Showing 5 results

Archival description
University College of Wales (Aberystwyth, Wales) Ffeil / File
Print preview View:

Cerddi cynnar

Cerddi gan Menna Elfyn a gyfansoddwyd cyn ymddangosiad ei chyfrol gyntaf gyhoeddiedig Mwyara ym 1976, rhai o'r cerddi heb eu cwblhau nac (yn ddiweddarach) eu cyhoeddi. Mae'r deunydd yn cynnwys cerddi a ddyddiwyd Medi a Hydref 1967; cerdd fuddugol a gynigiwyd gan Menna Elfyn i Eisteddfod Pantyfedwen 1968(?); cerdd yn dwyn y teitl Y Daith, sy'n disgrifio digwyddiad ym mis Mawrth 1969 ac a arnodir gan Menna Elfyn 'Fy ngherdd gyntaf ... darn ar goll' (er noder cerdd Eisteddfod Pantyfedwen, lle cynigir ganddi'r dyddiad cynharach 1968); cerddi a gyfranwyd gan Menna Elfyn i golofn Bord y Beirdd ym mhapur newydd Y Cymro, 1970; dau gopi o gerdd gan Menna Elfyn yn dwyn y teitl Sylwadau ar fywyd colegol (dim dyddiad, ond cymerir eu bod yn tarddu oddi ar gyfnod Menna Elfyn yn y Brifysgol); a beirniadaethau gan D. Jacob Davies, W. J. Gruffydd a W. R. Evans ar gerddi buddugol gan Menna Elfyn a gynigiwyd (dan ffugenw) ar gyfer yr Eisteddfod Ryngolegol yn Aberystwyth, 1973.

Cynhwysir yn yr adran hon ond y cerddi hynny sydd â dyddiad wedi'i nodi arnynt. Cynhwysir y cerddi hynny a all ddyddio o'r cyfnod cynnar ond sydd heb ddyddiad amlwg dan Barddoniaeth amrywiol.

Darlithoedd, cyrsiau academaidd a gweithdai

Deunydd yn ymwneud â chyrsiau academaidd a gweithdai y bu Menna Elfyn yn darlithio iddynt, yn eu cyfarwyddo, neu fel arall yn ymwneud â hwynt, gan gynnwys: cwestiynau a bras nodiadau yn ymwneud â chwrs 'Merched o Feirdd yng Nghymru, Ddoe a Heddiw', a gynhaliwyd, yn ôl tystiolaeth pennawd y papur arholiad y defnyddiwyd ar gyfer y nodiadau, ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan; bras nodiadau (llaw a theipysgrif) a wnaed gan Menna Elfyn ar gyfer seminarau fel rhan o gwrs 'Barddoniaeth yr Wythdegau' y bu'n darlithio arno yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd yn ystod y 90au, ynghyd â nodiadau bywgraffyddol ar y "bardd dawnus" (yng ngeiriau Menna Elfyn) Ennis Evans, a fu farw ym 1982 yn 29 oed, gan y bardd a'r llenor Einion Evans, tad Ennis, ysgrif gan Ennis Evans yn dwyn y teitl 'Pe Meddwn Ddawn ...' a dau nodyn ar y deunydd bywgraffyddol ac ar ysgrif Ennis Evans yn llaw Einion Evans; manylion ynghylch amserlenni cwrs Ysgrifennu Creadigol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, 1999-2010, a gyd-gyfarwyddwyd gan Menna Elfyn a'r bardd a'r llenor Nigel Jenkins, ynghyd â datganiad o'r wasg yn ymwneud â'r cwrs ac amrywiol ddeunydd perthnasol, megis trosolygon y cwrs, gohebiaeth, cofnodion cyfarfodydd ac adroddiadau; gweithlen a baratowyd ar gyfer gweithdy llenyddol a gynhaliwyd yn Unol Daleithiau America yn 2005; cofnodion arsylwi ansawdd a dull dysgu a darlithio Menna Elfyn (arsylwyd gan y bardd, dramodydd a darlithydd Dr Dic Edwards, a sefydlodd y cwrs Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan, lle bu'n ddarlithydd hyd at 2019; deunydd yn ymwneud â chwrs Ysgrifennu Ymchwil a gynhaliwyd yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth, 2014; a bras nodiadau darlith/trafodaeth yn llaw Menna Elfyn.
Gweler hefyd dan bennawd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant o fewn yr archif hon.
Mae Menna Elfyn yn Athro Emerita mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan.

