Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1962-2022 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
0.009 metrau ciwbig (1 bocs bach)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Mae Edward Morley (Ned) Thomas yn awdur, darlithydd, newyddiadurwr, cyhoeddwr ac ymchwilydd i ieithoedd lleiafrifol. Ganwyd yn Little Lever, Sir Gaerhirfryn, ar 11 Mehefin 1936, i rieni o Gymru, a cafodd ei fagu yn Lloegr, Cymru, yr Almaen a'r Swisdir. Astudiodd llenyddiaeth Saesneg yn Rhydychen ac aeth ymlaen i ddarlithio ar Saesneg ym Mhrifysgol Salamanca, 1960-1964, ac ym Mhrifysgol Moscow, 1966-1967. Yn y 1960au hwyr yn Llundain gweithiodd i'r Times, ac am gyfnod ef oedd golygydd Angliya, cylchgrawn Rwsieg wedi ei ariannu gan lywodraeth Prydain.
Symudodd gyda'i deulu i Lwynypiod, sir Aberteifi, yn 1969, gan sefydlu'r cylchgrawn Planet: The Welsh Internationalist yno gyda'i wraig Sara. Yn yr un cyfnod cafodd swydd darlithydd yn yr Adran Saesneg ym Mrifysgol Cymru Aberystwyth. Roedd yn un o sylfaenwyr Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant yn Aberystwyth yn 1988. Symudodd i Gaerdydd yn 1990 i fod yn Gyfarwyddwr ar Wasg Prifysgol Cymru. Dychwelodd i Aberystwyth i fyw ar ôl ymddeol o'r swydd honno yn 1998.
Ei brif gyhoeddiadau yw Orwell (Caeredin, 1965), The Welsh Extremist (Llundain, 1971), Derek Walcott: Poet of the Islands (Caerdydd, 1980), Waldo (Caernarfon, 1985) a Bydoedd: Cofiant Cyfnod (Talybont, 2010).
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ned Thomas; Aberystwyth; Rhodd; Mawrth 2023; 994580797402419.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau Ned Thomas, 1962-2022, yn cynnwys llythyrau a phapurau eraill yn ymwneud ag awduron, beirdd, cyfieithwyr, newyddiadurwyr ac eraill o'i gydnabod yn gweithio yn bennaf yn Gymraeg, Saesneg, ieithoedd lleiafrifol Ewropeaidd megis Basgeg a Chatalaneg, a Rwsieg, gan gynnwys Esyllt T. Lawrence, Emyr Humphreys, R. S. Thomas, Jan Morris, Iris Murdoch, y cenedlaetholwr Basgaidd Txillardegi a'r awduron Rwsiaidd Nawm Odnoposof a Nicita Sabolotsci. = Papers of Ned Thomas, 1962-2022, comprising letters and other papers relating to writers, poets, translators, journalists and other figures of his acquaintance working mostly in Welsh, English, minority European languages such as Basque and Catalan, and Russian, including Esyllt T. Lawrence, Emyr Humphreys, R. S. Thomas, Jan Morris, Iris Murdoch, the Basque nationalist Txillardegi and the Russian writers Naoum Odnopozov and Nikita Zabolotsky.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Trefnwyd yn LlGC fel a ganlyn: gohebiaeth Gymreig; gohebiaeth Brydeinig; gohebiaeth ryngwladol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Basgeg
- Catalaneg
- Saesneg
- Ffrangeg
- Almaeneg
- Eidaleg
- Rwsieg
- Sbaeneg
- Swedeg
- Cymraeg
Sgript o ddeunydd
- Cyrillic
Nodiadau iaith a sgript
Saesneg, Cymraeg, Rwsieg, Ffrangeg, Basgeg, Catalaneg, rhywfaint o Swedeg, Almaeneg ac Eidaleg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Cymorth chwilio a gynhyrchir
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Teitl yn seiliedig ar gynnwys y fonds.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Rhif rheoli system Alma
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Gorffennaf 2023.
Iaith(ieithoedd)
Sgript(iau)
Ffynonellau
Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Ned Thomas, Bydoedd: Cofiant Cyfnod (Talybont, 2010).
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd y disgrifiad gan Rhys Jones.