Showing 59622 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Welsh
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

William Eric Hughes,

Eglwys Bwlchtocyn, Abersoch. Gofyn iddo fod yn feirniad llenyddol ac yn arweinydd yn Eisteddfod Bwlchtocyn.

[William Edward Williams] 'Gwilym Rhug', Bae Colwyn,

Mae'r Orsedd yn ymgynghori â gwyr amlwg ym mywyd Cymru sydd y tu allan i'r Orsedd i weld y modd gorau i sicrhau eu cydweithrediad er mwyn ehangu gwasanaeth a dylanwad yr Orsedd fel gallu cenedlaethol. Penderfynodd yr Orsedd godi Pwyllgor Arbennig a chael nifer cyfatebol o Gymry amlwg i'w cyfarfod mewn cynhadledd. Cynhelir hon ar 17 Ionawr 1930 yn Amwythig a gwahoddir W. J. Gruffydd i fod yno. Rhestrir swyddogion yr Orsedd. Ni thrafodir cyfansoddiad yr Orsedd, ei phasiant na'r defodau cysylltiol. Cylchlythyr teipiedig.

[William Edward Williams] 'Gwilym Rhug', Bae Colwyn,

Diolch am ei ymateb i'r llythyr blaenorol [894 uchod] ac am ei awgrym amserol. Amgaeir rhestr o'r personau o'r tu allan i'r Orsedd. Gan fod 17 Ionawr yn anhwylus i rai, a fyddai 10 Ionawr yn hwylusach? Trefnir y cyfarfod am 2.30 p.m. Rhestr o bedwar enw ar ddeg a wahoddwyd i'r gynhadledd yn Amwythig. Cylchlythyr teipiedig.

William E. Roberts,

Lerpwl. Dilynodd awgrym Carneddog iddo ofyn i W. H. Roberts ynglyn ag awdur "Wil Philip" - sef Brynfab, Brynsiencyn. Wedi ceisio ysgrifennu ato ond heb gael ateb felly gofyn cymorth Carneddog eto.

Results 3201 to 3220 of 59622