Dangos 1033 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llyfr casglu

Llyfr casglu Apel y Capeli Annibynol Cymreig y Parch. William Griffith, Caergybi, a'r Parch. Evan Evans, Abermaw, gyda manylion casgliadau yn Swydd Efrog, Chwefror-Mawrth 1835 (dyfrnod 1826) (ff. 2-28, 93 verso-95). = A Welsh Congregational Churches Appeal Fund collecting book of the Rev. William Griffith, Holyhead, and the Rev. Evan Evans, Barmouth, with details of collections in Yorkshire, February-March 1835 (watermark 1826) (ff. 2-28, 93 verso-95).
Mae mantolen yn llaw Samuel Roberts, trysorydd, a llythyr iddo oddiwrth D. Morgan, Machynlleth, trysorydd, yn rhydd yn y gyfrol. = A balance sheet in the hand of Samuel Roberts, treasurer, and a letter to him from D. Morgan, Machynlleth, treasurer, are loose in the volume.

Griffith, William, 1801-1881.

Llyfr casglu

Llyfr casglu Apel y Capeli Annibynol Cymreig y Parch. John Saunders, gyda manylion casgliadau yn Llundain a De Ddwyrain Lloegr, Ionawr-Ebrill 1835 (dyfrnod 1826). = A Welsh Congregational Churches Appeal Fund collecting book of the Rev. John Saunders, with details of collections in London and the South East, January-April 1835 (watermark 1826).

Saunders, John, 1796-1871.

Llyfr casglu

Llyfr casglu Apel y Capeli Annibynol Cymreig y Parch. William Gething gyda manylion casgliadau yn Hampshire, Mawrth 1835 (ff. 2-6 verso), a ddefnyddiwyd wedi hynnu gan Samuel Roberts i gofnodi nifer o gasgliadau ac apelion ar ran eglwysi Cymreig, [1842]-[1856] (ff. 7 verso-9, 19 verso-25, 28 verso-30, 40 verso). = A Welsh Congregational Churches Appeal Fund collecting book of the Rev. William Gething with details of collections in Hampshire, March 1835 (ff. 2-6 verso), subsequently used by Samuel Roberts to record details of various collections and appeals for Welsh chapels, [1842]-[1856] (ff. 7 verso-9, 19 verso-25, 28 verso-30, 40 verso).
Mae rhestr o lyfrau ac eitemau eraill yn rhydd yn y gyfrol. = A list of books and other items is loose in the volume.

Gething, William, 1798-1858.

Llyfr casglu

Llyfr casglu Apel y Capeli Annibynol Cymreig y Parch. Evan Jones, Trelech, gyda tystlythyrau a manylion casgliadau yn yr Alban ac Iwerddon, Mawrth-Ebrill 1835 (ff. 2-11), a ddefnyddiwyd wedi hynnu gan Samuel Roberts fel llyfr nodiadau, [?1864]. = A Welsh Congregational Churches Appeal Fund collecting book of the Rev. Evan Jones, Trelech, with testimonials and details of collections in Scotland and Ireland, March-April 1835 (ff. 2-11), subsequently used by Samuel Roberts as a notebook, [?1864].
Yn cynnwys adysgrifau anghyflawn, [?1864], o 'Anerchion byrion wrth Fwrdd y Cymundeb' gan S.R. (ff. 12 verso-38 verso, 49-60), ac anerchiad i gyfarfod gweddi yn Birmingham yn Chwefror 1835 (ff. 42-48). Cyhoeddwyd rhain yn Samuel Roberts, Pregethau, areithiau a chaniadau (Utica, E.N., 1864), tt. 53-65, 71-75, 80-86, 221-224. = Contains incomplete transcripts, [?1864], of communion addresses by S.R. (ff. 12 verso-38 verso, 49-60), and of 'Outlines of an Address at the United Missionary Prayer Meeting in Birmingham' from February 1835 (ff. 42-48). There were published in Samuel Roberts, Pregethau, areithiau a chaniadau (Utica, N.Y., 1864), pp. 53-65, 71-75, 80-86, 221-224.

Jones, Evan, of Trelech, d. 1855.

Llyfr casglu Athrofa Aberhonddu

Llyfr casglu Samuel Roberts, 1838, ar gyfer apêl i godi arian i sefydlu athrofa Annibynol yn Aberhonddu, gyda manylion casgliadau yng Nghymru a Sir Gaerhirfryn (ff. 2-14, 53 verso). = Collecting book of Samuel Roberts, 1838, for an appeal for funds to establish a Welsh Congregational Academy at Brecon, with details of subscriptions in Wales and in Lancashire (ff. 2-14, 53 verso).

