Showing 255 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales fonds
Advanced search options
Print preview View:

Llawysgrifau Canolfan Llenyddiaeth Plant Cymru,

  • GB 0210 CANCYMRU
  • fonds
  • [c. 1953]-[c. 1975] (crynhowyd 1979-1990) /

Copiau llawysgrif a theipysgrif o lyfrau plant gan Dafydd Parri, Mary Vaughan Jones, J. Selwyn Lloyd, R. Lloyd Jones, Irma Chilton, Gweneth Lilly a nifer o awduron eraill a gasglwyd gan Ganolfan Llenyddiaeth Plant Cymru, [c. 1953]-[c. 1975] = Manuscripts and typescripts of children's books by Dafydd Parri, Mary Vaughan Jones, J. Selwyn Lloyd, R. Lloyd Jones, Irma Chilton, Gweneth Lilly and many others collected by Canolfan Llenyddiaeth Plant Cymru, [c. 1953]-[c.1975].

Llawysgrifau ychwanegol gan gynnwys llyfr lloffion yn eiddo i Jennie Thomas, un o gyd-awduron 'Llyfr Mawr y Plant', yn cynnwys toriadau o'r wasg yn ymwneud a chyhoeddi'r llyfr; nodiadau a theipysgrif yn llaw Mary Vaughan Jones ar 'Llyfr Bach Culhwch'; llawysgrif yn llaw Mary Vaughan Jones o 'Llyfr Mawr Culhwch' a chyfieithiad yn ei llaw o 'Dan Hwyaden', a llythyron oddi wrthi hi at wahanol bobl. Nid yw'r papurau hyn wedi eu catalogio eto (Awst 2011).

Welsh National Centre for Children's Literature.

Papurau Marion Eames,

  • GB 0210 MEAMES
  • fonds
  • 1927-2007 /

Papurau Marion Eames, 1927-2007, yn cynnwys drafftiau o'i nofelau a gweithiau llenyddol eraill, 1933-[2005]; addasiadau o'i gwaith, 1981-[2007]; erthyglau, anerchiadau a darlithiau, [1970]-[2007]; llyfrau nodiadau a gwaith ymchwil, 1934-[2000]; deunydd printiedig, 1929-2007; gohebiaeth, 1967-2005; a phapurau personol, 1928-2002; ynghyd â phapurau ei gŵr, y newyddiadurwr Griffith Williams, 1927-1977. = Papers of the novelist Marion Eames, 1927-2007, comprising drafts of her novels and other literary works, 1933-[2005]; adaptations of her work, 1981-[2007]; articles, speeches and lectures, [1970]-[2007]; notebooks and research papers, 1934-[2000]; printed material, 1929-2007; correspondence, 1967-2005; and personal papers, 1928-2002; together with the papers of her husband, the journalist Griffith Williams, 1927-1977.

Eames, Marion.

Papurau Dr Iorwerth Hughes Jones

  • GB 0210 IOHUJO
  • fonds
  • 1659-1972 (crynhowyd [c.1919]-1972)

Mae'r archif yn adlewyrchu diddordebau amrywiol Dr Iorwerth Hughes Jones, ac yn cynnwys gohebiaeth, papurau personol, nodiadau, ffotograffau, torion papur newydd, a phapurau a dderbyniodd gan eraill.

Jones, Iorwerth Hughes, 1902-1972

CMA: Cofysgrifau Capel Bethesda Mynydd y Fflint

  • GB 0210 MYNFLI
  • fonds
  • 1906-1972

Mae'r fonds yn cynnwys cofrestr bedyddiadau, 1906-1972 (gydag amryw fylchau), a phriodasau, 1938-1956 (gyda bylchau), Capel Bethesda Mynydd y Fflint.

Mynydd y Fflint (Church : Flint Mountain, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Maesgeirchen, Bangor

  • GB 0210 MAESGN
  • fonds
  • 1974-2000

Cofnodion Capel Maesgeirchen, Bangor, gan gynnwys llyfr tocyn aelodaeth, 1974-1994, cyfrol o gyfrifon ariannol, 1990-1997, a phapurau gweinyddol amrywiol yn cynnwys cyfrifon a phapurau ariannol, llythyrau ariannol a llythyrau i'r aelodau, adroddiadau blynyddol, cyfriflenni, tystysgrifau heb eu llenwi, a gohebiaeth gyda'r henaduriaeth, 1990-2000.

