Showing 60064 results

Archival description
Welsh
Advanced search options
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

Cerddi Dewi,

Pedair cerdd gan Dewi [?y rhoddwr, D. T. Davies], Pontarddulais, 1937-1939, sef y tair cerdd holograff 'Llinellau Hiraeth ar ôl Rhosyn', 1937 (ff. 1-3), 'Dafydd a Nabal' (f. 4) ac 'Yr Angladd Heb-Gân', 1939 (ff. 5-7), a thoriad papur newydd o'r gerdd 'Gerddi'r Byd' o'r Llwchwr Gazette, 14 Hydref 1938 (f. 3). = Four poems by Dewi [?the donor, D. T. Davies], Pontarddulais, 1937-1939, comprising three holograph poems, 'Llinellau Hiraeth ar ôl Rhosyn', 1937 (ff. 1-3), 'Dafydd a Nabal' (f. 4) and 'Yr Angladd Heb-Gân', 1939 (ff. 5-7), and a cutting of the poem 'Gerddi'r Byd' from the Llwchwr Gazette, 14 October 1938 (f. 3).

Dewi, of Pontarddulais.

Cerddi diweddarach,

Llyfr nodiadau, 1931-1933, yn cynnwys ei gerddi a ddaeth i'r brig yn Eisteddfod Myfyrwyr Bangor 1931, a cherddi eraill; 'English poems', 1932-1936, mewn llawysgrif a theipysgrif; soned anfuddugol 'Yr Hengwrt', Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau 1949; a 'Dail a Phren (Myfyrdod Hydref)', 1979.

Cerddi drafft,

Llyfr nodiadau yn cynnwys cerddi drafft yn llaw'r bardd, gan gynnwys cerddi a gyhoeddwyd yn Caniadau'r Allt (1927) ac O Drum i Draeth (1929), ynghyd â deunydd amrywiol arall. Ceir rhestr cynnwys isod a nodir, mewn cromfachau, y gyfrol lle'u cyhoeddwyd, rhif y tudalen, ac unrhyw wahaniaeth teitl. 55 ff. F. 1: 'Dinas gaerog daioni...'; 'Yr Orsedd'. Ff. 2-4: 'Calan Mai' [Caniadau'r Allt, t. 30]. Ff. 5-6: 'Ffarwel y Gog' [Caniadau'r Allt, t. 65, 'Canu'n Iach i'r Gog']. Ff. 7-9: 'Cadw'r Oed', 1913 [Caniadau'r Allt, t. 100]. Ff. 10-11: 'Y Castell', 1913 [Caniadau'r Allt, t. 80]. Ff. 11v-12: 'Hiraeth' [Caniadau'r Allt, t. 52]. F. 17: 'Yr Afon'. Ff. 18-21: 'Cadwyn yr Ardd' ("Cydradd a chadwyn arall o'r eiddof yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902") [O Drum i Draeth, t. 23, 'Cadwyn o Englynion "Yr Ardd"']. Ff. 21-4: 'Yn ymyl bwth syml y bardd...' [sef yr ail gadwyn]. Ff. 25-6: 'Y Gerddinen' [4 englyn gan "Dewin y Coed", "Edn y Mynydd", "Brudiwr tan bren", "Yswidw"; O Drum i Draeth, t. 16]. Ff. 27-8: 'Glannau Dwyfor', 1917 [Caniadau'r Allt, t. 25, 'Cyfarch Dwyfor']. Ff. 29-30: 'Can y Gwr Llwm' [Caniadau'r Allt, t. 24]. Ff. 31-2: 'Y Sipsiwn' [Caniadau'r Allt, t. 27]. F. 33: 'Dygwyl Serch (Su y Mor)' [cf. rhifau 1, f. 16v; 9, f. 61]. Ff. 34-5: '"O Wynfyd Serch, O Ddolur Serch" (Atgof am fy chwaer)' [Caniadau'r Allt, t. 48]. Ff. 36-7: 'Fel Doe' [Caniadau'r Allt, t. 51]. F. 38: 'Yr Hen Nadolig' [cf. rhifau 1, f. 19v; 4, ff. 65v-6v; 9, f. 44]. Ff. 39-40: 'Heddwch' [Caniadau'r Allt, t. 70]. Ff. 40-1: 'Gwynfyd y Galon' [Caniadau'r Allt, t. 57, 'Hen Fwynderau']. Ff. 42-3: 'Gwyl y Grog' [Caniadau'r Allt, t. 36]. Ff. 44-5: 'Yr Alltud' [Caniadau'r Allt, t. 62]. Ff. 45v-6: ' Y Cyd-Ofid' [Caniadau'r Allt, t. 64]. Ff. 46v-7, 48v-9v: 'Yr Ymliw' [Caniadau'r Allt, t. 71, 'Y Sen']. Ff. 48-9v: 'Bore, Nawn a Hwyrddydd Bywyd' ("Goreu yn Eisteddfod Corwen") [O Drum i Draeth, t. 52]. F. 49v: 'Priod Iolo Caernarfon', 1913 [O Drum i Draeth, t. 92]. Ff. 50v,51v: 'Llawdden' a 'Dewi Ogwen' ["Dau Hir a Thoddaid" gan "Llais Cân", f. 51v (gweler O Drum i Draeth, t. 91; cf. rhif 5, f. 15) a "Blodau Ffarwel", f. 50v]. F. 52v: 'The Gambler' [tri englyn gan "Ap Gruffydd", "Croupier" (gweler O Drum i Draeth, t. 49), a "Second Thoughts"].

