Showing 1033 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales File Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Amryw

Amryw, gan gynnwys nodyn yn ymwneud ag ymddeoliad J. E. Jones, 1962; cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwaith, Aberystwyth, 21 Medi 1963, a rheolau sefydlog yn ôl penderfyniadau'r Pwyllgor Gwaith; llythyrau oddi wrth Gwynfor Evans ac R. E. [Jones?], Aberystwyth, i Nans Jones, 1970; torion papur yn ymwneud â charreg coffa Waldo, 1978, a R. E. Jones, Llanrwst, 'Ail Lyfr o Idiomau Cymraeg', [1987].

Am brydferthwch daear fyd,

Sgôr mewn llawysgrif o 'Am brydferthwch daear fyd', gan J. S. Bach, trefniant gan Gilmor Griffiths, geiriau F. S. Pierpoint. Hefyd fersiwn yn sol-ffa.

Album y Bont

  • NLW MS 24131C.
  • File
  • 1840-1891, 1901 (crynhowyd 1872-1901)

Albwm llofnodion, 1872-1878, 1901, a fu'n eiddo i Sarah Williams, Bont Dolgadfan, Llanbrynmair, sir Drefaldwyn, yn cynnwys enghreifftiau o farddoniaeth, emynau a rhyddiaith Cymraeg a Saesneg yn nwylo tua 123 o weinidogion, beirdd ac unigolion eraill a oeddynt yn adnabod ei thad, William Williams (Gwilym Cyfeiliog). Ceir yn y gyfrol yn ogystal dau ddeg pedwar o lythyrau, 1840-1891, 1901, y rhan fwyaf at Gwilym Cyfeiliog neu ei blant, a phedwar eitem arall, i gyd wedi'i tipio i mewn. = Autograph album, 1872-1878, 1901, of Sarah Williams of Bont Dolgadfan, Llanbrynmair, Montgomeryshire, containing examples of poetry, hymns and prose in Welsh and English in the hands of some 123 Nonconformist ministers, poets and other individuals, mostly acquainted with her father William Williams (Gwilym Cyfeiliog). Also included are twenty-four letters, 1840-1891, 1901, mostly addressed to Gwilym Cyfeiliog or his children, and another four items, all tipped into the volume.
Ymysg y cyfranwyr mae Mynyddog (f. 32), [William Rees] (G[wilym] Hiraethog) (f. 53 verso), [Richard Roberts] (Gruffydd Risiart) (f. 66 verso) a Ieuan Gwyllt (f. 74). Ceir llythyrau gan W[illiam] Rowlands (Gwilym Leyn), [18]64 (f. 3), S[amuel] R[oberts], 1876 (ff. 10-11), [y Parch.] Richard [Williams], [ewythr Sarah Williams], [18]42 (f. 14), John Evans (I. D. Ffraid), 1870 (f. 18), [y Parch.] Henry Rees, [18]59 (f. 21), J. R. Kilsby Jones, Tachwedd-[Rhagfyr] 1866 (ff. 23-24, 28 verso-29 (copi)), J[oseph] Parry, 1870 (f. 26), E[dward] Stephen (Tanymarian) (f. 31), [y Parch.] John Elias, 1840 (f. 41), James Sauvage, 1882 (ff. 45-46), Fre[deri]ck Hanbury Tracy [AS], 1878 (f. 50), Mary Davies, [18]83 (f. 61), Cranogwen, 1867 (f. 65 recto-verso), ac eraill. Hefyd yn y gyfrol mae copi o'r emyn pedair pennill, yn cychwyn 'Er mai hollol groes i nattur…', o waith Ann Griffiths, yn llaw y Parch. John Hughes Pontrobert, [?1840au] (ff. 56 recto-verso; gw., er enghraifft, Gwaith Ann Griffiths, [gol. gan O. M. Edwards] (Llanuwchllyn, 1905), tt. 30-31), ar gefn byr-gofiant Thomas Meredith, Llanbrynmair, gan 'WH' [?William Howell] (ff. 56 verso-57; gw. hefyd f. 52). = The contributors include Mynyddog (f. 32), [William Rees] (G[wilym] Hiraethog) (f. 53 verso), [Richard Roberts] (Gruffydd Risiart) (f. 66 verso) and Ieuan Gwyllt (f. 74). There are letters from W[illiam] Rowlands (Gwilym Leyn), [18]64 (f. 3), S[amuel] R[oberts], 1876 (ff. 10-11), [the Rev.] Richard [Williams], [Sarah Williams's uncle], [18]42 (f. 14), John Evans (I. D. Ffraid), 1870 (f. 18), [the Rev.] Henry Rees, [18]59 (f. 21), J. R. Kilsby Jones, November-[December] 1866 (ff. 23-24, 28 verso-29 (copy)), J[oseph] Parry, 1870 (f. 26), E[dward] Stephen (Tanymarian) (f. 31), [the Rev.] John Elias, 1840 (f. 41), James Sauvage, 1882 (ff. 45-46), Fre[deri]ck Hanbury Tracy [MP], 1878 (f. 50), Mary Davies, [18]83 (f. 61), Cranogwen, 1867 (f. 65 recto-verso), among others. Also inserted into the volume is a copy of the hymn of four stanzas beginning 'Er mai hollol groes i nattur…' by Ann Griffiths in the hand of the Rev. John Hughes, Pontrobert, [?1840s] (f. 56 recto-verso; see, for instance, Gwaith Ann Griffiths, [ed. by O. M. Edwards] (Llanuwchllyn, 1905), pp. 30-31), written on the reverse of a brief memoir of Thomas Meredith, Llanbrynmair, by 'WH' [?William Howell] (ff. 56 verso-57; see also f. 52).