Capel Maesgeirchen (Bangor, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel y Rhos, Rhuthun

  • GB 0210 RHOSUN
  • fonds
  • 1861-1869

Mae'r fonds yn cynnwys llyfr derbyniadau a thaliadau, 1861-1869, a llyfr yr Eisteddleoedd, 1873-1880.

Capel y Rhos (Ruthin, Denbighshire, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Bethel, Talsarnau

  • GB 0210 BETTAL
  • fonds
  • 1837-1865

Mae'r fonds yn cynnwys adysgrifau, 1807-1865, o gofrestri genedigaethau a bedyddiadau Capel Bethel, Talsarnau.

Bethel Chapel (Talsarnau, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Seilo, Johnstown

  • GB 0210 SEILOJ
  • fonds
  • [?1935]-1999

Mae'r fonds yn cynnwys ffolder o gofysgrifau cyffredinol yn ymwneud ag agweddau o weinyddu'r Eglwys a'i gweithgareddau cymdeithasol.

Capel Seilo (Johnstown, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Gwynfa, Y Ffrith

  • GB 0210 GWYNFA
  • fonds
  • 1926-1991

Mae'r fonds yn cynnwys Llyfr Casgliad y Weinidogaeth, 1926-1949, a Llyfr Cyfrifon, 1956-1991.

Capel Gwynfa, Ffrith (Hope, Wales)

Papurau Islwyn Williams,

  • GB 0210 ISLLIAMS
  • fonds
  • 1942-1963 /

Papurau Islwyn Williams, papurau llenyddol yn bennaf, yn cynnwys sgriptiau radio teipiedig,1942-1963, storiâu byrion, sgriptiau drama, storiâu digrif, a chyfrolau o ddyfyniadau a nodiadau personol. = Papers of Islwyn Williams, mainly literary papers, including typed radio scripts, 1942-1963, short stories, drama scripts, humorous stories, and volumes of quotations and personal notes.

Williams, Islwyn, 1903-1957.

CMA: Cofysgrifau Capel Abergeirw

  • GB 0210 ABEGRW
  • fonds
  • 1897-1975

Mae'r fonds yn cynnwys llyfrau cyfrifon amrywiol Capel Abergeirw, sir Feirionnydd, 1899-1940; ynghyd â llyfrau'r ysgrifennydd, 1941-1975; llyfr cofrestriad aelodau'r Capel, 1910-1917; a chofrestr aelodau Cymdeithas Ddirwestol y Capel, 1897-1928.

Eglwys Abergeirw (Llanfachreth, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Seion, Gyrn Goch

  • GB 0210 GYROCH
  • fonds
  • 1923-2000

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau Capel Seion, Gyrn Goch, Dosbarth Clynnog, Henaduriaeth Arfon, sef pedwar llyfr cyfrifon, 1923-2000.

Capel Seion (Gyrn Goch, Wales)

Papurau Owen Owens, Trawsfynydd,

  • GB 0210 OWENOWENS
  • fonds
  • 1864-1925 /

Llyfrau nodiadau Owen Owens, 1864-1925, yn cynnwys nodiadau pregethau a glywodd yn Nhrawsfynydd, Bala a Llangywer, sir Feirionnydd, ac mewn mannau eraill, 1864-1916, ynghyd â chofnodion Capel Moriah (MC) ac ysgolion ardal Trawsfynydd, yn enwedig Ysgoldy Caeadda,1896-1925, a dyddiadur, 1894. = Notebooks, 1864-1925, of Owen Owens, containing notes on sermons heard by him in Trawsfynydd, Bala and Llangywer, Merionethshire, and elsewhere, 1864-1916, together with records of Moriah Chapel (MC), and schools in the Trawsfynydd area, particularly Ysgoldy Caeadda, 1896-1925, and a diary, 1894.

Owens, Owen, (of Trawsfynydd)

Papurau Pwyllgor Cymanfa Ganu Dyffryn Afan,

  • GB 0210 PWYLLAFAN
  • fonds
  • 1938-1988 /

Papurau,1938-1988, yn cynnwys cofnodion, gohebiaeth, adroddiadau a phapurau eraill yn ymwneud â Chymanfa Ganu Annibynwyr Dyffryn Afan, 1938-1988. = Papers, 1938-1988, including minutes, correspondence, reports and other papers relating to the Independent Singing Festival of Dyffryn Afan, 1938-1988.

Pwyllgor Cymanfa Ganu Dyffryn Afan.

Papurau David Davies (Ffatri Emlyn, Adpar),

  • GB 0210 FFATEM
  • fonds
  • 1871-1982.

