro' gan Heledd Ann Hall.

Cilmeri,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Carol Nadolig' gan W. Rhys Nicholas, i'r alaw 'Cilmeri' gan Nan James.

Consêt y Siri,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Y Wiwer' gan T. Llew Jones i'r gainc 'Consêt y Siri' o drefniant Gaenor Hall.

Edinburgh,

Trefniant a gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Y doethion' gan I. D. Hooson, i'r alaw Edinburgh'.

Results 641 to 660 of 59614