Williams, Sarah, 1859-1920

'Alawon Fy Ngwlad', Nicholas Bennett (x-xi)

Mae’r ffeil yn cynnwys dau focs mynegai (coch a glas) yn nodi’r alawon sydd yn ‘Alawon Fy Ngwlad’ Nicholas Bennett wedi trefnu fesul alaw A-M (ff. 1-332), N-Y (333-533). Nodir rhif y gyfrol a'r dudalen, teitl y gân, fersiwn sol-ffa, a chyfeiriad at lawysgrifau.

Cyfeiriadau at RM= Llawysgrif Richard Morris o Gerddi, 1931 gan T.H. Parry-Williams. Ar y cefn ceir gwybodaeth wahanol ac ymddengys eu bod yn ail ddefnyddio cardiau mynegai alawon Saesneg.

Casglodd Nicholas Bennett dros 700 o alawon Cymreig, a chyhoeddwyd 500 ohonynt mewn dwy gyfrol yn 1896, o dan yr enw Alawon fy Ngwlad , wedi eu dewis a'u trefnu gan Emlyn Evans; yn y llyfr ceir darluniau a bywgraffiadau o delynorion a chantorion gyda'r tannau , a nodiadau eglurhaol ar y dull o ganu gyda'r tannau

Alawon carolau (v-vi)

Mae’r ffeil yn cynnwys dau focs mynegai Phyllis Kinney (1 llwyd ac 1 coch) wedi eu trefnu A-F (ff.1-248), G-Y (ff.249-524). Maent yn nodi enw'r alaw, enw'r llawysgrif, ac yn cynnwys hen nodiant, a nodiadau.

Ail lawysgrif Gwilym Elian

Llyfr nodiadau yn cynnwys barddoniaeth, englynion yn bennaf, 1862-1900, yn llaw William Cosslett (Gwilym Elian), ar amrywiol bynciau, gyda nifer yn ymwneud ag ardaloedd Pontypridd a Chaerffili. = A notebook containing holograph poetry, mainly englynion, 1862-1900, of William Cosslett (Gwilym Elian), on a variety of subjects, with many relating to the Pontypridd and Caerphilly areas.
Mae'r farddoniaeth yn cynnwys marwnadau, beddargraffiadau a cherddi mawl i Gwilym ap Rhys (f. 11 verso), Joseph Edwards (ff. 14 verso-15), Ardalydd Bute (f. 24 recto-verso), Stonewall Jackson (f. 29 recto-verso), H. H[ussey] Vivian (f. 30), David Pugh, [A.S.] (f. 30), E[van] Mat[t]hew Richards (f. 30 verso), [Alexandra], Tywysoges Cymru (ff. 31 verso-32), Alaw Goch (ff. 41 verso-42, 46 verso-47), Ioan Emlyn (ff. 56, 80), Telynog (f. 60), y Farwnes Windsor (ff. 60 verso-61), Syr Thomas Picton (ff. 64 verso-65), [W. E.] Gladstone (f. 68 verso), Caledfryn (f. 73 verso), R[isiart] Ddu o Wynedd (f. 74), Talhaiarn (f. 77), Dr [William] Price (ff. 77 verso-78), Ieuan Ddu (f. 80), Eurglawdd (f. 94 verso), Ieuan ab Iago (f. 96), a Llew Hiraethog (f. 112), ymysg eraill. = The poetry includes elegies, epitaphs and poetry in praise of Gwilym ap Rhys (f. 11 verso), Joseph Edwards (ff. 14 verso-15), the Marquess of Bute (f. 24 recto-verso), Stonewall Jackson (f. 29 recto-verso), H. H[ussey] Vivian (f. 30), David Pugh, [M.P.] (f. 30), E[van] Mat[t]hew Richards (f. 30 verso), Alexandra, Princess of Wales (ff. 31 verso-32), Alaw Goch (ff. 41 verso-42, 46 verso-47), Ioan Emlyn (ff. 56, 80), Telynog (f. 60), Baroness Windsor (ff. 60 verso-61), Sir Thomas Picton (ff. 64 verso-65), [W. E.] Gladstone (f. 68 verso), Caledfryn (f. 73 verso), R[isiart] Ddu o Wynedd (f. 74), Talhaiarn (f. 77), Dr [William] Price (ff. 77 verso-78), Ieuan Ddu (f. 80), Eurglawdd (f. 94 verso), Ieuan ab Iago (f. 96), and Llew Hiraethog (f. 112), amongst others.

