Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1932-1998 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Is-fonds
Maint a chyfrwng
1011 o flychau
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes gweinyddol
Sefydlwyd y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (sydd yn fwy adnabyddus fel y BBC), gyda'i chanolfan yn Broadcasting House, Portland Square, Llundain, trwy Siarter Frenhinol yn 1927, gydag awdurdod i ddarparu gwybodaeth, i addysgu ac i ddiddanu ei chynulleidfa ar draws nifer fawr o feysydd yn cynnwys materion cyfoes, y celfyddydau a diwylliant, addysg, crefydd a chwaraeon. Derbyniodd ei rhagflaenydd, y Cwmni Darlledu Prydeinig, ei drwydded i ddarlledu yn 1923, a dechreuodd y gwasanaeth darlledu cyhoeddus yng Nghymru yr un flwyddyn pan agorwyd gorsaf radio yng Nghaerdydd, gan ddarparu rhaglenni yn y Gymraeg a Saesneg. Derbyniodd Rhanbarth Cymru y BBC ei thonfedd arbennig ei hun ar gyfer darllediadau sain ym 1937, a rhoddwyd tonfedd arall ar wahân iddi ym 1964 ar gyfer darllediadau teledol; adnabyddir y Rhanbarth Cymreig yn BBC Wales ers hynny. Cafodd rhaglenni Cymraeg eu darlledu gyntaf ar y teledu yn 1953, a darlledir darpariaeth ddyddiol ers 1957; mae'r sianel Gymraeg yn cael ei hadnabod fel BBC Cymru. Bu'r gorsafoedd radio Saesneg a Chymraeg (Radio Wales a Radio Cymru) yn unedau ar wahân ers 1977. Erbyn hyn, adnabyddir y BBC yng Nghymru yn ei chyfanrwydd - yn cynnwys BBC Wales, BBC Cymru, Radio Wales a Radio Cymru - fel BBC Cymru Wales hefyd.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Sgriptiau a chopïau o sgriptiau, yn Gymraeg a Saesneg, yn cynnwys: sgyrsiau, 1937-1975; dramâu, 1937-1975; rhaglenni nodwedd, 1937-1975; sgyrsiau nodwedd, 1938-1975; Awr y Plant (sgyrsiau; storiâu, dramâu a rhaglenni nodwedd; ac amrywiol), 1932-1974; ysgolion,1935-1975; Good Morning Wales, 1970-1975; storiâu, 1970-1975; cerddoriaeth,1937-1975; crefydd,1943-1975; rhaglenni chwaraeon,1972-1975; cyfres wreiddiol o sgriptiau y BBC yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1935-1977; Wales Today, 1972-1998; Heddiw, 1971-1982; a Pobol y Cwm, 1991-1998.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Trefnwyd yn ôl adnau ac mewn bocsys fesul math a dyddiad.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg a Saesneg
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Gellir gweld a chwilio'r sgriptiau yn yr Adneuon yma trwy ddefnyddio'r dolenni isod.
ARCHEBU
Pan yn archebu o'r rhestr hon, dylid gwneud Cais Di-Gatalog; cysylltwch â staff y Llyfrgell am gymorth.
Dylai pob cais:
• Ddyfynnu Sgriptiau BBC (Adneuon 1960-1998)
• Nodi cyfeirnod a theitl y sgript
• Gynnwys dim mwy nag UN eitem
Dilynwch y dolenni canlynol i weld a chwilio'r catalog:
https://archives.library.wales/external_documents/Britishbc1.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/Britishbc2a.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/Britishbc2b.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/Britishbc3.pdf
Rhestr gyffredinol o flychau 1-672 yw'r rhan cyntaf o'r catalog; fe grewyd hon gan LlGC. Mae'r ail ran a'r trydydd rhan o'r catalog yn cynnwys disgrifiadau manwl o flychau 1-110 a 111-194 yn eu tro; fe grewyd rhain gan staff Cofrestrfa'r BBC yng Nghaerdydd.a maent yn cwmpasu'r pedair adnau cyntaf. Mae blychau 673-1011 heb eu catalogio.
Mae copi caled o'r catalog ar gael yn yr Ystafell Ddarllen.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Project identifier
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
1986-2023
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd y disgrifiad gan Dafydd Ifans, Ann Goddard a David Moore.