Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [?1847]-2019 (crynhowyd [1920au]-1999) (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
0.218 metrau ciwbig (15 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Bardd a golygydd oedd Mathonwy Hughes. Fe'i ganwyd ym 1901 yn Llanllyfni, Sir Gaernarfon, yn fab i Ellen a Joseph Hughes, ac yn nai i'r Prifardd R. Silyn Roberts. Addysgwyd ef yn Ysgol Clynnog, ac yna yn nosbarthiadau Mudiad Addysg y Gweithwyr. Priododd Mair Davies ym 1956, ac ymgartrefodd y ddau yn Ninbych. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol 1956, a chyhoeddodd bedair cyfrol o farddoniaeth, pedwar casgliad o ysgrifau, cyfrol o hunangofiant a chyfrol deyrnged i Gwilym R. Jones. Bu'n olygydd cynorthwyol Baner ac Amserau Cymru o 1949 hyd ei ymddeoliad ym 1979, ac yn aelod brwdfrydig, fel myfyriwr a darlithydd, o Fudiad Addysg y Gweithwyr. Bu farw ym mis Mai 1999.
Hanes archifol
Wedi ei farwolaeth ym mis Mai 1999 aeth y rhoddwyr trwy ei bapurau cyn eu trosglwyddo i'r Llyfrgell. Credir bod rhai papurau wedi eu difa.
Ffynhonnell
Rhodd gan Mr a Mrs Berwyn Roberts, Dinbych, ysgutorion Mathonwy Hughes, 4 Ebrill 2000; A2000/23
Rhodd gan Berwyn ac Olwen Roberts, Dinbych, Medi 2021; 99204350202419
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae'r fonds yn cynnwys ei lawysgrifau llenyddol; gohebiaeth bersonol, [?1903]-1992; papurau'n ymwneud â'i deulu, yn enwedig ei ewythr R. Silyn Roberts, [?1847]-[?1986]; papurau'n gysylltiedig â'i waith fel golygydd cynorthwyol Y Faner, 1949-1992; ynghyd â nodiadau a darlithoedd a baratowyd ganddo ar gyfer dosbarthiadau Mudiad Addysg y Gweithwyr, [?1936]-1991.
Mae'r papurau ychwanegol (Rhodd Medi 2021), 1894-2019 (gyda bylchau), yn cynnwys gohebiaeth, barddoniaeth, ysgrifau, papurau'n ymwneud â'r Faner, ffotograffau a phapurau pobl eraill.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd y cyfan o bapurau Mathonwy Hughes a roddwyd i'r Llyfrgell..
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn chwe grŵp: papurau personol, [?1862]-1995; papurau llenyddol, [?1915]-[?1999]; papurau yn ymwneud â'r Faner, [1949]-1992; papurau Mudiad Addysg y Gweithwyr, [?1936]-1991; papurau teuluol, [?1847]-[?1986]; a Rhodd 2021, [1850]-2019.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r rhestr yn LlGC, Archifdy Sir Ddinbych a Llyfrgell Prifysgol Cymru Bangor.
Cymorth chwilio a gynhyrchir
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Alma system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LLGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Mehefin 2000 a Mai 2023.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Rhian Phillips ac Ann Francis Evans.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Ysgrifau Coffa 1999 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2000), tt. 56-59 a Derwyn Jones et al, Cofio Mathonwy (Caernarfon, 2001).