Print preview Close

Showing 197 results

Archival description
Papurau Menna Elfyn
Advanced search options
Print preview View:

Caneuon

Geiriau 'Cân yr Alltud/The Exile's Song', rhan gyntaf y gwaith corawl/cerddorfaol 'In These Stones, Horizons Sing' a gyfansoddwyd gan y cyfansoddwr a'r offerynnwr Karl Jenkins, y geiriau Cymraeg/Saesneg gan Menna Elfyn, Grahame Davies a Gwyneth Lewis.

Llyfrau nodiadau

Cyfres o lyfrau nodiadau Menna Elfyn yn deillio o 1980 hyd at oddeutu 2012, yn cynnwys drafftiau o gerddi, cyfieithiadau o gerddi a rhyddiaith.

Papurau T. Elfyn Jones

Papurau'r Parchedig T. (Thomas) Elfyn Jones, tad Menna Elfyn, yn cynnwys manylion ei ordeino (1937) a'i sefydlu (1949) fel gweinidog; cofnod o'r erthyglau a gyfrannodd at gylchgrawn Y Tyst, 1973-1997; a manylion o oedfaon teyrnged a gynhaliwyd a'r teyrngedau ysgrifenedig a anfonwyd at deulu'r Parchedig T. Elfyn Jones yn sgîl ei farwolaeth yn 2008.

Traethodau ymchwil ar waith Menna Elfyn

Traethodau ymchwil yn ymdrin â gwaith barddonol Menna Elfyn ac eraill, gan gynnwys traethawd di-ddyddiad yn yr iaith Saesneg (gyda dyfyniadau barddonol yng Nghymraeg) gan Siôn Brynach, Coleg Iesu, Rhydychen, traethawd di-ddyddiad a di-enw yn yr iaith Gymraeg (prifysgol/sefydliad heb ei henwi) a thraethawd di-ddyddiad yn yr iaith Saesneg gan Manon Ceridwen James (prifysgol/sefydliad heb ei henwi).

Gwobrwyon ac anrhydeddau

Deunydd yn ymwneud â gwobrywon ac anrhydeddau a ddaeth i ran Menna Elfyn yn ystod ei gyrfa, y rhan helaeth ohono yn deillio o'i chyfnod fel Bardd Plant Cymru (penodwyd 2002), gan gynnwys erthyglau yn y wasg, llyfrynnau gwybodaeth a phosteri Planed Plant; ynghyd â deunydd yn ymwneud â gwobrwyon ac anrhydeddau eraill, er enghraifft Prif Wobr Cymru Greadigol 2007-8, Cymrodoriaeth Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (yn cyd-weithio gyda Elin ap Hywel) (2002-2006), Cymrodoriaeth y Royal Society of Literature (2015) a llywyddiaeth PEN Cymru (2015), yn ogystal â llythyr, 2012, yn ymateb i gais Menna Elfyn i fod yn Gymrawd o'r Academi Gymreig.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol, y rhan helaethaf ohono yn adlewyrchu gwaith a diddordebau llenyddol a gwleidyddol Menna Elfyn, gan gynnwys erthyglau gan y beirdd Tony Conran a Nigel Jenkins, teyrngedau i Nigel Jenkins gan Menna Elfyn, Stevie Davies a Peter Finch a rhaglen ar gyfer digwyddiad i goffau Tony Conran; cyfeweliad rhwng Iwan Llwyd, Menna Elfyn a Nigel Jenkins; tri darn o'r nofel Martha, Jac a Sianco (2004) gan Caryl Lewis yn llawysgrif yr awdur; gwahoddiad i ddigwyddiad yng nghartref yr arlunydd Mary Lloyd Jones; deunydd PEN Cymru; datganiadau i'r wasg; torion a llungopïau o ddeunydd print; a thorion papur newydd, gan gynnwys rhaghysbyseb o berfformiad cerddorol gan Fflur Dafydd, merch Menna Elfyn, yn Eisteddfod yr Urdd, Caerfyrddin, 2007.

