Papurau'r cerddor, archaeolegydd, awdur a darlithydd Rhys Mwyn, sy'n cynnwys:
PAPURAU MAWRTH 2023
BOCS 1
Ffotograffau a sleidiau lliw a du-a-gwyn o'r gantores Gymreig-Gernyweg Gwenno a'r bandiau Cymreig Gogz a Carlotta. Dim dyddiad.
.
Posteri gigiau Anhrefn a grypiau eraill yn ystod y 1980au a'r 1990au, y gigiau'n cynnwys Pesda Roc 1984 a digwyddiadau Cymdeithas yr Iaith. 1984-1993
Torion o'r wasg a chylchgronau yn ymwneud â'r gyfres deledu S4C Er Mwyn Roc a Rôl, a fu'n dilyn Rhys Mwyn dros gyfnod o flwyddyn wrth iddo drefnu gŵyl roc flynyddol Porthmadog, Miri Madog. 2001
Torion o weisg Cymreig, Gwyddelig ac Ewropeaidd yn ymwneud ag Anhrefn a cherddorion eraill Cymreig. Deunydd gwreiddiol a llungopïau. 1979-2019.
Torion o'r wasg yn cynnwys colofn wythnosol Rhys Mwyn yn Yr Herald Cymraeg, 2005-2008.
BOCS 2
Torion o'r wasg yn cynnwys colofn wythnosol Rhys Mwyn yn Yr Herald Cymraeg, 2009-2018.
BOCS 3
Deunydd yn ymwneud â'r albwm Hen Wlad fy Mamau/Land of my Mothers (1995; rhyddhawyd fersiwn wedi'i ail-gymysgu gan gwmnïau recordio V2/Blue Rose yn 1997), gan gynnwys gohebiaeth yn bennaf rhwng Rhys Mwyn/Recordiau Crai a Blue Rose; posteri a delweddau; adroddiadau ac adolygiadau yn y wasg a sylwadau ar yr albwm gan leoliadau cerddoriaeth (e.e. clybiau nos) a siopau recordiau; ffurflenni caniatâd ar gyfer artistiaid; deunydd yn ymwneud â recordio fersiwn gwreiddiol yr albwm (1994-1995); manylion ynghylch gigiau; a chytunebau rhwng Rhys Mwyn/Land of my Mothers a Blue Rose. Gweler hefyd Papurau Ebrill 2024
1994-1998
BOCS 4
'Fanzines' roc amrywiol, yn cynnwys Macher (rhifynnau 2-4), Crud (rhif 5), Y Dyfodol Dyddiol (rhifynnau 1 & 4), Live from the Foxes (rhifyn 2), Amser Siocled (rhifynnau 2-5) a Data Kill (rhifyn 1), yn ogystal â rhifyn o Dom Deryn, cylchgrawn aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantâf. [1980au]
Ffotograffau lliw a du-a-gwyn o Anhrefn ar lwyfannau Cymru, Iwerddon ac Ewrop. 1980au a 1990au.
Gohebiaeth at Rhys Mwyn oddi wrth, ymysg eraill, y gantores Lleuwen Steffan (2018, 2019); y delynores Llio Rhydderch (dim dyddiad); y cerddor David Edwards o'r band Datblygu (2012-2018); cymdeithasau hanes/llenyddol; y cyfryngau; a darllenwyr Yr Herald Cymraeg. Deunydd pellach yn llaw David Edwards a deunydd yn ymwneud â'r band Datblygu; deunydd gan neu'n ymwneud â Llio Rhydderch.
Cardiau penblwydd Rhys Mwyn yn 50 oed. (2012)
Posteri'n hysbysebu digwyddiadau lle bu Rhys Mwyn yn annerch, tywys neu'n perfformio. 2010-2017
Cytundebau rhwng Anhrefn a Recordiau Sain. 1990-1991
Erthyglau Rhys Mwyn yn Y Faner. 1984-1986
Gohebiaeth rhwng Rhys Mwyn a chwmnïau cyhoeddi Y Lolfa a Gwasg Carreg Gwalch. 1991-1992
Torion o'r wasg yn ymwneud â Thaith Popty (taith bandiau pop Cymreig o amgylch ysgolion Cymru) 2003.
Deunydd yn ymwneud ag arddangosfa deithiol o waith yr arlunydd gweledol Jamie Reid. 1991
Copi o'r CMJ New Music Report sy'n cynnwys deunydd ynghylch Anhrefn. 1987.
