Showing 59614 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Welsh
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

Gohebiaeth gyffredinol 1994,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys John Rowlands ar ei nofel enllibus, ac Angharad Tomos yn trafod ei nofel, Titrwm. Mae pynicau eraill a drafodir yn cynnwys cyhoeddi cyfrolau buddugol yr Eisteddfod Genedlaethol a diffyg ymateb y BBC i achos llys saith person a niweidiodd sedd barnwr. Ceir hefyd ohebiaeth gyda Cantref ynghylch torri cysylltiadau dŵr a charffosiaeth pan gafodd gwaith adeiladu ei wneud.

Nodiadau ar y Beibl

Mae'r ffeil hon yn cynnwys erthygl yn dwyn y teitl 'Esboniadau beiblaidd 1801-25', nodiadau ar Feibl Thomas Charles, 1799, a nodiadau pellach, yn bennaf ar gyhoeddi beiblau. Yn y ffeil hefyd mae nodiadau ar englynion y misoedd, ar Gymraeg Canol, ac ar 'Blodau Arfon', Dewi Wyn o Arfon.

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 13, 1 Jan. 1974 to' sydd yn cynnwys toriadau papur newydd, 1974, a llythyrau oddi wrth Alun Creunant Davies, 1974, Islwyn Ffowc Elis, 1974, a Robin Williams, 1973, a ffotograff o Fron y Garth, 1912.

Gohebiaeth gyffredinol 1995,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Arwel Vittle a'i ymateb i feirniadaethau negyddol o'i lyfr Post Mortem. Mae'r pynciau a drafodir yn y ffeil yn cynnwys defnydd o'r iaith Gymraeg a chwynion Robat Gruffudd ynglŷn â dyfarniadau y Cyngor Llyfrau ynglŷn â grantiau i lyfrau, y llyfr Sbectol Inc, a phroblemau gyda'r Emporium, Tal-y-bont o ran ail gysylltu pibau dŵr a charffosiaeth.

Results 641 to 660 of 59614