Cerddi drafft,

Llyfr nodiadau yn cynnwys cerddi drafft yn llaw'r bardd, gan gynnwys cerddi a gyhoeddwyd yn Caniadau'r Allt (1927) ac O Drum i Draeth (1929). Rhestrir y cerddi isod a nodir mewn cromfachau enw'r gyfrol lle'u cyhoeddwyd, rhif y tudalen, ac unrhyw wahaniaeth teitl. Yn ogystal â'r cerddi llawysgrif ceir cerdd brintiedig Cyfarchiad i "Rhodwy" ar ei briodas, Mai 14, 1903 (allan o'r Cyfarwyddwr Anibynnol [sic]) y tu mewn i'r clawr blaen; copi o lythyr, 15 Ion. 1907, oddi wrth EW ynglyn â gwerthiant y gyfrol Telynegion Maes a Môr (ff. 1-2); a nodiadau achyddol yn llaw EW (ff. 86v-7). 89 ff. Ff. 3-4: 'Englynion Cyfarch, uwchben llun "Tudur" mab bychan Mr a Mrs Herbert Hughes, Dwyryd House, Llanrwst', Chwef. 1907 [O Drum i Draeth, t. 33; 3 o'r 4 englyn]. Ff. 4-6: 'Englynion "Cyfarchiad Nadolig"' [O Drum i Draeth, t. 44]. Ff. 7-14: 'Rhyfelgan Ryddfrydol: Etholiad Cynghor Sir, Arfon 1907 (Alaw: "Rhyfelgyrch Cadben Morgan")'. F. 15: 'Cyssegr y Briallu'; 'Gwylan'. F. 16: 'Y Canghellydd Silvan Evans'; 'Englyn' [O Drum i Draeth, t. 53]. F. 17: 'Y Goleudy (Caergybi)' [O Drum i Draeth, t. 81]. F. 18: 'Y Maes Gwenith'. F. 19: 'Englynion Coffa: Mrs Griffith, Gallt-y-[?], Tal-y-sarn' [cf. O Drum i Draeth, t. 76, 'Gwraig Dda']. F. 19v: 'Bodfeuan'. Ff. 20-1: 'Yn Erw Duw'. F. 20: 'Nefyn'. F. 20v: 'J. Jones'; 'R. Jones'. F. 21v: 'Gwilym Meirion (Ym Mynwent Eglwys Penrhyndeudraeth)', Rhag. 1915 [O Drum i Draeth, t. 66]. Ff. 22-3: 'Dygwyl Llywelyn', 1907 [Caniadau'r Allt, t. 77, 'Cainc y Delyn']. F. 24: 'Gwrid' [O Drum i Draeth, t. 50]. Ff. 25-6: 'Ar deirrhes fy nhelyn...', 1907. Ff. 26-9: 'Cenfigen Gorr', 1906 [Caniadau'r Allt, t. 102, 'Eiddilig Gorr']. Ff. 30-4: 'Melus fo cwsg fy Mam (neu Yr oreu o famau'r byd)', 1907 [Caniadau'r Allt, t. 53, 'Llys fy Mabandod']. Ff. 35-6: 'Fy Nhad' [Caniadau'r Allt, t. 47]. Ff. 36-7: 'Uwch ben bedd Cyfaill' [cf. 'Fy Nhad']. Ff. 38-9: 'Croesaw'r Wenol' [Caniadau'r Allt, t. 118, 'Cyfarch y Wennol']. Ff. 40-1: 'Telyneg "Y Gwahawdd"', Hyd. 1907 [Caniadau'r Allt, t. 43, 'Cathl y Gwahodd']. Ff. 42-4: 'Ieuan Gwynedd' [Caniadau'r Allt, t. 84]. F. 45: 'Y Rhyd', 1908. F. 45v: 'Dyma lyfr bach...'; 'Pethau Tlws' [Caniadau'r Allt, t. 111]. F. 46: 'Dowch i Chwarae' [Caniadau'r Allt, t. 110, 'Pleser Plant']. F. 46v: 'Suo'r Baban' [cf. rhif 2, f. 35]. F. 47: 'Y Briallu' [Caniadau'r Allt, t. 112]. Ff. 48-9: [Cyfarchion y Nadolig; penillion IV-VI], 1908 [cf. rhif 9, f. 19]. Ff. 50-1: 'Little Taffy and Mr Promise', 1908. F. 52: 'Goronwy Wyn (Bryntirion, Nantmor)' [O Drum i Draeth, t. 73]. F. 53: 'Cenin Pedr' [englynion gan "Meudwy'r Maes", "Cymro a'u Câr", "Mary Pant", a "Hoff o'u Hil"]. Ff. 54-5: 'Yr Alaska Yukon Pacific Exposition' [gan "Bardd y Faner Wen"]. Ff. 55-6: 'Cloch y Feisdon' [3 englyn gan "Tinc y Gloch", "Yr Ail Dinc", ac "Wrth y Llyw"]. F. 57: 'Y Breuddwydiwr'. Ff. 58-9: 'Cyfieithiad o "Bugeiles yr Wyddfa" (Eos Bradwen)'. F. 60: 'A Vow'. Ff. 60-1: 'The Choice'. F. 62: 'Dead'. F. 63v: 'Beddargraff Owain Pennant yn Llanfihangel y Pennant' ("Buddugol yn Penmorfa"). Ff. 65v-6v: 'Cadw'r Nadolig' [cf. rhifau 1, f. 19; 3, f. 38; 9, f. 13]. Ff. 67-8: 'Englynion "Y Wawr"' [O Drum i Draeth, t. 51]. F. 69: 'Yr Hedyn Mwstard' [cf. rhif 9, f. 41]. Ff. 70-1: 'Eu Hiaith a Gadwant' [Caniadau'r Allt, t. 89]. F. 71v: 'Dail yr Hydref' [O Drum i Draeth, t. 20]. F. 72r-v: 'Hoff yw gan f'Anwylyd...' [Caniadau'r Allt, t. 116, 'Gardd F'Anwylyd']. F. 72v: 'Watcyn Wyn' [O Drum i Draeth, t. 90]. F. 74r-v: 'Gwn y dydd a'r mis Men...' [Caniadau'r Allt, t. 45, 'Calendr Serch']. Ff. 75-9: 'Gallt y Widdon' [Caniadau'r Allt, t. 97, 'Allt y Widdon']. F. 79v: '"Ar wyl Crist yn dy drist dref..." (Dau englyn a anfonwyd i Iolo Caernarfon ar ôl colli ei briod, Nadolig 1910)' [cf. rhif 9, f. 6]. Ff. 80-1: 'Gwyl y Grog' [Caniadau'r Allt, t. 36]. Ff. 82v-4v: 'Bil i Bil'. F. 88v: 'A happy birthday...'.

