Showing 59614 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Welsh
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 11, 1966 to 1972', sydd yn cynnwys toriadau papur newydd 1965-1971. Mae hefyd yn cynnwys rhaglen ddrama, 1970, a cherdd ymddeoliad iddo, 1961.

Woolworths; Londis; Marks & Spencer

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1984-1998, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o storfeydd cenedlaethol; nifer o Aelodau Senedd Cymraeg; nifer o aelodau Tŷ’r Arglwyddi; yr Aelod Seneddol Ewropeaidd, Wayne David; a Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn trafod gweithredu polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys copi o gylchlythyr Cymdeithas yr Iaith (1994); datganiadau i’r wasg (1994); a nifer o bosteri ymgyrch.

Nodiadau ar lenyddiaeth

Mae'r ffeil hon yn cynnwys erthygl ar 'Drefn yr elfennau Brawddegol yn 'Branwen'', nodiadau ar 'G.F. Williams a Ballinger', copi teipysgrif o 'At y Cymru' gan Davis Jones, 1779, ynghyd â llyfryddiaeth. Y mae hefyd nodiadau amrywiol yn ymwneud â llenyddiaeth, darlith ar ryddiaith O.M. Edwards a thrafodaeth ar englynion y misoedd.

Gohebiaeth gyffredinol 1993,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Cynog Dafis ar y Mesur Iaith ac Angharad Tomos ynghylch animeiddio cyfres Rwdlan. Mae pynciau eraill a drafodir yn cynnwys problemau ariannol y Lolfa a'r angen i bobl dalu eu ffioedd yn fuan, colli cytundeb cylchgronau Urdd Gobaith Cymru, y posibilrwydd o ailddechrau calendr Cymru Fydd, a'r nofel Genod Neis.

Nodiadau amrywiol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys ffotogopi a dau gopi llaw o ddogfen Ladin o ganol y ddeuddegfed ganrif a deitlwyd 'Unde ffloreum Illiricum' ac sydd yn sôn am Galfridus; nodiadau ynglŷn â Maredydd ap Rhys; erthygl yn dwyn y teitl 'Religious Dissent in Wales on the eve of the Methodist revival' gan y Parch. Noel Evans; esboniadau beiblaidd; nodiadau yn ymwneud â Peter Williams, 1723-1796, nodiadau ieithyddol; ac erthygl yn dwyn y teitl 'Deng Mlynedd' yn ymwneud â'r Methodistiaid Wesleaidd rhwng 1811 ac 1820.

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 12, 1972 to 1973' sydd yn cynnwys toriadau papur newydd 1972-1973, a llythyrau oddi wrth Y Parch. R. Tudur Jones, 1972, a D. Tecwyn Lloyd, 1973.

Jones, R. Tudur (Robert Tudur)

Results 621 to 640 of 59614