Llyfr casglu capel Queen's Road

Llyfr casglu Samuel Roberts, 1878-1881, i godi arian ar gyfer gwaredu dyled capel Queen's Road, Manceinion. = Collecting book of Samuel Roberts, 1878-1881, to raise subscriptions to remove the debt of Queen's Road Congregational chapel, Manchester.

Llyfr casglu Eglwys Annibynol Carno

Llyfr casglu swyddogol, 1828 (dyfrnod 1824), a ddefnyddiwyd gan Samuel Roberts ar gyfer casglu arian i Eglwys Annibynol Carno, sir Drefaldwyn (ff. 1-13). = An official collecting book, 1828 (watermark 1824), used by Samuel Roberts to collect money for Carno Congregational Church, Montgomeryshire (ff. 1-13).
Ceir hefyd llythyr ddrafft, 12 Hydref 1841, oddiwrth S.R. i David Jones ynghlyn a sefydlu ysgol Sul yn Bont Dolgadfan (ff. 15 verso-17). = Also contains a draft letter, 12 October 1841, from S.R. to David Jones concerning establishing a school room in Bont Dolgadfan (ff. 15 verso-17).

Llyfr casglu Llundain

Llyfr casglu Apel y Capeli Annibynol Cymreig (dyfrnod 1830), yn bennaf yn llaw y Parch. John Saunders, gyda manylion casgliadau yn Llundain, Chwefror-Mai 1835 (ff. 1 verso-19 verso). = A Welsh Congregational Churches Appeal Fund collecting book (watermark 1830), mainly in the hand of the Rev. John Saunders, containing details of collections in London, February-May 1835 (ff. 1 verso-19 verso).
Mae nodyn gan Samuel Roberts mewn perthynas a landlordiaeth yn Llanbrynmair ar ff. 75 verso-76 (testun â'i wyneb i waered). = A note by Samuel Roberts concerning landlordism in Llanbrynmair is on ff. 75 verso-76 (inverted text).

Saunders, John, 1796-1871.

Llyfr cerddoriaeth,

Llyfr cerdd yn cynnwys sgorau cerddoriaeth ar gyfer bandiau pres. Teitlau'n cynnwys, 'Judea', 'O deued pob Cristion' a 'Llanbedr'.

Llyfr cerddoriaeth,

Casgliad o garolau. Yn cynnwys 'Ym Mrenhinol Ddinas Dafydd', gan H. J. Gauntlett, geiriau gan Miss Jane Owen, Llanfairfechan; 'Tua Bethlem dref' [sic.] gan Edward Arthur; 'Pawr y defaid yn ddiogel' [Schafe können sicher weiden, gan J. S. Bach], trefniant Gilmor Griffiths, geiriau Cymraeg gan James Arnold Jones; [dalen 9-10 ar goll]; 'Iesu faban Mair' [Jester Hairston], trefniant Gilmor Griffiths, geiriau gan Vincent H. Timothy; 'Noel' gan Gilmor Griffiths, geiriau Saunders Lewis; 'Cysga'n dawel blentyn Mair' gan Gilmor Griffiths; 'Si lwli' gan D. Tawe Jones, geiriau Helena Roberts; 'Molwn, clodforwn ef', gan T. Gwynn Jones, geiriau W. J. Bowyer; 'Y Brenhinoedd', trefniant Gilmor Griffiths o alaw gan Carl August Peter Cornelius, geiriau Cymraeg gan Mairlyn Lewis; 'Cân Nadolig', trefniant ar gyfer tri llais gan Gilmor Griffiths.

Llyfr gwaith Gilmor Griffiths,

Llyfr gwaith Gilmor Griffiths, yn cynnwys trefniadau lawysgrif gan Gilmor Griffiths, o'r alawon: 'Brother James's air', descant a chyfeiliant gan Gordon Jacob, geiriau Gwilym R. Jones; 'Pan gerddodd Mair i'r deml Gynt', gan Johannes Eccard, cyfieithiad Gwilym Rhys; 'Duw hollalluog' gan Gilmor Griffiths, geiriau Leslie Harries; 'Mwyn ddiddanwch', trefniant Gilmor Griffiths o waith G. F. Handel, geiriau gan James Arnold Jones; 'Cymer Arglwydd feinioes i', gan Gilmor Griffiths, cyfieithiad John Morris-Jones; 'Erw Faen', gan Gilmor Griffiths.

