Dangos 839256 canlyniad

Disgrifiad archifol
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Ysgrifau a beirniadaethau,

Ysgrifau : 'Pwy?' a 'Pam' a chyfrol yn dehongli unrhyw chwech o gerddi o waith beirdd Cymraeg cyfoes a beirniadaethau, ynghyd â beirniadaethau chwe erthygl i'r wasg ar bynciau'r dydd, portreadau personol, y cyfrolau : 'Nofelwyr mawr y byd' a gwasanaethau a thraethawd ar broblemau traffig (rhifau 26-320 yn y Rhestr Testunau).

Ysgrifau - amrywiol

Ysgrifau amrywiol mewn llawysgrif, ac un wedi ei theipio, gan y Parch. W. Glasnant Jones, [1889x1951], gan gynnwys un ysgrif ar David Lloyd George, a oedd yn brif weinidog pryd yr ysgrifennwyd y darn.

Ysgrifau

Ysgrifau yn llaw Mathonwy Hughes, [1985]-[1990]: 'Synhwyro', 'Cyflymder' (anghyflawn), 'Mentro meddwl', 'Hanfod bod a byw', 'Y ffactor tywyll', 'Deddfau sy'n dal', 'Gwadu’r hil', 'Dameg y chwynyn' 'Y goleuni mewnol', 'Methiant addysg', 'Y gobaith olaf', 'Methiant crefydd', 'Synhwyro. Y glust', 'Elwgarwch' a 'Methiant gwleidyddiaeth'.

Ysgrifau

Ysgrifau teipysgrif am aelodau o’i theulu yn bennaf, gan gynnwys, ‘Dau fedydd a dwy afon’; ‘Fy nain’, ‘Jane Ann Jones’ (Merched yn Bennaf); ‘Rhamant y siwrneiau i Ddyffryn Clwyd o Lannau Meirion’; ‘Y pentref lle’m ganwyd’; ‘Aelwyd Taid a Nain’; ‘Ysgrifennu nofel hanes’; a ‘Y cyffredin yn troi’n anghyffredin’.

Ysgrifau

Ysgrifau, [2002]-[2004], yn bennaf, gan gynnwys 'Hen Lyfr Cownt Ifan Williams y Bwtshwr', 'Cadw mis y pregethwr', 'Y ddafad golledig', 'Prynu mynaran', ‘Y dresar’, 'W. M. Llewelyn' ac ‘Ymweliad Trevor Fishlock â Phenderyn'. [Cyhoeddwyd rhai ohonynt o bosib yn Clochdar, papur bro Cwm Cynon].

Ysgrifau

Yn eu plith mae erthygl 'Ich Dien' a fwriadwyd ei chyhoeddi yn Y Wawr; 'Y ffreshwr' gyda llythyr, 1921, oddi wrth Syr Ifan ab Owen Edwards yn amgaeedig yn dychwelyd y gwaith iddo; 'Oer yw'r rhew ac oer yw'r eira', [1954]; 'A Welsh nationalist looks in the mirror' (i'r Drych); erthyglau a wrthodwyd gan y wasg; a llythyr, 1946, a anfonodd at olygydd y Peace News.

Edwards, Ifan ab Owen, 1895-1970

Ysgrifau

Ymhlith yr ysgrifau mae 'Beirdd y dydd’, Yr Eurgrawn, Chwefror 1913; ‘Ehedydd Iâl trwy lygaid plentyn’, Yr Eurgrawn, Hydref 1917; ‘Ein dyled i’r Eglwys’, Yr Efrydydd, Awst 1926; ‘Efrydiau Catholig’, Yr Eurgrawn, Rhagfyr 1946 ‘Fy ngalwad i’r Weinidogaeth’, Y Winllan, 1954; ‘Diwylliant Gwerin Cymru’, Yr Eurgrawn, Medi 1958; ‘Fy mhererindod llenyddol’, Y Traethodydd, Gorffennaf 1965; ac ‘Wesle olaf Llandegla’, Yr Eurgrawn, 1967.