Darlithoedd, cyrsiau academaidd a gweithdai

Deunydd yn ymwneud â chyrsiau academaidd a gweithdai y bu Menna Elfyn yn darlithio iddynt, yn eu cyfarwyddo, neu fel arall yn ymwneud â hwynt, gan gynnwys: cwestiynau a bras nodiadau yn ymwneud â chwrs 'Merched o Feirdd yng Nghymru, Ddoe a Heddiw', a gynhaliwyd, yn ôl tystiolaeth pennawd y papur arholiad y defnyddiwyd ar gyfer y nodiadau, ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan; bras nodiadau (llaw a theipysgrif) a wnaed gan Menna Elfyn ar gyfer seminarau fel rhan o gwrs 'Barddoniaeth yr Wythdegau' y bu'n darlithio arno yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd yn ystod y 90au, ynghyd â nodiadau bywgraffyddol ar y "bardd dawnus" (yng ngeiriau Menna Elfyn) Ennis Evans, a fu farw ym 1982 yn 29 oed, gan y bardd a'r llenor Einion Evans, tad Ennis, ysgrif gan Ennis Evans yn dwyn y teitl 'Pe Meddwn Ddawn ...' a dau nodyn ar y deunydd bywgraffyddol ac ar ysgrif Ennis Evans yn llaw Einion Evans; manylion ynghylch amserlenni cwrs Ysgrifennu Creadigol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, 1999-2010, a gyd-gyfarwyddwyd gan Menna Elfyn a'r bardd a'r llenor Nigel Jenkins, ynghyd â datganiad o'r wasg yn ymwneud â'r cwrs ac amrywiol ddeunydd perthnasol, megis trosolygon y cwrs, gohebiaeth, cofnodion cyfarfodydd ac adroddiadau; gweithlen a baratowyd ar gyfer gweithdy llenyddol a gynhaliwyd yn Unol Daleithiau America yn 2005; cofnodion arsylwi ansawdd a dull dysgu a darlithio Menna Elfyn (arsylwyd gan y bardd, dramodydd a darlithydd Dr Dic Edwards, a sefydlodd y cwrs Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan, lle bu'n ddarlithydd hyd at 2019; deunydd yn ymwneud â chwrs Ysgrifennu Ymchwil a gynhaliwyd yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth, 2014; a bras nodiadau darlith/trafodaeth yn llaw Menna Elfyn.
Gweler hefyd dan bennawd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant o fewn yr archif hon.
Mae Menna Elfyn yn Athro Emerita mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol yn ymwneud â gwaith Menna Elfyn, gan gynnwys: taflen yn hysbysebu cyhoeddiad Eucalyptus (Gwasg Gomer, 1995), sef detholiad o gerddi gan Menna Elfyn; taflen yn hysbysebu gwasanaethau Menna Elfyn fel Awdur Preswyl wedi'i lleoli yn Llyfrgell Dinbych (gweler dan bennawd Awdur preswyl o fewn yr archif hon); nodiadau yn llaw Menna Elfyn ac mewn teipysgrif yn ymwneud â'r bardd a'r imiwnolegydd Miroslav Holub a'r bardd a'r dramodydd Seamus Heaney; llungopi o glawr Aderyn Bach Mewn Llaw (Gwasg Gomer, 1990), sef detholiad o gerddi gan Menna Elfyn; poster ar gyfer noson yng nghwmni beirdd ac awduron Cymreig a gynhaliwyd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin (dim blwyddyn wedi'i nodi); gwahoddiad argraffiedig i Menna Elfyn fynychu digwyddiad fel rhan o Ffair Lyfrau Göteborg (Gothenburg), Sweden, Medi 2003; bwydlen argraffiedig fel rhan o ddigwyddiad goffa Catrin Glyndŵr a hybwyd gan Awdurdod Datblygu Cymru (dim dyddiad); cytundeb argraffiedig, Gorffennaf 2010, rhwng y cyhoeddwyr Solum Forlag, Oslo, Norwy a Menna Elfyn ynghylch cyfieithu a chyhoeddi Cell Angel, detholiad o gerddi gan Menna Elfyn (Bloodaxe Books, 1996); poster yn hysbysebu darlleniadau gan Menna Elfyn o'r gyfrol farddoniaeth O'r Iawn Ryw, a olygwyd gan Menna Elfyn (Honno, 1992); a llungopïau a gymerwyd o weithiau argraffiedig yn ymwneud â menywod ac â llenyddiaeth.

