Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1926, 1933-2001 / (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
15 bocs (0.135 metrau ciwbig)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Yr oedd John Gwyn(edd) Griffiths (1911-2004) yn fardd, beirniad, golygydd ac ysgolhaig. Fe'i ganwyd yn Y Porth, Y Rhondda, 7 Rhagfyr 1911, yn fab i'r Parchedig Robert Griffiths, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Eglwys Moreia, a'i wraig Mima. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir y Bechgyn, yn Y Porth, graddiodd mewn Lladin a Groeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a'i addysgu ym Mhrifysgolion Cymru, Lerpwl a Rhydychen. Priododd Kate Bosse yn 1939 a ganwyd dau fab iddynt yn ddiweddarach, Robat a Heini. Sefydlodd Gylch Cadwgan yn ystod yr Ail Ryfel Byd gyda'i briod Kate Bosse-Griffiths yn eu cartref yn Y Porth. Bu'n athro ysgol yn ei hen ysgol yn Y Porth, 1939-1943, ac yn athro Lladin yn Ysgol Ramadeg Y Bala, 1943-1946, cyn cael ei benodi'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe yn 1947. Rhwng 1965 a 1966 bu'n ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgol Cairo. Bu'n gyd-olygydd cylchgrawn Y Fflam gydag Euros Bowen a Pennar Davies ac yn olygydd Y Ddraig Goch hefyd, 1948-1952. Cyhoeddodd bedair cyfrol o gerddi hefyd. Bu'n olygydd cyfres yr Academi Gymreig o drosiadau Cymraeg o weithiau rhyddiaith rhwng 1979 a 1995. Bu’n ysgrifennydd a llywydd Adran Glasurol Urdd y Graddedigion Prifysgol Cymru. Safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru mewn etholiadau lleol a seneddol. Bu farw 15 Mehefin 2004.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Robat Gruffudd, Tal-y-bont, a Heini Gruffudd, Abertawe, meibion J. Gwyn Griffiths; Rhodd; Ionawr 2005; 0200500731.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau personol, proffesiynol a llenyddol J. Gwyn Griffiths, 1926-2001, gan gynnwys llythyrau oddi wrth gyfeillion, ysgolheigion a llenorion. Ceir papurau'n ymwneud â'i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac fel adolygydd llyfrau, ynghyd â rhai o bapurau ei wraig Kate Bosse-Griffiths a'i frawd D. R. Griffith.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd yn LlGC yn dri grŵp: papurau personol, papurau llenyddol a phapurau llenorion eraill.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â'r amodau a nodir ar y ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data' a gyflwynir iddynt gyda'u tocynnau darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg oni noder yn wahanol.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Cwblhawyd y disgrifiad Ebrill 2010.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Ann Francis Evans.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Meic Stephens (gol.), Cydymaith i lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997), ysgrif goffa gan Heini Gruffudd yn Inscriptions, Awst 2004, sef cylchlythyr ffrindiau'r Ganolfan Eifftaidd, Abertawe, ac eitemau o fewn yr archif;