Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1889-1892, 1909 (Creation)
Level of description
File
Extent and medium
79 ff. (plygwyd rhai dalennau yn wreiddiol yn ddwy ddalen)
Gosodwyd mewn llewys melinecs a blwch modrwyog yn LlGC.
Context area
Name of creator
Biographical history
Ganwyd Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd, newyddiadurwr, cyfieithydd, nofelydd, dramodydd, beirniad ac ysgolhaig, yn y Gwyndy Uchaf, Betws yn Rhos, sir Ddinbych. Yn 1899 priododd Margaret Davies, a chawsant ferch a dau fab. Heblaw am addysg elfennol, yr oedd Jones yn hynanddysgedig, er iddo dderbyn gwersi mewn mathemateg, Lladin a Groeg gan gymydog. Rhwystrwyd ei uchelgais o astudio yn Rhydychen gan afiechyd, a gweithiodd fel newyddiadurwr gyda Baner ac Amserau Cymru, Y Cymro (y daeth yn olygydd arno faes o law), Yr Herald Gymraeg a phapurau newydd eraill rhwng 1891 a 1909, pan gymerodd swydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1913, a'i ddyrchafu i Gadair Gregynog mewn Llenyddiaeth Gymraeg yn 1919; ymddeolodd yn 1937. Derbyniodd y CBE yr un flwyddyn. Dylanwadwyd Jones yn gryf gan y llenor Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan,1851-1906) ac yn arbennig gan y newyddiadurwr a'r cyfieithydd Daniel Rees (1855-1931), gyda'r hwn y magodd berthynas glos. Yn ogystal ag ymhyfrydu mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg cyfoes ac o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygodd ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg yr oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar, a hefyd llên gwerin ac ieithoedd tramor, yn enwedig Gwyddeleg ac ieithoedd Celtaidd eraill; bu ar ymweliad ag Iwerddon deirgwaith rhwng 1892 a 1913, daeth i gysylltiad ag ysgolheigion Gwyddelig, a defnyddiodd lysenwau fel Fionn mhac Eóghain yn ei ohebiaeth atynt. Ei brif lwyddiant oedd fel bardd pwysicaf ei genhedlaeth, yn cyfansoddi'n bennaf yn y mesurau caeth. Cyfansoddodd a chyhoeddodd farddoniaeth yn y 1880au, ac enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1902 a 1909 (am 'Ymadawiad Arthur a 'Gwlad y bryniau'); ymhlith gweithiau eraill o'i eiddo mae 'Tir na nOg', 'Madog' ac 'Y Dwymyn'. Cyfieithodd Jones waith Goethe, Ibsen, Shakespeare ac eraill i'r Gymraeg, a chyhoeddodd gyfieithiad Saesneg o Gweledigaethau y Bardd Cwsc Ellis Wynne (1670/1-1734). Mae ei brif gyhoeddiadau academaidd yn cynnwys astudiaeth ar waith y bardd Tudur Aled (bl. 1480-1526), ac roedd yn awdur nofelau, dramâu, cofiannau a llyfr taith hefyd. Yn ogystal, yr oedd yn beirniadu a darlithio mewn eisteddfodau yn rheolaidd, ac yn athro dylanwadol.
Name of creator
Biographical history
Name of creator
Biographical history
Griffith Evans (1835-1935) was a bacteriologist and a pioneer in research into parasitology. Griffith Evans's home was Tynmawr, Towyn, Merionethshire, and he later attended the Royal Veterinary College in London, 1854-1855. Before working in Canada at Mc Gill University, 1861-1864, he was a veterinary surgeon at Woolwich. In 1870, he returned to Britain and lived in Ipswich for some years. From 1877-1885 he did research in India, where he discovered the first pathological trypanosome now known as Trypanosoma Evansi in Surra in 1880. In 1890 he settled in Brynkynallt, Bangor, where he became lecturer at the University College's Agricultural Department until 1910. He gave lectures on medical subjects largely connected with Christian Healing.
Archival history
Mae'n debyg i'r llythyrau gael eu hetifeddu gan Tudur Rowlands, mab R. S. Rowlands (gweler David Jenkins, Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Dinbych, 1973), t. 10), ac wedyn gan Dr D. ap T. Rowlands, mab Tudur.
Immediate source of acquisition or transfer
Mrs Elma Rowlands, gweddw Dr D. ap T. Rowlands; Ynys Môn; Rhodd; Ebrill 2021; 991106532902419.
