Dangos 92 canlyniad

Disgrifiad archifol
is-fonds Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Y Llenor

Mae'r grŵp yn cynnwys llythyrau a drafftiau rhyddiaith a barddoniaeth a anfonwyd at W. J. Gruffydd a T. J. Morgan ar gyfer eu cyhoeddi yn Y Llenor, 1925-1955, cyfraniadau i'r ddau rifyn coffa ar T. Gwynn Jones, 1949, a W. J. Gruffydd, 1955. Mae'n cynnwys, hefyd, bapurau a llythyrau yn ymwneud ag erthygl Prys Morgan ar R. Williams Parry yn Y Genhinen 22, 1972, a chopïau o lawysgrif gan Richard D. Williams (Gwydderig), heb eu dyddio, a llythyr yn ymwneud â'r copïau, 1975.

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954

Rhoddion 1996,

Papurau, 1907-1996, gan gynnwys gohebiaeth, sgriptiau, llawysgrifau gweithiau, beirniadaethau, darlithiau ac anerchiadadu, a phapurau'n ymwneud â'i chyfnod yn darlithio yng Ngholegau'r Barri a'r Drindod ac fel athrawes yn Ysgol Gymraeg Aberystwyrh.

Rhodd 2003,

Gohebiaeth, sgriptiau llwyfan, sgriptiau radio a theledu, cyfansoddiadau, beirniadaethau, darlithiau ac anerchiadau, a dyddiaduron, [1874], 1927-2003, ynghyd â phapurau personol a theuluol a phapurau'n ymwneud â'r Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth.

Rhodd 2001,

Mae'r papurau a dderbyniwyd yn 2001 yn cynnwys nodiadau a drafftiau o'i erthyglau a'i ddarlithoedd; copïau o lawysgrifau; drafftiau o'i nofelau a'i ddramâu; gohebiaeth; ynghyd â chofnodion Pwyllgor Eisteddfod y Barri, 1968.

Rhodd 2001,

Mae'r is-fonds yn cynnwys gohebiaeth etholaethol, yn bennaf yn ymwneud ag achosion etholwyr unigol.

Rhodd 2000,

Gohebiaeth yn bennaf, 1926-1989. Mae nifer helaeth o'r llythyrau'n deillio o'i gyfnod yn olygydd y cylchgrawn Taliesin, 1965-1987. Ceir hefyd lythyrau, 1951-1952, a dderbyniodd tra'n Gymrawd Ymchwil yn Rhufain; papurau'n deillio o'i gyfnod yn ddisgybl yn Ysgol Tŷ Tan Domen, Y Bala, 1927-1934; copi o'i draethawd 'Golwg ar hanes ardal Llawrybetws neu Nantffreuer: o Bethel i lawr i Gaefaes', 1988-1990; a phapurau amrywiol, 1930-1989.

Rhodd 1998,

Gohebiaeth, dyddiaduron, sgriptiau a phapurau amrywiol, 1900-1991.

Rhodd 1983,

Teipysgrifau chwech o'i gyfrolau cyhoeddedig a ymddangosodd rhwng 1957 a 1979 gyda rhai ychwanegiadau a newidiadau llawysgrif.

Rhodd 1975,

Llythyrau at Hughes a'i Fab, 1909-1949, cyfansoddiadau llenyddol Eisteddfod Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, 1942, a chyfansoddiadau eisteddfod Chwilog, 1946.

Pryniad 2005-2006,

Papurau personol, papurau proffesiynol a phapurau llenyddol D. Tecwyn Lloyd, ynghyd â rhai'n ymwneud â hanes lleol a phapurau pobl eraill, [1870]-1998, gan gynnwys nifer helaeth o lythyrau a phapurau'n ymwneud â'i weithiau llenyddol megis ei astudiaeth o Saunders Lewis. Ceir deunydd yn gysylltiedig â'i waith fel golygydd i'r cylchgrawn Taliesin ac fel tiwtor addysg i oedolion.

Papurau teuluol

Papurau yn ymwneud â, ac a grynhowyd gan, aelodau o deulu Iorwerth Peate, 1847-1983, sef ei daid David Peate, ei frawd yntau Morris Peat, George H. Peate, Nansi Peate a Dafydd Peate. Ymhlith y papurau ceir dyddiaduron, llyfrau nodiadau a llythyrau.

Papurau teuluol

Mae'r uned yn cynnwys papurau aelodau amrywiol o deulu Mathonwy Hughes, [?1847]-[?1986].

Canlyniadau 1 i 20 o 92