Showing 59614 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Welsh
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 8, 1959-61', sef toriadau papur newydd 1958-1961. Mae'n cynnwys toriad allan o'r London District Orders, 1945, llythyrau ar ymddiswyddiad John Ellis Williams o'r 'Welsh Services Club', 1945, llythyrau oddi wrth Thomas Parry, 1956, a Chynan, 1957, rhaglenni, 1959-1960, ffotograffau o'r fyddin a ffotograffau personol yn cynnwys un yn 1942.

Cynan, 1895-1970

Gohebiaeth gyffredinol 1988,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr amrywiol yn cynnwys Islwyn Ffowc Elis yn trafod llyfr o ganeuon a'r posibilrwydd o recordio gyda Sain, Ieuan Rhys yn trafod Hwyl a Hafoc, Gwynfor Evans yn trafod llyfr ar genhedloedd bach megis Estonia a Latfia a Chymru, Royston James ar Clwb i'r Campau, Judith Maro yn trafod Y Carlwm a'r Anthology. Ceir hefyd drafodaeth ar lyfr Dafydd Parri, Doethion Aberdwli.

Eisteddfod Môn, Llungwyn 1922.

'Cyflwr Môn yn grefyddol a chymdeithasol yng ngoleuni llythyron y Morusiaid'. Beirniad: T. Shankland. 'Y Beirdd Cymreig a ganodd yn Saesneg o 1600-1800'. Beirniad: Ifor Williams a T. H. Parry-Williams.

Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau, 1949.

Traethawd: 'Hanes unrhyw blwyf gwledig yng Nghymru':. 'Hanes Plwyf Llanwnen, Ceredigion', gan Nant Bran. 'Plwyf Cerrigydrudion yn Sir Ddinbych', gan Non. 'Plwyf Penmachno', gan Alltud o Fachno. 'Plwyf Nantmel, Sir Faesyfed', gan Nantmel. 'Plwyf Niwbwrch ym Môn', gan Aflonyddwr y Meirw. 'Plwyf Tredroyr, De Ceredigion', gan Twrgwyn. 'Plwyf Penderyn, Brycheiniog', gan Alltud. 'Plwyf Llanllyfni, Arfon', gan Rhedyw. 'Resolven, rhan o blwyf Llanilltyd [Llanilltud Nedd]', gan Nant y Gleisiad. 'Plwyf Llanrug, Arfon', gan Caeron. (Y feirniadaeth yn llaw Bob Owen).

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 9, 1961-62', sef toriadau papur newydd 1961-1962, llythyrau oddi wrth Thomas Parry, 1961, W. E. Jones ac eraill ar ymddeoliad John Ellis Williams o Ysgol Glanypwll, 1961, llythyr oddi wrth Saunders Lewis, 1961, ynghyd â cherddi i John Ellis Williams ar ei ymddeoliad, a rhaglenni, 1961-1962.

Parry, Thomas, 1904-1985

Results 581 to 600 of 59614