Gohebiaeth rhwng Mary a Robert (Silyn) Roberts = Correspondence between Mary and Robert (Silyn) Roberts

Llythyr, 22 Medi 1897, at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth Mary Parry (wedyn Mary Silyn Roberts), Balmoral House, Neuadd Alexandra, Aberystwyth, lle 'roedd Mary (yn ugain oed) yn lletya tra'n darlithio ym Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Cyfeiria at ei bywyd a'i gwaith yn Aberystwyth; at ei hewyrth, y Parchedig John Williams, Corwen [arnod yn llaw Mary Silyn Roberts: 'Rev. J. Wms Corwen'], a'i wraig, a fu'n gwmni iddi hyd Amwythig; at Tom, ei chefnder; ac yn gresynu nad oes cyfle ganddi ar hyn o bryd i gyfarfod â Silyn, ac y byddai'n well ganddi na fyddai ef yn dod i Aberystwyth i'w gweld. = Letter, 22 September 1897, to Robert (Silyn) Roberts from Mary Parry (afterwards Mary Silyn Roberts), Balmoral House, Alexandra Hall, Aberystwyth, where Mary (aged twenty) was staying while lecturing at Aberystwyth University. References to her life and work in Aberystwyth; to her uncle, the Reverend John Williams, Corwen [annotation in Mary Silyn Roberts' hand: 'Rev. J. Wms Corwen'], and his wife, who accompanied her on her journey as far as Shrewsbury; to her cousin Tom; and regrets that she has no opportunity to meet up with Silyn for a while, and that it would be best if he didn't visit her at Aberystwyth.

Llythyr, 14 Mai 1899, at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth Mary Parry (wedyn Mary Silyn Roberts), Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn cyfeirio at nodiadau llenyddol a fenthycwyd iddi gan Silyn, at iechyd Silyn, ac at ei ddewisiadau gyrfäol yn ôl capeli a cholegau; yn poeni am iechyd meddwl un 'R. C. Allen'; cyfeiriad at fynychu darlith dan ofal yr Athro Syr Edward Anwyl (1866-1914) ac at ei gwaith academaidd; ei dymuniad i ddysgu chwarae tennis; cyfeiriad at ei brodyr, Evan a Henry, yn arbennig beth a ddylai cam nesaf Evan fod o ran astudiaeth a gyrfa. Arnodiad yn llaw Mary Silyn Roberts. = Letter, 14 May 1899, to Robert (Silyn) Roberts from Mary Parry (afterwards Mary Silyn Roberts), University College of Wales, Aberystwyth. References to literary notes lent her by Silyn, to Silyn's health, and to his career choices in terms of chapels and colleges; her concern for the mental health of one 'R. C. Allen'; her attendance at a lecture given by Professor Sir Edward Anwyl (1866-1914), and her academic work; her wish to learn to play tennis; mentions her brothers, Evan and Henry, with particular reference to Evan's study and career options. Annotation in the hand of Mary Silyn Roberts.

Dau gopi o lythyr, 15 Chwefror 1925, a ysgrifennwyd gan Robert (Silyn) Roberts at ei wraig Mary Silyn Roberts. Cyfeirir at gynhadledd [?Cymdeithas Addysg y Gweithwyr] y bu Silyn yn rhan ohoni ym Mae Colwyn, a sut y ffurfiwyd pwyllgor yno i greu cangen Gogledd Cymru o'r Gymdeithas yn rhanbarth annibynnol, gyda Silyn yn ysgrifennydd iddo. Awgryma geiriau clo Silyn nad oedd Mary wedi bod yn dda yn ddiweddar. Ceir mân wahaniaethau rhwng y ddau gopi, ond mae hanfod y llythyr yn aros yr un fath. Gweler hefyd Gohebiaeth rhwng Swyddfa Ranbarthol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, Bangor a Choleg Harlech = Two copies of a letter, 15 February 1925, written by Robert (Silyn) Roberts to his wife Mary Silyn Roberts, referencing a [?Workers' Educational Association] conference in which he took part, and the formation there of a committee to establish the North Wales branch of the WEA as an independent district, with Silyn as its secretary. Silyn's closing words suggest that Mary had recently been unwell. There are some minor differences between the two copies, but the essence of their contents remains the same. See also Correspondence between the Workers' Educational Association District Office, Bangor and Coleg Harlech.

Nodiadau ynghylch gwaith gweinyddol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr ysgrifennwyd, 1 Gorffennaf 1930, gan Mary Silyn Roberts at ei gŵr Robert (Silyn) Roberts ar gyfer ei ddychweliad o daith i Rwsia, tra 'roedd hithau ar fîn cychwyn ar daith i Ddenmarc, ynghyd â chyfeiriadau Mary Silyn Roberts tra byddai'n aros yn Nenmarc. Bu farw Silyn ar y 15fed o Awst y flwyddyn honno. Gweler hefyd Gohebiaeth rhwng Swyddfa Ranbarthol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, Bangor a Choleg Harlech = Notes regarding administrative work relating to the Workers' Educational Association (WEA) written, 1 July 1930, by Mary Silyn Roberts to her husband Robert (Silyn) Roberts, to be read on his return from a visit to Russia, while she was about to depart for a visit to Denmark, together with a note of Mary Silyn Roberts' addresses during her stay in Denmark. Silyn died on 15th August of that year. See also Correspondence between the Workers' Educational Association District Office, Bangor and Coleg Harlech.

