Showing 59620 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Welsh
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

William Hughes,

Bwthyn, Bow Street. Mae'n falch fod Cerddi Eryri wedi ymddangos o'r wasg, mae'n fodlon dosbarthu parsel (gweler hefyd rhif 488 uchod).

William Griffith,

Hillside, Beddgelert. Diolch iddo am baratoi'r hanes gan ddweud ychydig am ei wraig ac yntau.

W[illia]m George, Cricieth,

Derbyniodd y 'datganiad' yn ei ffurf ddiwygiedig. Anfonodd yr ysgrif ymlaen at Tom Ellis wedi ei harwyddo. Mae pethau yn ddrwg iawn ar y pryd. Ymfalchïa W. J. Gruffydd nad yw ond 60, y mae William George bymtheg mlynedd yn hyn. Bydd W. J. Gruffydd a'i debyg a'u 'llaw ar yr arch wedi y delo allan o'r diluw mawr'.

William George,

Garthcelyn, Cricieth. Sôn am Mr Colin Gresham - ef brynodd Llwyn-yr-hwch nid Mr Hartley, Ffatri'r Jam. Rhoi ychydig o'i hanes.

William G. Roberts,

Trefriw. Rhoi caniatâd i Carneddog roi ei delyneg, "Llewelyn a'i gi" yn y 'Manion'. Canmol gwaith da Carneddog dros lenyddiaeth ei wlad.

W[illia]m G. Griffith, Aberystwyth,

Yngl?n a'r gwaith 'Anturiaethau Cymro yn Affrica' - mae croeso i W. J. Gruffydd newid yr orgraff neu gyfnewid unrhyw beth arall er lles. Mae'n dda ganddo gael barn W. J. Gruffydd ar y gwaith. Nid oedd wedi bwriadu'r gwaith ar ffurf llyfr pan ddangosodd ef i Beriah [Gwynfe Evans]. Mae wedi ymweld â llawer o wledydd anwaraidd ond ni bu iddo ysgrifennu dim amdanynt yn Gymraeg. Gwnaeth hynny yn Saesneg ar gyfer Young Wales a chafodd ei gefnogi i drosi'r cyfryw i'r Gymraeg gan ddau o arholwyr ysgolion Cymru.

Results 3181 to 3200 of 59620