- P3
- series
- [1854 x 1999] (crynhowyd [1930 x 1999])
Mae'r gyfres yn cynnwys papurau amrywiol, [1854 x 1999], yn ymwneud â rhai o lenorion ac ysgolheigion amlycaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif.
Mae'r gyfres yn cynnwys papurau amrywiol, [1854 x 1999], yn ymwneud â rhai o lenorion ac ysgolheigion amlycaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif.
Erthyglau ac ysgrifau gan J. E. Caerwyn Williams
Mae'r gyfres yn cynnwys nodiadau a drafftiau llawysgrif a theipysgrif, [1930 x 1999], o erthyglau, ysgrifau a darlithiau gan yr Athro J. E. Caerwyn Williams. Cyhoeddwyd nifer ohonynt.
Mae'r gyfres yn cynnwys deunydd amrywiol, [1950 x 1999], yn ymwneud yn bennaf â chyhoeddi Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1971-1972, dan olygyddiaeth yr Athro Thomas Jones.
University of Wales. Board of Celtic Studies.
Mae'r gyfres yn cynnwys darlithoedd amrywiol, [1930 x 1999], gan yr Athro J. E. Caerwyn Williams ac, o bosib, gan yr Athro J. Lloyd-Jones; ynghyd â rhai anerchiadau a phregethau.
Lloyd-Jones, J. (John), 1885-1956
Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau at J. E. Caerwyn Williams a gohebiaeth deuluol ac amrywiol, [1930 x 1999].
Part of Papurau Erfyl Fychan
Papurau'n ymwneud â llunio traethawd Erfyl Fychan 'The Wayside Entertainer in Wales in the Nineteenth Century' (Lerpwl, 1939), gan gynnwys 'Gwerslyfr y delyn Deir-res' gan Ellis Roberts ('Eos Meirion'), 1858.
Part of Papurau Erfyl Fychan
Llyfr 'testimonials' John Roberts ('Telynor Cymru'), 1853-1887, gydag adysgrif Erfyl Fychan, ynghyd â thorion o'r wasg yn ymwneud â'i fab Ernest Roberts.
Llyfrau nodiadau ac adysgrifau
Part of Papurau Erfyl Fychan
Adysgrifau gan Erfyl Fychan ac eraill a cherddi gwreiddiol ganddo, 1783-1968 (gyda bylchau).
Llawysgrifau gyda manylion adeiladu'r capel a chynlluniau o welliannau i'r capel ac ar gyfer Mans newydd, 1837x[1908], ynghyd â phapurau'n ymwneud â'r capel a'r tŷ capel, 1999-2004.
Gwaith anorffenedig - ysgoloriaeth 1989-1990
Part of Papurau Angharad Tomos
Mae'r gyfres yn cynnwys dau ddarn o waith anorffenedig, ynghyd â pheth gohebiaeth a rhai nodiadau perthynol, a luniodd Angharad Tomos ar ôl ennill Ysgoloriaeth Awdur, Cyngor Celfyddydau Cymru, i'w galluogi i gymryd chwe mis i ysgrifennu yn ystod 1989-1990.
Part of Papurau Angharad Tomos
Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau, teipysgrifau a nodiadau, 1996-1997, yn ymwneud ag ysgrifennu Wele'n gwawrio (1997), a enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 1997, i Angharad Tomos.
Mae'r gyfres yn dadansoddi yn wythnosol casgliad y capel at weithgareddau'r eglwys.
Mae'r gyfres yn cynnwys cyfraniadau aelodau a phlant yr eglwys, 1954-1956 a 1964-1978, at y genhadaeth, diolchgarwch a'r eisteddleoedd. Cofnodir cyfraniadau Hyfrydle yn ogystal â Seilo yn y mwyafrif o'r cyfrolau.
Mae'r gyfres yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd swyddogion y capel, 1889-1965 a 1971-[1972]. Amgaeeir nifer o bapurau a llythyrau yn y cyfrolau, rhai wedi eu gludo ac eraill yn rhydd.
Mae'r gyfres yn cynnwys papurau yn ymwneud â chymdeithasau'r eglwys, 1897-2000 (gyda bylchau), sef y Gymdeithas Ddirwestol, y Gymdeithas Llên a Chân, Cymdeithas y bobl ifanc, a'r dosbarth wnïo. Maent yn cynnwys cofrestri aelodau, llyfrau cofnodion a chyfrifon.
Part of CMA: Cofysgrifau Capel Dinorwig
Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrifon unffurf Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1928-1957, a chofnodion rhif a llafur, [1885]-1954 (gyda bylchau). Ceir rhestri athrawon ac aelodau'r dosbarthiadau ac ystadegau'n ymwneud yn bennaf â phresenoldeb a nifer yr adnodau.
Cofnodion ariannol yr Ysgol Sul
Part of CMA: Cofysgrifau Capel Dinorwig
Mae'r gyfres yn cynnwys cofnodion ariannol yr Ysgol Sul, 1911-1932 a 1942-1960. Nodir enwau a chyfeiriadau aelodau ynghyd â manylion am eu cyfraniadau.
Part of Papurau Ambrose Bebb
Mae'r gyfres yn cynnwys dyddiaduron Ambrose Bebb, yn bennaf o'r cyfnod yr oedd yn byw ym Mangor ac yn ddarlithydd ar staff y Coleg Normal. Mae'r dyddiaduron, yn bennaf, yn cofnodi ei fywyd teuluol, ei waith yn ddarlithydd ac awdur, bywyd y capel, a'i gyfnodau yn Ffrainc a Llydaw, gyda sylwadau ar ddigwyddiadau cyfoes, yr Ail Ryfel Byd, a dyddiau cynnar Plaid Cymru. Ar y cyfan, mae'r cofnodion yn y dyddiaduron yn eithaf llawn, ac eithrio o 1930 hyd 1936. Mae'r dyddiaduron yn rhedeg o Ionawr hyd Ragfyr oni nodir yn wahanol.
Part of Papurau Ambrose Bebb
Mae'r gyfres yn cynnwys dwy gyfrol o nodiadau a dyfyniadau llenyddol, 1916-[?1929].
Part of Papurau Ambrose Bebb
Copi llawysgrif o'i draethawd MA, 'The Contribution of Wales to the British Empire' a gyflwynwyd am radd ym 1920. Mae'r teitl ar y wynebddalen yn awgrymu iddo gael ei gyflwyno i gystadleuaeth eisteddfodol ar un adeg.