- 17.
- Ffeil
- [1890x1926].
Rhan oPapurau Eifion Wyn
Copïau llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig o emynau o waith EW. Rhestrir hwy yn nhrefn yr wyddor yn ôl y llinell gyntaf. Pan gynhwysir y gerddoriaeth, nodir hynny mewn cromfachau; nodir hefyd unrhyw bennawd a fo i'r emyn neu'r dôn. 31 ff. F. 1: 'A chân y deuaf i Dy byrth' [y dôn 'Eirianedd' o waith W. H. Roberts]. Printiedig [Y Ddalen Gerddorol, rhif 3]. Ff. 2-3: 'Am hedd y nos, am oleu'r wawr' ['Mawr yw Dy ffyddlondeb']. Teipysgrif; toriad papur. F. 4: 'Am yr Ysgol Sul diolchwn' ("canwyd yr emyn ar dôn o waith J. C. McLean yng Nghymanfa'r Pavilion 1914"). Teipysgrif. Ff. 5-7: 'Ar hyd ffordd fy mhererindod' ['Dy wyneb a geisiaf'; y dôn 'Glaslyn' o waith William Griffith, Porthmadog]. Teipysgrif (2); printiedig. F. 8: 'Canmolaf yr Arglwydd goruchaf' ['A'i asgell y cysgoda Efe trosot']. Teipysgrif. Ff. 9-10: 'Efengyl tangnefedd, ehed dros y byd' ['Ar y ddaear tangnefedd'; y dôn 'Efengyl Tangnefedd' ('Gospel of Peace'), trefniant a chynghaneddiad Noah Williams, Llangollen]. Teipysgrif; printiedig. Ff. 11-12: 'Fry yn Dy nefoedd clyw ein cri' ['Cofiaf dy wyrthiau gynt. Par yn awr lwyddiant'; y dôn 'Eifion' o waith Thomas Hughes, New Ferry]. Teipysgrif; printiedig. F. 13: 'Fugail Da, er mwyn Dy enw' ['Efe a ddychwel fy enaid']. Teipysgrif. F. 14: 'Hoff yw canu am y Ceidwad' ('Emyn cenhadol'). Teipysgrif. F. 15: 'Hoffet ti fod o dy bechod yn rhydd?' ['Mae grym yn y gwaed'; cyfieithiad]. Teipysgrif. F. 16: 'Molwn Di, O Dduw ein tadau' ['Gweler dy waith tu ag at dy weision, a'th ogoniant tu ag at eu plant hwy']. Teipysgrif. F. 17: 'O Ddiddanydd yr addewid' ['Efe a'ch tywys']. Teipysgrif. Ff. 18-21: 'O Dduw ein tadau, ynot Ti' ['Cofiais y dyddiau gynt'; y dôn 'Peredur' o waith William Griffith, Porthmadog, 1917]. Teipysgrif (2); printiedig; llawysgrif [cerddoriaeth yn unig]. Ff. 22-3: 'O, dewch rai bychain, dewch at Fab y Dyn' ['Pwy fel Iesu?']. Teipysgrif. 2 gopi. F. 24: 'Os wyt yn flin o dan dy faich' ['Cymer galon, cyfod, y mae efe yn dy alw di']. Teipysgrif. F. 25: 'Pwy a'n dysg pa fodd i fyw?' ['Neb fel Iesu']. Teipysgrif. F. 26: 'Pwy yw hwn mor edifeiriol' ['Mwy na choncwerwyr']. Teipysgrif. F. 27: ''Rwy'n brysio bob dydd at derfyn fy ngyrfa' [y dôn o waith William Griffith, Portmadoc, 1916]. Llawysgrif [geiriau a cherddoriaeth]. F. 28: 'Ti fu'n croesi môr Tiberias' ['Cofio'r Morwyr: "A hwy a'i derbyniasant Ef i'r llong"']. Teipysgrif. F. 29: 'Ti gynt wrth fôr Tiberias' ['Ac yn y man Efe a'u galwodd hwynt']. Teipysgrif. F. 30: 'Un fendith dyro im' ['Un peth a ddeisyfais i']. Teipysgrif. F. 31: 'Ym mhell y crwydrais, O fy Nuw' ['Dyfod adre 'rwy (cyfieithiad o "Lord, I'm coming home")']. Teipysgrif.