Dangos 839256 canlyniad

Disgrifiad archifol
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Achos llys HTV, yn cynnwys datgeliadau i'r llys

Papurau gweinyddol, gohebiaeth, a chofnodion cyfarfod, 1978-1979 a 1989-1992, yn ymwneud ag achos llys Plas Pistyll ac ymgyfreitha cysylltiedig. Mae’r ffeil yn cynnwys cyfieithiad o ddatgeliadau, yn cynnwys gohebiaeth a phapurau (1989-1992), yn ymwneud â’r ymddiriedolaeth, datblygu Plas Pistyll, costau, cynllun busnes, cyfweliadau, copïau o’r tystysgrifau cofrestru morgais, copi o’r sgript rhaglen ‘Y Byd ar Bedwar’ (1992) a chofnodion cyfarfod, manylion costau a chredwyr; bwndl wedi’i labelu ‘File/Bundle 2’, yn cynnwys gohebiaeth a phapurau amrywiol (1989-1992), yn ymwneud a phrynu Plas Pistyll , y cynlluniau datblygu, a materion ariannol; a chopïau o atodiadau wedi’i rhifo 1, 3-6, yn cynnwys papurau a gohebiaeth (1978-1979 a 1989-1991), yn ymwneud a prynu a datblygu Plas Pistyll, a chopïau o gweithredoedd ymddiriedolaeth.

'Achos mae'

Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrif darn o waith anorffenedig yn dwyn y teitl 'Achos mae' a ysgrifennwyd yn ystod wythnosau cyntaf 1990, ynghyd â rhai nodiadau a chopi o lythyr a anfonwyd gan Angharad Tomos at Islwyn Ffowc Elis ym mis Ionawr 1990 yn diolch iddo am ei gyngor ac yn trafod ei gwaith ysgrifennu.

Achos Ysgol Casmael/Puncheston School,

  • NLW ex 2388.
  • ffeil
  • 1990-1995.

Gohebiaeth, 1990-1995, yn ymwneud ag achos i ddadgategoreiddio Ysgol Casmael, Sir Benfro, o fod yng nghategori A yn ieithyddol, sef rhoi blaenoriaeth i'r Gymraeg, i fod yn gategori B, sef i roi blaenoriaeth i'r Saesneg. = Correspondence, 1990-1995, relating to the case of decategorising Puncheston School, Pembrokeshire, from being a category A school, where linguistically Welsh was given prominence, to a category B school, which would give prominence to English.

Achosion i'w clywed yn Gymraeg gan yr ynadon ym Mhwllheli,

  • NLW Misc. Records 305.
  • ffeil
  • 1975.

Copi (teipiedig gydag ychwanegiadau yn llaw J. E. Roberts) o'r 'Rhestr o'r achosion i'w clywed gan yr ynadon ym Mhwllheli Medi 24, 1975', gyda'r dyfarniadau; a chopi ffotograffig o'r sylwadau a wnaed gan y rhoddwr, cadeirydd y llys, ar ddechrau'r cyfarfod. Dyma'r tro cyntaf i holl weithgareddau llys ynadol a'r trafodaethau yn y llys i gael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg. = Typescript copy, with additions in the hand of J. E. Roberts, of the list of cases brought before the magistrates at Pwllheli, 24 September 1975, with the verdicts; together with a photocopy of the comments made at the beginning of the session by J. E. Roberts, chairman of the court. This was the first time that the proceedings in a magistrates court had been conducted through the Welsh language.

Canlyniadau 501 i 520 o 839256