Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [1856x1857]-1886 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Ffeil
Maint a chyfrwng
63 ff. (hen dudaleniad 3-15, 17 ar ff. 2-8 verso; ff. 17-26, 36 verso-49 verso testun wyneb i waered) ; c. 280 x 180 mm.
Cloriau cerdyn brown; 'Ceiriog' (mewn inc ar y clawr blaen).
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Cyfrol, [1856x1857]-[1860au cynnar], yn llaw Ceiriog, yn bennaf yn cynnwys barddoniaeth, anerchiadau a hwiangerddi (ff. 1-49), ynghyd ag eitemau rhyddion, 1862-1886 (ff. 50-63, mewn amlen archifol). = A volume, [1856x1857]-[early 1860s], in the hand of Ceiriog, containing mostly poetry, speeches and nursery rhymes (ff. 1-49), together with loose items, 1862-1886 (ff. 50-63, in an archival envelope).
Mae'r gyfrol yn cynnwys drafftiau, neu rannau o ddrafftiau, [1850au hwyr]-[1860au cynnar], o dros ugain o gerddi (ff. 17-27 a 36 verso-49 verso (tesun wyneb i waered), 59-60 verso), gan gynnwys 'Gair Tros y Delyn' (f. 24), 'Syr Meurig Grynthwth' (ff. 24 verso-25 verso) ac 'Y Telyniwr dall' (ff. 39-40 verso), a gyhoeddwyd yn Oriau'r Hwyr (Rhuthun, 1860); 'Alun Mabon' (ff. 17 recto-verso), 'Lisi Fluelin yn deir blwydd oed' (f. 18), 'Garibaldi a Charcharor Naples' (ff. 18 verso-19), 'Tywysog Cymru' (f. 23), 'Myfanwy Fychan' (ff. 36 verso-38 verso), 'Y Wlanen' (ff. 43 recto-verso, 46-47), 'Y Glowr' (ff. 44-45 verso), 'Datod mae rhwymau' (f. 48 verso), 'Bum tros y Wyddfa fawr' (f. 48 verso), 'Eich Bachgen' (ff. 48 verso-49) ac 'Evan Benwan (Ail Ran)' (f. 59 recto-verso), a gyhoeddwyd yn Oriau'r Bore (Rhuthun, 1862); a 'Paham mae Dei mor hir yn dod' (ff. 63-64), a gyhoeddwyd yn Oriau Eraill (Wrecsam, [1868]), tt. 63-64. Mae cerddi ar yr Ysgol Sul (f. 41 recto-verso) a Samuel Roberts, Llanbrynmair (f. 42 recto-verso), ymysg eraill, o bosib heb eu cyhoeddi. Ceir hefyd casgliad o saith deg dwy hwiangerdd, [1856x1857], tua chwe deg ohonynt yn ymddangos yn Oriau'r Haf (Wrecsam, [1870]), tt. 21-47 passim (ff. 1-10 verso); ac eitemau o ryddiaith, gan gynnwys anerchiad ar farddoniaeth i Gymdeithas Lenyddol Gymreig Manceinion, [?1858] (ff. 27 verso-34 verso), 'Pilsen i Ffarmwyr' (ff. 35-36 verso), a nodiadau (ff. 23 verso, 26 verso). Mae'r papurau rhyddion yn cynnwys rhestr anghyflawn o alawon Cymreig, [1862], o bosib mewn perthynas â'r gyfrol Cant o Ganeuon (Wrecsam, [1863]) (ff. 50-57), ac anfonebau am gario nwyddau, 1874-1886, oddi wrth y Van Railway Company (ff. 61-63). = The volume includes drafts, or parts of drafts, [late 1850s]-[early 1860s], of over twenty poems (ff. 17-27 a 36 verso-49 verso (inverted text), 59-60 verso), including 'Gair Tros y Delyn' (f. 24), 'Syr Meurig Grynthwth' (ff. 24 verso-25 verso) and 'Y Telyniwr dall' (ff. 39-40 verso), published in Oriau'r Hwyr (Ruthin, 1860); 'Alun Mabon' (ff. 17 recto-verso), 'Lisi Fluelin yn deir blwydd oed' (f. 18), 'Garibaldi a Charcharor Naples' (ff. 18 verso-19), 'Tywysog Cymru' (f. 23), 'Myfanwy Fychan' (ff. 36 verso-38 verso), 'Y Wlanen' (ff. 43 recto-verso, 46-47), 'Y Glowr' (ff. 44-45 verso), 'Datod mae rhwymau' (f. 48 verso), 'Bum tros y Wyddfa fawr' (f. 48 verso), 'Eich Bachgen' (ff. 48 verso-49) and 'Evan Benwan (Ail Ran)' (f. 59 recto-verso), published in Oriau'r Bore (Ruthin, 1862); and 'Paham mae Dei mor hir yn dod' (ff. 63-64), published in Oriau Eraill (Wrexham, [1868]), pp. 63-64. Poems on the Sunday School (f. 41 recto-verso) and on Samuel Roberts, Llanbrynmair (f. 42 recto-verso), amongst others, are possibly unpublished. Also included is a collection of seventy-two nursery rhymes, [1856x1857], some sixty of which appear in Oriau'r Haf (Wrexham, [1870]), pp. 21-47 passim (ff. 1-10 verso); and prose items including a speech on poetry for Cymdeithas Lenyddol Gymreig Manceinion, [?1858] (ff. 27 verso-34 verso), 'Pilsen i Ffarmwyr' (ff. 35-36 verso), and notes (ff. 23 verso, 26 verso). The loose papers include an incomplete list of Welsh airs, [1862], possibly in connection with the publication of Cant o Ganeuon (Wrexham, [1863]) (ff. 50-57), and invoices for the carriage of goods, 1874-1886, from the Van Railway Company (ff. 61-63).
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Saesneg
- Cymraeg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, ychydig o Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Dalennau wedi eu rhwygo allan ar ôl ff. 14 (2), 17 (2), 25 (2), 26, 32, 34 (3), 37, 40, 42 and 49 (gwaredwyd olion 3 bifoliwm coll yn gyfangwbl wrth drwsio'r gyfrol, sef un rhwng ff. 14-15 a 37-38 a dau rhwng ff. 17-18 a 34-35); ff. 20-22 bonion yn unig. Trwsiwyd y gyfrol yn LlGC, 2021.
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Alma system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Cymdeithas Lenyddol Gymreig Manceinion (Pwnc)
- Van Railway (Pwnc)
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Mawrth 2022.
Iaith(ieithoedd)
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd y disgrifiad gan Rhys Jones.