File NLW MS 21582E. - Llawysgrif Mostyn Talacre

Identity area

Reference code

NLW MS 21582E.

Title

Llawysgrif Mostyn Talacre

Date(s)

  • [17 gan., canol] (Creation)

Level of description

File

Extent and medium

30 ff. (daleniad gwreiddiol 6, 8-13, 15-26, 28-33, 35-36 ar ff. 3-29; ychwnegwyd y daleniad 5-7 ar ff. 1-3 yn dilyn y gwaith trwsio, c. 1912) ; 395 x 150 mm.

Rhwymwyd mewn hanner morocco dros fyrddau, gyda llinellau dwbl, gan J. B. Sconce, Caer, 1912; 'TALACRE MSS.' (aur ar y clawr blaen).

Context area

Name of creator

Name of creator

Biographical history

Name of creator

(approximately 1522-1602)

Biographical history

Name of creator

Biographical history

Name of creator

Biographical history

Name of creator

Biographical history

Name of creator

Biographical history

Name of creator

Biographical history

Name of creator

Name of creator

Name of creator

Biographical history

Name of creator

Biographical history

Name of creator

Biographical history

Name of creator

Biographical history

Name of creator

Name of creator

Name of creator

Biographical history

Name of creator

Name of creator

Name of creator

Name of creator

Biographical history

Name of creator

Biographical history

Name of creator

Biographical history

Name of creator

Name of creator

Biographical history

Name of creator

Name of creator

Archival history

Dangosir cysylltiad y llawysgrif â theulu Mostyn Talacre gan yr awdl i Byrs Mostyn (g. c. 1500) (ff. 27 verso-28), a chan nodyn gan Thomas Edwards, Caer, yn datgan mai'r Fonesig Mostyn, gwraig y nawfed barwnig, oedd yn gyfrifol am rwymo'r llawysgrif yn 1912 (tipiwyd i mewn ar flaen y gyfrol). Rhoddwyd y llawysgrif i'w werthu yn Sotheby's yn 1976 gan Miss Margaret Mostyn.

Immediate source of acquisition or transfer

Sotheby's; Llundain; Prynwyd (gyda nawdd gan Gyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru) mewn arwerthiant, lot 255; 14 Rhagfyr 1976.