Deunydd yn ymwneud â'r gryno-ddisg Marching Songs of the Free Wales Army, a gynhyrchwyd gan label recordiau Anhrefn. 2008
Deunydd yn ymwneud â thaith y grŵp Albanaidd Nyah Fearties trwy Gymru, a drefnwyd ac a hyrwyddwyd gan Rhys Mwyn. 1993
PAPURAU EBRILL 2024
BOCS 1 (1 bocs)
Papurau newydd a chylchgronau sy'n cynnwys adolygiadau o'r albwm Hen Wlad fy Mamau/Land of my Mothers. 1995-1998 Gweler hefyd Papurau Mawrth 2023 Bocs 3
= Papers of the musician, archaeologist, author and lecturer Rhys Mwyn, comprising:
MARCH 2023 PAPERS
BOX 1
Colour and black-and-white photographs and slides of the Welsh-Cornish singer Gwenno and of the Welsh bands Gogz and Carlotta. No date.
Gig posters of Anhrefn and other bands of the 1980s and 1990s, the gigs including Pesda Roc 1984 and Cymdeithas yr Iaith events. 1984-1993.
Press cuttings and magazines relating to the S4C television series Er Mwyn Roc a Rôl, which followed Rhys Mwyn over the course of a year while he was organising Porthmadog's annual rock festival Miri Madog. 2001
Cuttings from the Welsh, Irish and European press relating to Anhrefn and other Welsh musicians. Originals and photocopies. 1979-2019
Press cuttings comprising Rhys Mwyn's weekly column in Yr Herald Cymraeg newspaper. 2005-2008.
BOX 2
Press cuttings comprising Rhys Mwyn's weekly column in Yr Herald Cymraeg newspaper. 2009-2018
BOX 3
Material relating to the album Hen Wlad fy Mamau/Land of my Mothers (1995; remixed version released by record companies V2/Blue Rose in 1997), which includes correspondence primarily between Rhys Mwyn/Crai Records and Blue Rose; posters and images; press reports and reviews and comments on the album by music venues and sales outlets; artist consent forms; gig details; material relating to the original recording of the album (1994-1995); and contracts between Rhys Mwyn/Land of my Mothers and Blue Rose. 1994-1998 See also April 2024 papers
BOX 4
Various rock fanzines, comprising Macher (issues 2-4); Crud (issue 5); Y Dyfodol Dyddiol (issues 1 & 4); Live from the Foxes (issue 2); Amser Siocled (issues 2-5) and Data Kill (issue 1), together with an issue of Dom Deryn, the magazine of Cymdeithas yr Iaith members/supporters at Glantâf Welsh Comprehensive School. [1980s]
Colour and black-and-white photographs of Anhrefn onstage in Wales, Ireland and Europe. 1980s and 1990s
Correspondence addressed to Rhys Mwyn from, amongst others, singer Lleuwen Steffan (2018, 2019), harpist Llio Rhydderch (no date); musician David Edwards of the band Datblygu (2012-2018); historical/literary societies; the media; and readers of Yr Herald Cymraeg. Further material by David Edwards and material relating to the band Datblygu; material by or relating to Llio Rhydderch.
50th birthday cards sent to Rhys Mwyn. 2012
Posters/flyers advertising events at which Rhys Mwyn lectured, tour-guided or performed. 2010-2017
Contracts between Anhrefn and Sain Records. 1990-1991
Articles by Rhys Mwyn published in Y Faner newspaper. 1984-1986
Correspondence between Rhys Mwyn and publishing companies Y Lolfa and Gwasg Carreg Gwalch. 1991-1992
Press cuttings relating to 'Taith Popty' (a tour of Welsh pop bands around Welsh schools). 2003
Material relating to a travelling exhibition by visual artist Jamie Reid. 1991
Copy of the CMJ New Music Report, which includes material relating to Anhrefn. 1987
Material relating to the CD Marching Songs of the Free Wales Army, produced on the Anhrefn record label. 2008
Material relating to a Welsh tour by Scottish band Nyah Fearties, which was organised and promoted by Rhys Mwyn. 1993
APRIL 2024 PAPERS
BOX 1 (1 box)
Newspapers and magazines containing reviews of the album Hen Wlad fy Mamau/Land of my Mothers. 1995-1998 See also March 2023 papers Box 3