Ysgrifau

Llyfr nodiadau yn cynnwys ysgrifau drafft, [1885]-[1886], mewn pensil, gan Daniel Owen. = A notebook containing autograph drafts, [1885]-[1886], in pencil, of prose works by Daniel Owen.
Maent yn cynnwys drafftiau cynnar o'r Rhagarweiniad (ff. 57-73, rectos yn unig) a phenodau I-XIV (ff. 74-93, rectos yn unig, 93 verso, 1 verso-65 verso, versos yn unig) o Brofedigaethau Enoc Huws (Wrecsam, 1891); ynghyd â drafftiau o 'Llythyr fy Nghefnder' (ff. 1-17, rectos yn unig) ac 'Yr Ysmygwr' (ff. 32-56, rectos yn unig), a gyhoeddwyd yn Daniel Owen, Y Siswrn (Yr Wyddgrug, 1886); 'Adgofion am Glan Alun' (Y Geninen, 4 (1886), 108-112) (ff. 18-31, rectos yn unig); a 'Diweddar olygydd y Drysorfa' (Y Drysorfa, 56 (1886), 361-369) (ff. 66 verso-92 verso, versos yn unig). Cynhwysir hefyd drafftiau o englynion, yn eu mysg rhannau o'r gerdd 'Oriel' (Y Siswrn (Yr Wyddgrug, 1886), tt. 50-52) (f. i recto-verso, tu mewn i’r cloriau). = These comprise early drafts of the introduction (ff. 57-73, rectos only) and chapters I-XIV (ff. 74-93, rectos only, 93 verso, 1 verso-65 verso, versos only) of Profedigaethau Enoc Huws (Wrexham, 1891); together with drafts of 'Llythyr fy Nghefnder' (ff. 1-17, rectos only) and 'Yr Ysmygwr' (ff. 32-56, rectos only), published in Daniel Owen, Y Siswrn (Mold, 1886); 'Adgofion am Glan Alun' (Y Geninen, 4 (1886), 108-112) (ff. 18-31, rectos only); and 'Diweddar olygydd y Drysorfa' (Y Drysorfa, 56 (1886), 361-369) (ff. 66 verso-92 verso, versos only). Also included are draft englyns, including parts of the poem 'Oriel' (Y Siswrn (Mold, 1886), pp. 50-52) (f. i recto-verso, inside the covers).

Daniel Owen.

Ysgrif, 1908, yn dwyn y teitl 'Adgofion am y Llwyni a Thomas Hopkin a'r Capel' o waith T. C. Evans ...,

Ysgrif, 1908, yn dwyn y teitl 'Adgofion am y Llwyni a Thomas Hopkin a'r Capel' o waith T. C. Evans ('Cadrawd'); ysgrif yn dwyn y teitl 'Hen Atgofion ... am Eglwys y Bedyddwyr Penycae' gan William Williams ('Gwilym Oswald'), Croesoswallt; ynghyd ag ysgrif Saesneg yn dwyn y teitl 'Rough sketch of my career' gan D. Christy Davies. = 'Adgofion am y Llwyni a Thomas Hopkin a'r Capel' by T. C. Evans ('Cadrawd'), 1908; 'Hen atgofion ... am Eglwys y Bedyddwyr Penycae' by William Williams ('Gwilym Oswald'), Oswestry; and 'Rough sketch of my career' by D. Christy Davies. Cymraeg a Saesneg/Welsh and English.

Ysgrif,

Ysgrif 'Rhwd' gan 'E.T.H., 'Llywarch', 'Merwydd', 'Hen hwsmon anesmwyth', 'Menai', 'Scamp', 'Hamlet' a 'Dwyfach'; 'Cadw cyfrinach' gan 'Goronwy', ''Wyn o Eifion', 'Nedw', 'Meifab', 'Ap Arfon', 'Hen sgotwr', 'Pump o'r gloch', ''Elia II' a 'Myfanwy'; 'Carreg filltir' gan 'Crwydryn', 'Gwydion', 'Rhaid mynd', 'Sioned', 'Ar grwydr', 'Emyr', 'Amos' a 'Myfanwy'; 'Briwsion' gan 'Aron', 'Petite' ac 'Edmwnd' [rhif 33 yn y Rhestr Testunau].

Canlyniadau 201 i 220 o 839256