Mae'r casgliad yn cynnwys papurau'n ymwneud â theulu a disgynyddion David Davies, 1871-1982; llyfr nodiadau yn cynwys barn Davies ar bregethau a glywodd, 1930-1933; ffeil o farddoniaeth a phenillion; llyfr cyfrifon Ffatri Emlyn, 1903-1930; a deunydd amrywiol. = The collection comprises papers relating to the family and descendants of David Davies, 1871-1982; a notebook containing Davies's opinions on sermons which he has heard, 1930-1933; a file of poetry and verses; an account book, 1903-1930, of Ffatri Emlyn; and miscellanea.

Davies, David, 1871-1947.

Papurau Cymdeithas Hanes Annibynwyr Cymru,

  • GB 0210 CHAC
  • fonds
  • 1972-1985 /

Papurau yn cynnwys rhestri aelodaeth a ffurflenni, 1977-1985; cofnodion ariannol, 1977-1984; cofnodion pwyllgorau a phapurau eraill,1982; gohebiaeth gyffredinol yn ymwneud â'r Gymdeithas a chyhoeddi Y Cofiadur, 1975-1985; mynegai i Y Cofiadur (1923-1980), [c. 1980]; deunydd i'w gyhoeddi yn Y Cofiadur, [c.1980]; a thorion o Y Tyst, 1972-1984, yn bennaf ynglŷn â Chronfa'r Cofiadur = Papers including membership lists and forms, 1977-1985; financial records, 1977-1984; committee minutes and other papers, 1982; general correspondence relating to the Society and to publication of Y Cofiadur, 1975-1985; an index to Y Cofiadur (1923-1980), [c. 1980]; material for publication in Y Cofiadur, [c.1980]; and cuttings from Y Tyst, 1972-1984, mainly concerning `Cronfa'r Cofiadur'.

Cymdeithas Hanes Annibynwyr Cymru.

Papurau Evan Wyn Williams,

  • GB 0210 EVAIAMS
  • fonds
  • 1966-1969 /

Papurau y Parch. Evan Wyn Williams, 1966-1969, yn cynnwys papurau'n ymwneud â thrychineb Aberfan, 1966-1968; a phapurau'n ymwneud â chanmlwyddiant Capel Coffa (1869-1969) Edward Jones ym Mathafarn = Papers of Rev. Evan Wyn Williams, 1966-1969, comprising papers relating to the Aberfan disaster, 1966-1968; and papers relating to the centenary of Capel Coffa (1869-1969) commemorating Edward Jones at Bathafarn.

Williams, Evan Wyn, d. 1988

Papurau John Roberts (Llandrillo),

  • GB 0210 JOHRTS
  • fonds
  • 1878-1915 /

Papurau, 1878-1915, John Roberts yn ymwneud â hanes ardal Llandrillo, yn cynnwys cofnod o ddigwyddiadau yn Llandrillo, 1878-1899; llyfrau nodiadau ar hanes Methodistiaeth Galfinaidd yn Llandrillo, [c. 1899]; traethodau, [1890au]-1909; a nodiadau achyddol ac arall yn ymwneud â chwmwd Edeirnion ac ardal Llandrillo, [1878]-[1915]. = Papers, 1878-1915, of John Roberts relating to the history of the Llandrillo district, including a record of events in Llandrillo, 1878-1899; notebooks on the history of Calvinist Methodism in Llandrillo, [c. 1899]; essays, [1890s]-1909; and genealogical and other notes relating to the commote of Edeirnion and the Llandrillo area, [1878]-[1915].

Roberts, John, (of Llandrillo-yn-Edeirnion)

CMA: Cofysgrifau Capel Gibea, Cwmgwili

  • GB 0210 GIBCWM
  • fonds
  • 1911-1992

Cofrestr bedyddiadau, 1911-1960, a chyfrol o gofnodion, 1915-1992, Capel Gibea, Cwmgwili.

Cofysgrifau yn perthyn i Eglwys Gibea (MC), Cwmgwili, 1897-1977, yn cynnwys taflen cyfarfod dathlu hanner canmlynedd; llyfrau aelodaeth; llyfrau casgliad tuag at y Weinidogaeth; derbyniadau a thaliadau; cofrestr y Gymdeithas Ddirwestol; llyfrau cyfraniadau at wahanol gasgliadau'r eglwys; llyfr taliadau; llyfrau'r Ysgol Sul; ac ystadegau'r eglwys. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto.

Cofysgrifau ychwanegol Capel Gibea, Cwmgwili, sef llyfr cyfrifon, 1958-1976.

Capel Gibea (Cwmgwili, Wales)

Results 101 to 120 of 255