Letters to John Pikoulis from academic and work colleagues of Alun Lewis and from academic institutions

Letters to John Pikoulis from former work and academic (both school and university) colleagues of Alun Lewis and from academic institutions previously attended by Alun Lewis, the correspondents comprising: Richard (Dick) Mills (1977-1987 and undated); Chris Germanacos (1979, 1981); D. W. Thomas (1979); Glyn Rees (1979); Professor Christopher Cheney (1979-1980), together with notes by John Pikoulis on Lewis/Cheney correspondence, which includes a chronology of events in Lewis's academic life (for further notes on Alun Lewis's letters to Professor Cheney, see under Gweno Lewis (Alun Lewis research papers): Biographical and literary notes)); Andrew Davies (1980); Gwyn Prosser (1980); Department of History, University College of Wales, Aberystwyth (1980-1981); Registrar's Office, University of Manchester (1980); Barrie Davies (1980); Sir Idwal Vaughan Pugh (1981); Gwynfor Evans (1981); Dr Charles Franklin (1981); Haydn Evans (1981); Cledwyn Hughes, Lord Cledwyn, Baron Cledwyn of Penrhos (1981); John Jones, Gresford (1981); the John Rylands University Library of Manchester (1981); D. [?V.] Marks, St David's University College, Lampeter (1981); [?Nans] Richards (1981); Dewi Lewis (1981); Evan J. Hopkins (1983); poet, literary critic and translator Dyfnallt Morgan (1986); Wendon Jones (née Mostyn) (1986); and Matt Jones (1995).

Each envelope marked with name of correspondent and date(s) of correspondence.

Llythyrau rhwng Mary Silyn Roberts a Henni Forchhammer = Letters between Mary Silyn Roberts and Henni Forchhammer

Llythyrau, 1935-1939, rhwng Mary Silyn Roberts, a'r addysgydd, ffeminydd ac ymgyrchydd heddwch Danaidd Henni Forchhammer (1863-1955) a rhwng Mary Silyn Roberts a Choleg Prifysgol Cymru Aberystwyth a chysylltiadau sosialaidd/gwleidyddol ynghylch ymweliad Henni Forchhammer â Chymru ym 1935; ynghyd â deunydd perthnasol. Arnodiadau yn llaw Henni Forchhammer ac yn llaw Mary Silyn Roberts.= Letters, 1935-1939, between Mary Silyn Roberts and the Danish educator, feminist and peace activist Henni Forchhammer (1863-1955) and between Mary Silyn Roberts and the University College of Wales Aberystwyth and socialist/political connections regarding a visit by Henni Forchhammer to Wales in 1935; together with related material. Annotations in the hand of Henni Forchhammer and in the hand of Mary Silyn Roberts.

Nodyn gan Luned Meredith, un o roddwyr y casgliad, ar daflen atodol:
'Treuliodd [Mary Silyn Roberts] lawer o amser yn Nenmarc o'r cyfnod cyn iddi briodi yn 1904 i ddiwedd y 40au neu [sic] 50au. Roedd hi'n mynd draw bron bob blwyddyn i ddysgu mewn ysgolion haf, ac aeth nifer o'r teulu draw ar achlysur gan gynnwys Silyn [Robert (Silyn) Roberts] a Rhiannon eu merch.'
Note (translated) by Luned Meredith, one of the archive's donors, on accompanying sheet:
'Mary Silyn Roberts spent a portion of nearly every year teaching summer school in Denmark from 1904 (before her marriage) to the end of the 1940s or the 1950s. Family members would occasionally accompany her, including her husband, Robert (Silyn) Roberts, and their daughter Rhiannon.'

Luned Meredith am Henni Forchhammer:
''Roedd Henni Forchhammer ... yn amlwg iawn yn y mudiad heddwch ac ym myd addysg yn Nenmarc. Mae ei phapurau yn yr amgueddfa yn y brifddinas [Copenhagen] ac mae ychydig o sôn am Mary ynddyn nhw. Bu Mary yn aros gyda hi ac fe ddaeth hi draw i Gymru i ddarlithio.'
Note (translated) on accompanying sheet by Luned Meredith, one of the archive's donors:
'Henni Forchhammer was a prominent figure within the peace movement and within education in Denmark. Her papers, in which there are some references to Mary Silyn Roberts, are kept in the museum in [Copenhagen]. Mary went to stay with her in Denmark and Henni came over to Wales to lecture.'