Content and structure area
Scope and content
Wyth llythyr ar hugain, 1889-1892, oddi wrth T. Gwynn Jones at ei gyfaill R[owland] S[amuel] Rowlands, Tywyn, Abergele (yn ddiweddarach yn fyfyriwr yn Holt Academy, sir Ddinbych, ac yna yn astudio milfeddygaeth yng Nghaeredin), ynghyd ag eitemau eraill amgaeëdig, yn cynnwys tua un ar hugain o gerddi, i gyd yn ôl pob golwg heb eu cyhoeddi. Yn y llythyrau mae Gwynn yn trafod barddoniaeth, gwaith a materion personol. = Twenty-eight letters, 1889-1892, from T. Gwynn Jones to his friend R[owland] S[amuel] Rowlands of Tywyn, Abergele (later a student at Holt Academy, Denbighshire, and then a student of veterinary medicine at Edinburgh), together with other enclosed items, including some twenty-one poems, all apparently unpublished. In the letters Gwynn discusses poetry, work and personal matters.
Mae'r cerddi un ai ar ddalennau ar wahân (ff. 3-4, 7-8, 10-12, 14, 26, 31-32, 38-39, 71-74) neu wedi eu cynnwys yn y llythyrau (ff. 23-25 verso, 27 verso, 29 verso, 44 verso, 46 recto-verso, 62, 63). Mae'r amgaeëdigion eraill yn cynnwys llyfryn o gartwnau yn dwyn y teitl 'Darluniau Cymdeithasol', [1889] (ff. 15-22), 'Rhestr o Destynau [sic] Eisteddfod y Beirdd Serch' (ff. 35-36), darn o ryddiaith am y cymeriadau 'Ned y Dolphin' a 'Syr Harri' (ff. 75-78) a cherdd gan R. S. Rowlands ar 'Synnwyr y Fawd', ar gyfer Cyfarfod Cystadleuol Abergele, Nadolig 1889 (f. 37). Mae llythyr at Rowlands oddi wrth Griff[ith] Evans, Brynkynallt, Bangor, 13 Ebrill 1909, yn ymwneud a'r N[orth] W[ales] V[eterinary] M[edical] A[ssociation] (f. 79). Mae Gwynn yn arwyddo'i lythyrau mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys 'Gwynn ap Iwan', 'Gwynnvre ap Iwan', 'Thomas Gwynn ap Iwan' a 'Syr Pedr Bennwann'; ceir 'T. Gwynn-Jones' am y tro cyntaf ar 15 Ionawr 1891 (f. 44). = The poems are either on separate leaves (ff. 3-4, 7-8, 10-12, 14, 26, 31-32, 38-39, 71-74) or incorporated in individual letters (ff. 23-25 verso, 27 verso, 29 verso, 44 verso, 46 recto-verso, 62, 63). Other enclosures include a booklet of cartoons entitled 'Darluniau Cymdeithasol' ['Society Pictures'], [1889] (ff. 15-22), a satirical list of competitions for 'Eisteddfod y Beirdd Serch' (ff. 35-36), a prose fragment concerning the characters 'Ned y Dolphin' and 'Syr Harri' (ff. 75-78) and a poem by R. S. Rowlands entitled 'Synnwyr y Fawd', written for Cyfarfod Cystadleuol Abergele, Christmas 1889 (f. 37). A single letter to Rowlands from Griff[ith] Evans, Brynkynallt, Bangor, 13 April 1909, relates to the affairs of the N[orth] W[ales] V[eterinary] M[edical] A[ssociation] (f. 79). Gwynn signs his letters in a number of ways, including 'Gwynn ap Iwan', 'Gwynnvre ap Iwan', 'Thomas Gwynn ap Iwan' and 'Syr Pedr Bennwann'; 'T. Gwynn-Jones' appears for the first time on 15 January 1891 (f. 44).
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Trefnwyd yn fras yn ôl dyddiad yn LlGC.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- Welsh
- English
Script of material
Language and script notes
Cymraeg, Saesneg, ychydig o Ffrangeg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Publication note
David Jenkins, Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Dinbych, 1973)
Notes area
Note
Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.
Alternative identifier(s)
Rhif rheoli system Alma
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio’r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Ebrill 2022.
Language(s)
Script(s)
Sources
Archivist's note
Lluniwyd y disgrifiad gan Rhys Jones.