Showing 556 results

Archival description
series Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Papurau ymchwil

Mae'r gyfres yn cynnwys papurau, [1943x2001], sy'n adlewyrchu diddordebau ymchwil John Stoddart (Osian, ieithoedd, yn arbennig yr Aeleg, a cherddoriaeth); ynghyd â thorion papur newydd a phapurau amrywiol eraill.

Gohebiaeth gyffredinol

Llythyrau, 1924-1996, gan gynnwys rhai a anfonwyd at Erfyl Fychan a'i fab Geraint Vaughan-Jones, yn ymwneud â'u dyletswyddau proffesiynol, ynghyd â phersonalia.

Un Nos Ola Leuad,

Papurau, [1966]-1991, yn ymwneud ag addasiad teledu Gwenlyn Parry ac Endaf Emlyn o nofel Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad, yn cynnwys sgript radio llawysgrif Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard, [1966x1980]; copi o rai o bryddestau Caradog Prichard, [1989]; awgrymiadau gan Endaf Emlyn a Gwenlyn Parry ar gyfer yr addasiad, 1989; drafftiau, [1989]-1990; copi o'r drafft terfynol, 1990; amserlen ffilmio, 1990; a deunydd cyhoeddusrwydd, 1991.

Emlyn, Endaf, 1944-

Deunydd printiedig,

Deunydd printiedig yn ymwneud â gwaith Gwenlyn Parry, 1962-1991, yn cynnwys llyfr lloffion, 1962-1966; rhaglenni theatr a phosteri, 1966-1991; cylchgronau, 1973-1988; a thorion o'r wasg, [1978-1991].

T. J. Morgan

Llythyrau a drafftiau a anfonwyd at T. J. Morgan tra bu'n golygu'r Llenor, 1946-1955; nodyn gan Prys Morgan, 1987; llythyr at W. J. Gruffydd, 1936; cerddi gan R. Williams Parry, 1937, a phapurau yn ymwneud ag erthygl Prys Morgan arnynt, 1967, 1971-1972; drafft o 'Cymraeg Llafar Safonol', c. 1962; Copïau o Caneuon y Canor, heb ei ddyddio, a Yn Mlaen yw Arwyddair y Byd, 1893, gyda llythyr, 1962; papurau yn ymwneud â Richard Williams (Gwydderig), heb eu dyddio, a llythyr, 1975.

Llythyrau cyffredinol

Llythyrau, 1924-1972, oddi wrth nifer o ohebwyr gwahanol at Dr Iorwerth Hughes Jones yn bennaf (ceir rhai llythyrau at ei wraig a'i dad). Mae'r llythyrau hyn yn trafod amrywiol bynciau megis materion celfyddydol a llenyddol; pynciau hanesyddol ac archaeolegol; enwau lleoedd; materion meddygol; gwleidyddiaeth, ac yn arbennig, gwleidyddiaeth Gymreig, gan gynnwys yr ymgyrch dros Senedd i Gymru, materion Plaid Cymru a llwyddiant etholaethol Dr Iorwerth Hughes Jones; materion cyhoeddus yr oedd Dr Iorwerth Hughes Jones yn ymwneud â hwy, megis ymgyrchoedd lleol, a'i aelodaeth ag amrywiol cymdeithasau a mudiadau; ceir cyfeiriadau at yr Ail Ryfel Byd mewn rhai llythyrau; ac yn ogystal â hyn oll fe geir llythyrau sydd yn fwy personol eu naws.

Gohebiaeth yr Ysgrifennydd

Llythyrau at ysgrifennydd yr eglwys a chopïau o'i atebion, 1963-1997, yn cynnwys gohebiaeth ag aelodau a phregethwyr, a phapurau'n ymwneud â gofal am yr organ, y Mans, tŷ'r capel, a'r fynwent, gyda chynlluniau ar gyfer atgyweirio'r tŷ capel a'r festri, a'r Mans.

Results 101 to 120 of 556