Agoriad swyddogol y Ganolfan

Gwahoddiadau i agoriad swyddogol adeilad y Ganolfan yn 1993, a derbyniadau; rhestrau o fynychwyr; copïau a drafftiau o areithiau; a llythyrau cysylltiedig yn trafod yr agoriad, oddi wrth W.W. Dieneman; Máirtín Ó Murchú; R. Geraint Gruffydd; Rachel Bromwich; M.A.R. Kemp; Glanville Price; Jonathan Davies; D.R. Southern; R.R. Davies; Margaret Davies; Rhiannon Ifans; P.S. Robinson; Arglwydd Cledwyn o Benrhos; I.C. Jones; J.E. Caerwyn Williams; Derec Llwyd Morgan; Andrea Foale; Ian George; Alun Creunant Davies; G.O. Pierce; Hywel Teifi Edwards; Gareth Owen; Tegwyn Jones; Goronwy Daniel; a Patrick J. Donovan.

'Aelwyd y teulu'

Cyflwynwyd y gyfrol er cof am ei rieni ac yn anrheg 'I Tydfor fy nai ar ei seithfed penblwydd, Medi 2 1941, Wncwl John'. Mae'n cynnwys 'Englynion bore'; 'Englynion yr alltud' i'w frodyr a'i chwiorydd a 'Tydfor, fy nai'; 'Yn yr iaith fain' ac 'Englynion eraill', ynghyd â chyfieithiad i'r Saesneg o 'Hen wlad fy nhadau'.

Adroddiadau ysgol

Adroddiadau ysgol John Eilian, 1911-1915, tra'n ddisgybl yn Ysgol y Cyngor Penysarn, ynghyd â phapurau amrywiol.

Adroddiadau darllenwyr

Adroddiad gan Nesta Wyn Jones ar y nofel Brychan dir gyda'i theitl gwreiddiol 'Rhwng dau dywysog', Y rhod yn troi gan R. Cyril Hughes a Dan faner Dafydd Gam gan Philip Wyn Jones, 1987-1991.

Jones, Nesta Wyn.

Adroddiadau ariannol

Papurau, 1978-1985, yn cynnwys adroddiadau ariannol Apêl Syr Thomas Parry Williams (1978-1983), a datganiad incwm (1984); memoranda (1980; 1982; 1985) yn trafod taliadau ac adroddiadau; datganiadau ariannol cyffredinol (1978-1980); a ffurflen ysgoloriaeth ‘Fulbright’ (1983) gyda llythyrau cysylltiedig (1984-1985) oddi wrth John Koch a J.O.A. Herrington.

Adroddiadau ac adolygiadau

Adroddiadau ac adolygiadau yn ymwneud â’r Pwyllgor Grantiau Prifysgolion, yn cynnwys Adroddiad y Gweithgor Astudiaethau Celtaidd [1988]; adroddiad ar y Ganolfan gan yr Adolygiad Astudiaethau Celtaidd Pwyllgor Grantiau’r Prifysgolion [1988]; adolygiad y Pwyllgor ar Astudiaethau Celtaidd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1987); adroddiad o ymweliad y Pwyllgor Grantiau i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1987); adroddiad y Pwyllgor ar yr Adran Hanes Cymreig, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1987); adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Grantiau i’r Pwyllgor Is-gangellorion a Phenaethiaid [1987]; a chopi o’r Cynllun Academaidd i 1990, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth (1987). Mae’r ohebiaeth (1987-1991), sy'n trafod materion y Pwyllgor Grantiau, yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Jeffrey Pritchard; Graeme Davies; Peter Swinnerton-Dyer; Sheila Seekings-Foster; Gareth Wyn Evans; M.A.R. Kemp; Patrick Sims-Williams; Miranda Aldhouse-Green; Norman Hardyman; a J. Beverley Smith.

Adroddiadau a phapurau trafod

Copïau o 'Darlith i ddathlu 75 mlwyddiant Plaid Cymru - The Party of Wales; traddodwyd ar Awst 9 yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, 2000 gan Dr John Davies'; 'Adroddiad y Comisiwn Polisi Daioni: Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol', 2006; 'Datblygu Awdurdodaeth Gyfreithiol i Gymru', [post 2007]; 'Gwanwyn Gwyrdd: Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Caerfyrddin: Papur Trafod Dilynol', Ebrill 2009; 'Gwneud Cymru'n Ddiogel: Papur Trafod y Gynhadledd', Tachwedd 2009; 'Adroddiad Comisiwn Polisi Plaid Cymru : Rôl Trethi', [c.2010]; The Flotilla Effect: Europe's small economies through the eye of the storm; a report for Jill Evans MEP by Adam Price and Ben Levinger', [c.2010]; 'GallCymru Clyfar. Gwyrdd. Iach' (papur trafod ymgynghorol), 2010; 'Cymru Wledig - Cymru Hyfyw: Adroddiad Tasglu Polisi Plaid Cymru', Awst 2010; 'Ymgynghoriad Polisi: Gweledigaeth y Blaid dros Gymru well', 2014; rhaglen Cynhadledd Wanwyn, Caerdydd, 2014; a 'Plaid Cymru: sut yr ydym yn gweithio', [d.d.].

Results 1001 to 1020 of 1033