Cerddi eisteddfodol

Cerdd ‘Lili y Dyffrynnnoedd ydwyf i’ a 'Hiraeth', Colofn yr Awen, Seren Cymru, 6 Hydref 1950; awdl ‘Y castell’, Eisteddfod Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, 1959 a ‘Hiraeth’, Seren [Cymru]; ac awdl 'Y frwydr' gan ['Daear y graith'] a anfonwyd i Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'i chyffiniau yn 1981.

Cerddi eisteddfodol gan gynnwys 'Gwaredigaeth Gruffydd ap Cynan o Gastell Caer', Pentrefoelas, 1926, 'Dau gywydd digrif', Eisteddfod Genedlaethol Treorci, 1928 ...,

Cerddi eisteddfodol gan gynnwys 'Gwaredigaeth Gruffydd ap Cynan o Gastell Caer', Pentrefoelas, 1926, 'Dau gywydd digrif', Eisteddfod Genedlaethol Treorci, 1928, 'Awdl Foliant i'r Athro Syr John Morris Jones', Eisteddfod Gadeiriol Môn, Llanfair P. G., 1926, Pryddest y gadair 'Gwent', Eisteddfod Gadeiriol Abertyleri, 1932, 'Dyffryn Nedd', Eisteddfod Glynnedd, 1933 - toriad o The Gwalia Star a 'Y Deml Adfail' (Môn ?).

Cerddi eisteddfodol,

Cerddi a anfonwyd ganddo i gystadleuaeth y goron yn eisteddfodau lleol, gan gynnwys 'Darluniau' ac 'Ynysoedd' yn Eisteddfod Môn 1985 a 2005; 'Cymuned' a 'Dagrau' yn Eisteddfod Teulu James Pantyfedwen Pontrhydfendigaid 2003 a 2005; a 'Ffin' yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1988.

Cerddi gan David Thomas ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Aberafan - Port Talbot 1932 yn cynnwys 'Pum Englyn Coffa. Y Diweddar ...,

Cerddi gan David Thomas ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Aberafan - Port Talbot 1932 yn cynnwys 'Pum Englyn Coffa. Y Diweddar Brifardd Ceulanydd', hir-a-thoddaid 'Y Cwmwl Unig' a 'Y diweddar John Phillips Arweinydd Côr Meibion Aberafan'; ynghyd â cherdd gan David Thomas i Sarah Jane Thomas, Treorci (1877-95) mewn cerdyn coffa. Poems in strict metre by David Thomas for the National Eisteddfod at Aberafan - Port Talbot 1932 comprising englynion in memory of Ceulanydd, a poem 'Y Cwmwl Unig' (The Lonely Cloud) and a poem in memory of John Phillips, Choirmaster of Aberafan Male Voice Choir; together with a poem by David Thomas in the memorial card of Sarah Jane Thomas, Treorchy (1877-95).

Results 7261 to 7280 of 60064