Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1980-1996 / (Creation)
Level of description
item
Extent and medium
3 ff.
Context area
Name of creator
Biographical history
Ganwyd y nofelydd Marion Eames ym Mhenbedw, swydd Gaer, ar 5 Chwefror 1921, ond fe'i magwyd yn Nolgellau, Gwynedd. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Dr Williams, Dolgellau. Yn bymtheg oed ymadawodd â'r ysgol i weithio yn Llyfrgell y Sir, Dolgellau, ac yna yn Llyfrgell Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Gweithiodd hefyd am rai blynyddoedd fel trefnydd Plaid Cymru ac yn olygydd ar bapur newydd wythnosol 'Y Dydd' yn Nolgellau.
Ymadawodd â'r papur yn 1954 i symud i Lundain i astudio'r piano a'r delyn yn Ysgol Gerdd y Guildhall. Yno priododd ei gŵr, y newyddiadurwr Griffith Williams, yn 1955. Gweithiodd i gylchgrawn Sefydliad y Merched, 'Home and Country', am gyfnod cyn penderfynu dychwelyd i Gymru yn 1959 i dderbyn swydd fel cynhyrchydd radio i'r BBC yng Nghaerdydd. Yn ogystal i'w gwaith ar y radio, ysgrifennodd rai sgriptiau i Pobol y Cwm yn y dyddiau cynnar. Ymddeolodd o'r BBC yn 1980.
Caiff Marion Eames ei hystyried yn un o brif nofelwyr hanes Cymru. Daeth i amlygrwydd yn dilyn cyhoeddi ei nofelau cyntaf, Y Stafell Ddirgel (1969) ac Y Rhandir Mwyn (1972), y ddwy yn olrhain hanes y Crynwyr yn Nolgellau ac ym Mhennsylfania. Wedi'r llwyddiant a brofodd yn sgil y gweithiau yma, aeth ymlaen i ysgrifennu sawl nofel ar gyfer oedolion ac i blant, gan gynnwys I Hela Cnau (1978) ac Y Gaeaf Sydd Unig (1982), a'r gyfres o storïau byrion Sionyn a Siarli. Bu farw Marion Eames yn Nolgellau ar 3 Ebrill 2007.
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Dr Rhidian Griffiths; Aberystwyth; Rhodd; Ebrill 2007; 004508335.
Content and structure area
Scope and content
Tri llythyr oddi wrth Marion Eames, Caerdydd, 1980, a Dolgellau, 1991, 1996, at Dr Rhidian Griffiths, Aberystwyth, yn trafod ei gwaith ei hun a darlithoedd gan Dr Griffiths. = Three letters from Marion Eames, Cardiff, 1980, and Dolgellau, 1991, 1996, to Dr Rhidian Griffiths, Aberystwyth, discussing her own work and lectures by Dr Griffiths.
Mae'r llythyrau yn cynnwys cyfeiriadau at Llinos a Beverley Smith, at ei hymchwil ar gyfer y nofel Y Gaeaf Sydd Unig (Llandysul, 1982) (f. 80 recto-verso), ac atgofion personol o'r cerddor John Hughes, Dolgellau (f. 82 recto-verso). = The letters include references to Llinos and Beverley Smith, to her research for her novel, Y Gaeaf Sydd Unig (Llandysul, 1982) (f. 80 recto-verso), and her memories of the musician John Hughes, Dolgellau (f. 82 recto-verso).
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Trefnwyd yn ôl dyddiad yn LlGC.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Conditions governing reproduction
Language of material
Script of material
Language and script notes
Cymraeg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.
Note
Preferred citation: NLW MS 23925E, ff. 80-82.
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
- Eames, Marion -- Correspondence (Subject)
- Smith, J. Beverley. (Subject)
- Hughes, John, 1896-1968. (Subject)
- Smith, Llinos Beverley. (Subject)
- Eames, Marion. Y Gaeaf Sydd Unig. (Subject)
- Griffiths, Rhidian -- Correspondence. (Subject)
- Griffiths, Rhidian. (Subject)