Llyfr Melyn Tyfrydog

  • NLW MS 23969F.
  • Ffeil
  • 1763-1769

Cyfrol o achau, cerddi a nodion hynafiaethol, dyddiedig 1766 (ond a luniwyd tua 1763-1769), yn llaw Hugh Hughes (Y Bardd Coch o Fôn), ac sy'n dwyn y teitl 'Llyfr Melyn Tyfrydog [ne]u'r Gell Gymmysg' (t. xxv). Canolbwyntia rhan gyntaf y gyfrol ar achau disgynyddion Pymtheg Llwyth Gwynedd, y mwyafrif yn deuluoedd o Fôn (tt. 1-91; rhestrir y teuluoedd ar tt. xxvii-xxix). Ychwanegwyd arfbais liwiedig teulu Llwydiarth Esgob i gyd-fynd ag ach Hugh Hughes ei hunan ar t. 40. = A volume of pedigrees, poems and antiquarian notes, dated 1766 (but compiled around 1763-1769), in the hand of Hugh Hughes (Y Bardd Coch o Fôn), and entitled 'Llyfr Melyn Tyfrydog [ne]u'r Gell Gymmysg' (p. xxv). Pedigrees of the descendants of the Fifteen Tribes of North Wales, mostly Anglesey families, fill the first part of the volume (pp. 1-91; the families are listed on pp. xxvii-xxix). The coloured arms of the family of Llwydiarth Esgob are appended to the pedigree of Hugh Hughes himself (p. 40).
Cynhwysa'r gyfrol hefyd nodiadau hynafiaethol (t. 97 passim), trioedd a chynghorion (tt. 107-110, 116-119), ynghyd â nifer helaeth o gerddi Cymraeg (t. xiii passim), rhai wedi eu copïo o 'Delyn Ledr' William Morris, Caergybi (bellach BL Add. MS 14873) (tt. xvi, 119), ac eraill o gyfrol Evan Evans, Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards (London, 1764) (t. 182). Ymysg cerddi cyfoes y llawysgrif, ceir rhai gan David Ellis (t. 282), Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) (t. 269), Hugh Hughes (tt. 260, 272, 275), Robert Hughes (Robin Ddu yr Ail o Fôn) (t. 235), a Goronwy Owen (t. 263). Diweddarwyd rhai o nodiadau hynafiaethol y gyfrol mewn dwylo diweddarach, hyd oddeutu 1858 (t. 50). Am restr o gynnwys y gyfrol, yn llaw Hugh Hughes, gweler t. xvii. = The volume also contains antiquarian notes (p. 97 passim), triads and wisdom (pp. 107-110, 116-119), together with a great number of Welsh poems (p. xiii passim), some copied from the 'Telyn Ledr' of William Morris of Holyhead (now BL Add. MS 14873) (pp. xvi, 119), and others from Evan Evans' Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards (London, 1764) (p. 182). Amongst contemporary poems in the manuscript are compositions by David Ellis (p. 282), Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) (p. 269), Hugh Hughes (pp. 260, 272, 275), Robert Hughes (Robin Ddu yr Ail o Fôn) (p. 235), and Goronwy Owen (p. 263). Antiquarian notes of a later period were added to the manuscript, until c. 1858 (p. 50). For a list of the volume's contents, in the hand of Hugh Hughes, see p. xvii.

Hughes, Hugh, 1693-1776

Llyfr nodiadau.

Llyfr nodiadau gyda dyfyniadau o lyfrau hanesyddol Saesneg yn bennaf. Tua chanol y gyfrol ceir cerdd: ‘Y gweithfeydd hyn’ [cyhoeddwyd yn Christine James (gol.), Cerddi Gwenallt: y casgliad cyflawn (Llandysul, 2001) fel ‘Y gweithfeydd segur’ ac yn wreiddiol yn Baner ac Amserau Cymru, 25 Awst 1943], a dau englyn: ‘Er cof am David Lewis, Dolanog’ [cyhoeddwyd fel ‘Er cof am Ddafydd Lewis, Gwasg Gomer’, yn Cerddi Gwenallt a chyn hynny yn Baner ac Amserau Cymru, 8 Medi 1943].

Llyfr nodiadau

Llyfr nodiadau yn cynnwys dyfyniadau yn llaw Gwenallt, [1962]-[?1968], o lyfrau diwinyddol yn nodi’r gweithiau printiedig, rhifau tudalen a rhai ffynonellau llawysgrif. Maent yn ymwneud â John Bunyan, Williams Pantycelyn ac eraill ac mae’r mwyafrif mewn Saesneg.

Canlyniadau 641 i 660 o 1033