Dangos 711650 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

4027 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Cywydd y Farn a charol Plygain,

  • NLW MS 16197B.
  • Ffeil
  • 1764, 1778 /

'Cywydd Farn', 1764, gan, ac yn llaw, Rice (Rhys) Jones o'r Blaenau. Ceir copi arall ohoni, a ymddengys i fod yn llaw Rhys Jones, yn NLW MS 3059D (tt. 77-84), ac fe'i cyhoeddwyd yn Gwaith prydyddawl y diweddar Rice Jones o'r Blaenau, Meirion (Dolgellau, 1818). Ceir hefyd eiriau 'Carol Plygain', 1778, gan Evan Arthur. Ar f. 8 verso mae testun crefyddol aneglur (?carol) wedi'i briodoli i Robert Jones. = Poem, 'Cywydd Farn', 1764, by, and in the hand of, Rice (Rhys) Jones of Blaenau. A further copy of the poem, which appears to be in the hand of Rhys Jones, is included in NLW MS 3059D (pp. 77-84), and it was published in Gwaith prydyddawl y diweddar Rice Jones o'r Blaenau, Meirion (Dolgellau, 1818). Also included are the lyrics of 'Carol Plygain', 1778, by Evan Arthur. An obscure religious text (?carol) attributed to Robert Jones is included on f. 8 verso.

Jones, Rhys, 1713-1801

Cywydd Caergrawnt (I Goronwy)

Cyhoeddwyd y cywydd yn Y Faner, Chwefror 1963, wedi iddo ymweld â’i fab Goronwy yng Nghaergrawnt yn ystod gaeaf eithriadol o oer pan rewodd yr afon Cam yn gorn, ynghyd â nodiadau esboniadol ar yr eirfa i'w fab.

Cytgan yr Haleliwia,

Trefniant Gilmor Griffiths o'r 'Cytgan yr Haleliwia' gan G. F. Handel. Copi mewn llawysgrif gyda chyfeiliant, a llungopïau ar gyfer lleisiau merched neu blant, un ohonynt gyda geiriau Saesneg.

Cyrsiau i oedolion

Papurau’n ymwneud â dosbarthiadau yn Llanrhaeadr, ger Dinbych, Carrog, Yr Wyddgrug, Henllan a Colwyn a Glyndŵr.

Cynlluniau aflwyddiannus

Cynlluniau Capita in association with Professor Dean Hawkes (Cardiff); Dominique Perrault (Paris); Behnisch, Behnisch & Partners (Stuttgart); Rick Mather (London); and Hurley, Robertson and Associates (London) with Sir Denys Lasdun, 1998.

Cynigion staffio

Gohebiaeth a phapurau yn trafod y staffio, lleoliad, a chefnogaeth ariannol arfaethedig y Ganolfan, 1970, 1974, a 1984, yn cynnwys agenda a chofnodion cyfarfod y Corff Llywodraethol (1984); cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwaith (1983); memoranda (1984); copi o ddatganiad gan R. Geraint Gruffydd (1970); a llythyrau (1974; 1984) oddi wrth Peter Swinnerton-Dyer; Gareth Owen; Russell Davies; Charles Thomas; R. Geraint Gruffydd; T.A. Owen; Emrys Wynn Jones; Bobi Jones; Elwyn Davies; Olwen Daniel; a J. E. Caerwyn Williams.

Cynal Breichiau; Y Diwedd

Dwy bregeth yn llaw John Roberts (J.R.), [1873x1874], yn dwyn y teitlau 'Cynal Breichiau' (ff. 1-11) ac 'Y Diwedd' (ff. 12-17). = Two sermons in the hand of John Roberts (J.R.), [1873x1874], entitled 'Cynal Breichiau' (ff. 1-11) and 'Y Diwedd' (ff. 12-17).

Cymru,

Drafft gyfansoddiad unsain Gilmor Griffiths, geiriau gan Leslie Harries.

Cymhorthion mewnol

Arweinlyfrau a thaflenni yn ymwneud â delio gyda'r cyfryngau, trefnu cangen, paratoi am etholiad, nodiadau i ganfaswyr, a chanllawiau hunaniaeth gorfforaethol.

Canlyniadau 661 i 680 o 711650