Showing 92 results

Archival description
sub-fonds
Print preview View:

Areithiau ac erthyglau gan Angharad Tomos

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys torion o erthyglau Angharad Tomos i Y Faner, copïau teipysgrif a rhai torion o'i cholofn olygyddol a'i cholofn fel Cadeirydd yn Nhafod y Ddraig, ynghyd â nodiadau ar gyfer rhai o'i hareithiau ac ambell erthygl amdani hi, 1979-1983.

Untitled

Llyfr nodiadau

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys nodiadau gwersi a baratowyd ganddi ar gyfer ysgolion cynraddd Bro Dysynni, gwanwyn 1993.

Untitled

Papurau Iorwerth C. Peate

Papurau Iorwerth C. Peate, 1826-1983, gan gynnwys llythyrau ato, papurau yn ymwneud â'i weithiau llenyddol, papurau ynglŷn â'i yrfa broffesiynol, papurau ymchwil ar bynciau penodol yn ymwneud â diwylliant gwerin, papurau yn ymwneud â chynadleddau a fynychwyd ganddo a phwyllgorau y bu'n aelod ohonynt, a phapurau personol.

Papurau Mudiad Addysg y Gweithwyr

Mae'r grŵp yn cynnwys papurau a gasglwyd gan Mathonwy Hughes tra'n aelod o ddosbarthiadau, ac yn ddarlithydd gyda Mudiad Addysg y Gweithwyr, [?1936]-1991.

Workers' Educational Association

Rhodd 2001,

Mae'r papurau a dderbyniwyd yn 2001 yn cynnwys nodiadau a drafftiau o'i erthyglau a'i ddarlithoedd; copïau o lawysgrifau; drafftiau o'i nofelau a'i ddramâu; gohebiaeth; ynghyd â chofnodion Pwyllgor Eisteddfod y Barri, 1968.

Mudiadau a sefydliadau

Papurau yn ymwneud â'r mudiadau a'r sefydliadau yr oedd Dr Iorwerth Hughes Jones yn ymwneud â hwynt, 1926-1970, sef Plaid Cymru, Yr Urdd, ymgyrchoedd gwleidyddol a Phrifysgol Cymru, Abertawe.

Papurau gweinyddol a mynegeion

Mae'r adran hon yn cynnwys llyfrau nodiadau a chymhorthion golygyddol, gohebiaeth a chofnodion gweithgor Y Faner; ystadegau, taflenni, ynghyd ag ôl rifynnau, 1986-1992; mynegeion i'r llythyrau a dderbyniodd y golygydd ac i'r pynciau a drafodwyd yn y Faner, 1987-1990; yn ogystal â llyfrau cyfrifon, papurau ariannol, gohebiaeth ariannol a rhoddion i apêl Y Faner, 1988-1992.

Cofysgrifau'r Capel,

Llyfrau'r Trysorydd: 1892-1988; Llyfrau'r cyfraniadau tuag at y Weinidogaeth, 1897-1981; Cyhoeddiadau Sabothol, 1917-1958; Cofnodion y Blaenoriaid, 1948-1976 a Chofrestr Genedigaethau, Bedyddiadau a Marwolaethau, 1964-1971.

Results 41 to 60 of 92