Content and structure area

Scope and content

Llawysgrif, [17 gan., canol], yn ôl pob tebyg yn llaw William Maurice, Llansilin, yn cynnwys barddoniaeth gaeth Gymraeg, cywyddau gan mwyaf, o waith o leiaf chwech ar hugain o feirdd. = A manuscript, [mid-17 cent.], probably in the hand of William Maurice, Llansilin, containing Welsh strict-metre poetry, mostly cywyddau, by at least twenty-six poets.
Priodolir y cerddi i'r beirdd canlynol: Tho[mas] Prys (ff. 1, 8-9), Y Meister Sion Tudur (f. 1 recto-verso), Sr. Gruffydd Owen (ff. 1 verso-2 verso, 5 verso-6 verso, 10 recto-verso, 24 verso-25), y Bedo Brwynllys (ff. 2 verso-3), Bedo Aryrddrem (ff. 3, 21 verso, 26), Huw Arwystli (ff. 3 recto-verso, 26-27), Rys Cain (f. 4 recto-verso), Morys Dwyfech (ff. 5 recto-verso, 25-26), Sion Phylip (ff. 6 verso-7), Sr Dafydd Owain (ff. 7 verso-8), W[illia]m llŷn (ff. 9 recto-verso, 12 verso-13), Sr Phylip Emlyn (ff. 10 verso-11), Ifan Dyfi (ff. 11-12), Dafydd ap Gwilim (ff. 12 recto-verso, 16, 17 verso-18, 20-21, 27 recto-verso, 28-29 verso, 30 verso), Sion Cain (ff. 13 verso-14), y Meistr Hughe Machno (ff. 14-15), Einion ab Gwalchmai (f. 15 verso), Sion Mowddwy (f. 16 verso), Tudur Aled (f. 17 recto-verso), Dafydd ap Edmwnt (ff. 18 verso-19), Dafydd Nanmor (f. 19 recto-verso), Gwillim tew brydydd (ff. 19 verso-20), Lewis Môn (f. 21), William Cynwal (ff. 21 verso-23, 24), 'Mr Roberts or tu hwnt ir môr' [Dr Gruffydd Robert, Milan] (ff. 23 verso-24) a Simwnt Vychan (ff. 27 verso-28, 30). Mae ambell i gerdd yn ddienw (ff. 4 verso-5, 7 recto-verso, 16, 18 recto-verso, 22 recto-verso). Mae yna nodiadau o ramadeg barddol, yn trafod yr englyn unodl union a'r englyn unodl cyrch, ar f. 30. Ceir nodiadau yma ac acw, mewn llaw o'r ddeunawfed ganrif, yn awgrymu dyddiadau blodeuo'r beirdd (e.e. f. 3: '1500 medd Thomas Richards'); daw y rhain o restr yn Thomas Richards, Antiquae Linguae Britannicae Thesaurus... (Bryste, 1753). = The poems are attributed to the following: Tho[mas] Prys (ff. 1, 8-9), Y Meister Sion Tudur (f. 1 recto-verso), Sr. Gruffydd Owen (ff. 1 verso-2 verso, 5 verso-6 verso, 10 recto-verso, 24 verso-25), y Bedo Brwynllys (ff. 2 verso-3), Bedo Aryrddrem (ff. 3, 21 verso, 26), Huw Arwystli (ff. 3 recto-verso, 26-27), Rys Cain (f. 4 recto-verso), Morys Dwyfech (ff. 5 recto-verso, 25-26), Sion Phylip (ff. 6 verso-7), Sr Dafydd Owain (ff. 7 verso-8), W[illia]m llŷn (ff. 9 recto-verso, 12 verso-13), Sr Phylip Emlyn (ff. 10 verso-11), Ifan Dyfi (ff. 11-12), Dafydd ap Gwilim (ff. 12 recto-verso, 16, 17 verso-18, 20-21, 27 recto-verso, 28-29 verso, 30 verso), Sion Cain (ff. 13 verso-14), y Meistr Hughe Machno (ff. 14-15), Einion ab Gwalchmai (f. 15 verso), Sion Mowddwy (f. 16 verso), Tudur Aled (f. 17 recto-verso), Dafydd ap Edmwnt (ff. 18 verso-19), Dafydd Nanmor (f. 19 recto-verso), Gwillim tew brydydd (ff. 19 verso-20), Lewis Môn (f. 21), William Cynwal (ff. 21 verso-23, 24), 'Mr Roberts or tu hwnt ir môr' [Dr Gruffydd Robert, Milan] (ff. 23 verso-24) and Simwnt Vychan (ff. 27 verso-28, 30). A few further poems are anonymous (ff. 4 verso-5, 7 recto-verso, 16, 18 recto-verso, 22 recto-verso). There are notes from a bardic grammar, discussing the 'englyn unodl union' and the 'englyn unodl cyrch', on f. 30. Notes added here and there, in an eighteenth-century hand, give suggested floruit dates for the poets (e.g. f. 3: '1500 medd Thomas Richards'); these are taken from a list in Thomas Richards, Antiquae Linguae Britannicae Thesaurus... (Bristol, 1753).

Appraisal, destruction and scheduling

Accruals

System of arrangement

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Conditions governing reproduction

Amodau hawlfraint arferol.

Language of material

  • Welsh

Script of material

Language and script notes

Cymraeg.

Physical characteristics and technical requirements

O leiaf 3 deilen ar goll ar gychwyn y gyfrol; dalennau ar goll wedi ff. 3, 9, 21 a 27, ac ar y diwedd. Trwsiwyd yn helaeth â phapur tryloyw [?yn 1912] gan golli rhannau o'r testyn ar ff. 1-2, 27-30; ymylon dalennau yn parhau yn fregus.

Finding aids

Ceir disgrifiad manwl o gynnwys y llawysgrif yn 'Catalog Llawysgrif Mostyn Talacre' (1977): https://archifau.llyfrgell.cymru/external_documents/Mostyn_Talacre.pdf

Mynegeiwyd y cerddi yn y gyfrol yn y mynegai ar-lein i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau (MALDWYN): https://www.llyfrgell.cymru/index.php?id=12888 (gwelwyd Mawrth 2023).

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Related descriptions

Publication note

Dafydd Ifans, 'Llawysgrif Barddoniaeth Teulu Mostyn Talacre', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 20 (1977-8), 207-208.

Notes area

Note

Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls003844361

Project identifier

ANW

Access points

Place access points

Name access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Rules and/or conventions used

Wrth lunio’r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Mawrth 2003 a Medi 2019.

Language(s)

Script(s)

Sources

Archivist's note

Lluniwyd y disgrifiad gan Rhys Jones ar gyfer prosiect ANW, a'i adolygu gan Rhys Jones, yn seiliedig ar waith Dafydd Ifans

Accession area

Related genres

Related places

Physical storage

  • Text: NLW MS 21582E - O leiaf 3 deilen ar goll ar gychwyn y gyfrol; dalennau ar goll wedi ff. 3, 9, 21 a 27, ac ar y diwedd. Trwsiwyd yn helaeth â phapur tryloyw [?yn 1912] gan golli rhannau o'r testyn ar ff. 1-2, 27-30; ymylon dalennau yn parhau yn fregus