Papurau'r Parchedig T. (Thomas) Elfyn Jones

Papurau'r Parchedig T. (Thomas) Elfyn Jones, tad Menna Elfyn, yn cynnwys: llyfryn a argraffwyd ar gyfer Cyfarfodydd Ordeinio T. Elfyn Jones yn weinidog ar gapeli Annibynnol Llanboidy a Rhydyceisiaid, Mai 5 & 6 1937; cerdyn post, 8 Mawrth 1949, oddi wrth y Parchedig T. Elfyn Jones o Ficerdy Christ Church, Caerwynt (Winchester) at Mr & Mrs B. Stephens, Llysderi, Tymbl Uchaf, ger Llanelli; llyfryn a argraffwyd ar gyfer Cyfarfodydd Sefydlu'r Parchedig T. Elfyn Jones yng Nghapel Annibynnol y Tabernacl, Pontardawe, 6 Hydref 1949; copi o erthygl ysgrifennwyd gan T. Elfyn Jones i'r Tyst, cylchgrawn Undeb yr Annibynnwyr a'r capeli Annibynol (rhifyn 19 Ebrill 1973); llyfrau nodiadau yn cynnwys lloffion o erthyglau argraffedig, 1981, 1986, 1988-1997, a gyfrannodd y Parchedig T. Elfyn Jones i'r Tyst (arnodiadau yn llaw T. Elfyn Jones), ynghyd ag un erthygl yn llaw T. Elfyn Jones; erthygl o rifyn Tachwedd 2005 o Papur y Cwm, papur bro Cwm Gwendraeth, yn adrodd hanes lansio Seinio Clod (Gwasg Morgannwg, 2005), cyfrol o emynau'r Parchedig T. Elfyn Jones (gweler nodyn bywgraffyddol T. Elfyn Jones ym mhrif weithlen y rhan hon o'r archif); taflen wasanaeth angladdol y Parchedig T. Elfyn Jones, 15 Hydref 2008; llythyrau, ebyst a cherdyn cydymdeimlad a anfonwyd at Menna Elfyn ar achlysur marwolaeth ei thad, y Parchedig T. Elfyn Jones, y gohebwyr yn cynnwys y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor (mab y gwleidydd, cyfreithiwr ac awdur Gwynfor Evans), John Roberts (Radio Cymru), Dr Medwin Hughes (Prifathro Coleg y Drindod, Caerfyrddin), y bardd a'r llenor Nigel Jenkins, yr awdur a'r cynghorydd tref Peter Hughes Griffiths a'r academydd, hanesydd, darlledydd ac awdur Hywel Teifi Edwards; ysgrif goffa i'r Parchedig T. Elfyn Jones gan Alun Lenny a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Barn, Tachwedd 2008; llyfrynnau a argraffwyd ar gyfer Oedfaon Teyrnged i'r Parchedig T. Elfyn Jones yng Nghapel y Tabernacl, Pontardawe, 23 Tachwedd [2008] (y daflen yn cynnwys detholiad o gerdd yn dwyn y teitl 'Nhad gan Menna Elfyn, un o'r cerddi a ymddangosodd yn ei chasgliad 'Stafelloedd Aros (Gwasg Gomer, 1978)), ac yng Nghapel Seion, Drefach, 22 Chwefror 2009; teyrnged (teipysgrif) i'r Parchedig T. Elfyn Jones gan y Parchedig Wilbur Lloyd Roberts (gweler hefyd lyfryn yr Oedfa Deyrnged i'r Parchedig T. Elfyn Jones); taflen argraffedig ar gyfer gwasanaeth i ddathlu bywyd y Parchedig T. Elfyn Jones, 30 Tachwedd [2008]; a llyfryn a argraffwyd ar gyfer Oedfa o Fawl i'r Parchedig T. Elfyn Jones a J. Rhyddid Williams yng Nghapel Seion, Drefach, 23 Medi 2012.

Aderyn Bach Mewn Llaw

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd Aderyn Bach Mewn Llaw (1990), gan gynnwys adolygiadau, gohebiaeth, erthygl a chyfrol o farddoniaeth sy'n cynnwys cyfieithiadau o un o'r cerddi gwreiddiol i Iseldireg a Ffriseg Orllewinol.

Cell Angel

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd ddwyieithog Cell Angel (1996), gan gynnwys adolygiadau, datganiadau i'r wasg, erthyglau, cyfieithiad o'r gyfrol i'r Eidaleg, a gohebiaeth berthnasol, gan gynnwys llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth Tony Conran a Joseph Clancy, dau o gyfieithwyr y cerddi i'r Saesneg.

Cusan Dyn Dall/Blind Man's Kiss

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd ddwyieithog Cusan Dyn Dall/Blind Man's Kiss (2001), gan gynnwys adolygiadau, datganiadau i'r wasg, drafft o ragair gan Nigel Jenkins, llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth Tony Conran, un o gyfieithwyr y cerddi, a chyfieithiadau o rai o'r cerddi i Bortiwgaleg.

The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry

Deunydd yn ymwneud â The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry (2003), cyfrol o gerddi mewn cyfieithiad a gyd-olygwyd gan Menna Elfyn a'r Athro John Rowlands, gan gynnwys adolygiadau, erthyglau, datganiadau i'r wasg, drafft o'r rhagymadrodd a gohebiaeth oddi wrth gyfranwyr i'r gyfrol (neu eu cynrychiolwyr) - sy'n cynnwys llythyr oddi wrth Twm Morys yn gwrthod y cynnig o gyflwyno'i waith - ynghyd â llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth John Rowlands ac oddi wrth aelodau o'r tîm cyfieithu, sy'n cynnwys Nigel Jenkins, Tony Conran, Robert Minhinnick a Joseph Clancy.

Merch Perygl

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd Merch Perygl (2011), gan gynnwys adolygiad a chyhoeddiad ynghylch lansiad y gyfrol.

Barddoniaeth beirdd eraill

Deunydd yn ymwneud â barddoniaeth rhai beirdd ar wahân i Menna Elfyn, gan gynnwys teyrngedau i waith a bywyd y llenor Gwyddelig Seamus Heaney.

Cyfieithiadau gan Menna Elfyn

Deunydd yn ymwneud â chyfieithiadau gan Menna Elfyn o'i gwaith barddonol ei hun ac o waith beirdd eraill, gan gynnwys Gillian Clarke, John Barnie, y bardd Tsieineaidd Shi Tao a'r bardd Pwnjabaidd Mazhar Tirmazi.

Results 81 to 100 of 197