Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1957-2001 (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.099 metrau ciwbig (11 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Roedd Carys Bell (1930-2001) yn awdur, darlledydd, arlunydd a cherflunydd. Fe'i ganed ym Mhorthmadog, yn ferch i Olwen a W. M. Richards, athro daearyddiaeth yn Ysgol y Sir yn y dref honno. Astudiodd celf yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth cyn hyfforddi fel athrawes cerflunio a phaentio yng Ngholeg Homerton, Caergrawnt.
Yn dilyn cyfnod byr fel athrawes lanw yn Llundain ymunodd â staff y BBC yng Nghaerdydd ym 1952. Bu'n gweithio fel cyhoeddwraig radio a darllenwraig newyddion BBC Cymru am sawl blwyddyn ac adwaenwyd hi fel 'the girl with the golden voice'. Ar ôl priodi â Christopher Bell ym 1957, fe symudodd i Lundain ac ail-hyfforddi fel rheolwr stiwdio, gan weithio am gyfnod i Wasanaeth y Byd y BBC. Yn dilyn genedigaeth ei dwy ferch, Rhiannon a Branwen, bu'n gweithio yn annibynnol fel darlledydd radio a theledu, a chyfrannu i raglenni megis 'Merched yn bennaf' fel gohebydd Llundain. Yn ogystal, bu'n feirniad celfyddyd Y Faner am ddeng mlynedd a chyfrannodd erthyglau i'r Cymro yn rheolaidd. Cyhoeddodd saith o nofelau dan ei henw morwynol, Carys Richards, yn eu plith Patrwm rhosod, sef trosiad o nofel K. M. Peynton, A pattern of roses.
Rhannodd ei hamser rhwng ei chartref yn Chorleywood, swydd Hertford, a Phorthmadog, ardal lle seiliwyd rhai o'i nofelau.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Cymynrodd gan Carys Bell, Ionawr 2002.; A2002/2
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae'r fonds yn cynnwys papurau llenyddol a phersonol yr awdur a'r darlledydd Carys Bell, 1957-2001, yn cynnwys drafftiau o'i nofelau, erthyglau ar gyfer y wasg, sgriptiau radio, a gohebiaeth.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Dychwelwyd llungopïau o deipysgrifau o'r nofelau 'Bywyd du a gwyn' ac 'On your own', dau ddisg cyfrifiadur yn cynnwys copïau o'r nofel 'Dail Helyg', llungopïau o erthyglau yn Y Cymro, a chopi dyblyg o'r cylchgrawn Barn, yn ogystal ag amlenni llythyrau gan y Parch. Huw Ethall a'i wraig Hilda, at ferch Carys Bell, sef Branwen Bell (gweler Ffurflen Werthuso Adrannol SEB 2003-04/13)..
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Ymddengys fod y papurau wedi eu trefnu gan ei gŵr, Christopher Bell, cyn iddynt gael eu trosglwyddo i LlGC. Trefnwyd yn LlGC yn un gyfres: gweithiau llenyddol; a dwy ffeil. Mae'r mwyafrif o'r deunydd o fewn y ffeiliau unigol yn eu trefn gwreiddiol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Mae'r hawlfraint yng ngweithiau Carys Bell yn awr yn eiddo i Christopher Bell, Chorleywood, swydd Hertford, Tachwedd 2003. Amodau hawlfraint arferol o ran gweddill y deunydd.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r rhestr yn LlGC.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Richards, Carys -- Archives. (Pwnc)
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Medi 2003
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Siân Bowyer.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr hwn: papurau o fewn archif Carys Bell.