Showing 5987 results

Archival description
Ffeil / File
Advanced search options
Print preview View:

Llyfr lloffion 1

Llyfr lloffion Aelwyd Caernarfon rhwng 1944 a 1956 yn cynnwys torriadau papur newydd, tystysgrifau a lluniau o weithgarwch amrywiol yr Aelwyd.

Llyfr lloffion 2

Llyfr lloffion Aelwyd Caernarfon rhwng 1951 a 1955 yn cynnwys torriadau papur newydd, tystysgrifau a lluniau o weithgarwch amrywiol yr Aelwyd.

Llyfr lloffion 3

Llyfr lloffion Aelwyd Caernarfon rhwng 1960 a 1969 yn cynnwys torriadau papur newydd, tystysgrifau a lluniau o weithgarwch amrywiol yr Aelwyd.

Llyfrau

Llungopïau o dudalennau cyfrolau sy'n cynnwys hanes brwydr Llangyndeyrn, sef Stori Cymru: Hanesion a Baledi gan Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2014); Yr Argae Haearn gan Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2016, ynghyd â llungopi o erthygl berthnasol yn y cylchgrawn Golwg); a Brwydrau dros Gymru gan Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2017). = Photocopied pages from books which include the history of Llangyndeyrn's battle for victory, the titles comprising: Stori Cymru: Hanesion a Baledi by Myrddin ap Dafydd (Carreg Gwalch Press, 2014); Yr Argae Haearn by Myrddin ap Dafydd (Carreg Gwalch Press, 2016, together with a photocopy of a related article from the periodical Golwg); and Brwydrau dros Gymru by Myrddin ap Dafydd (Carreg Gwalch Press, 2017).

Llyfrau nodiadau

Llyfrau nodiadau Menna Elfyn, yn cynnwys drafftiau o gerddi, cyfieithiadau o gerddi a rhyddiaith yng Nghymraeg a Saesneg, gan gynnwys cyfieithiadau o 'Y Tangnefeddwyr' a 'Yr Heniaith' gan Waldo Williams a dechreuad yr hyn a ymddengys fel nofel Menna Elfyn i bobl ifanc Madfall ar y Mur (Gwasg Gomer, 1993).

Llythyr at Mary Silyn Roberts oddi wrth D. Williams = Letter to Mary Silyn Roberts from D. Williams.

Llythyr, 13 Awst 1956, at Mary Silyn Roberts oddi wrth D. Williams, Earlestown, Swydd Gaerhirfryn, yn cyfeirio at feibl a brynwyd gan Mary Silyn Roberts. Mewn arnodiad ar frig y llythyr, mae Mary yn nodi iddi brynu'r beibl iddi hi'i hun gan ei bod eisio rhoi un ei gŵr Silyn i'w mab Glynn ar ei benblwydd yn hanner cant. = Letter, 13 August 1956, to Mary Silyn Roberts from D. Williams, Earlestown, Lancashire, referring to a bible bought by Mary Silyn Roberts. In an annotation at the top of the letter, Mary states that she bought the bible for herself as she wished to give her husband Silyn's bible to their son Glynn on his fiftieth birthday.

Llythyr at Mary Silyn Roberts oddi wrth M. Samuel = Letter to Mary Silyn Roberts from M. Samuel

Llythyr, 6 Ionawr 1911, at Mary Silyn Roberts oddi wrth M. Samuel, Dulacca, Queensland, Awstralia, yn sôn am ei thaith i Awstralia ac am ei bywyd a'i gwaith yno wedi iddi gyrraedd; cyfeiriad hefyd at fethu cael hyd i Evan, brawd Mary Silyn Roberts, a oedd yn feddyg yn Brisbane ac a fu farw'n naw ar hugain oed. = Letter, 6 January 1911, to Mary Silyn Roberts from M. Samuel, Dulacca, Queensland, Australia, referring to her voyage to Australia and to her life and work on arrival there; also a reference to failing to meet up with Evan, brother of Mary Silyn Roberts, who was a doctor in Brisbane and who died aged twenty-nine.

Llythyr at Mary Silyn Roberts oddi wrth Maggie Jones (Meiriona) = Letter to Mary Silyn Roberts from Maggie Jones (Meiriona)

Llythyr, 26 Mai 1935, at Mary Silyn Roberts oddi wrth Maggie Jones (Meiriona), cydlynydd Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg cyd-rwng Cymry oedd wedi ymfudo dramor â'u mamwlad, ynghylch cysylltiadau Cymreig yn Seland Newydd a Natal. Arnodwyd y llythyr yn llaw Mary Silyn Roberts. = Letter, 26 May 1935, to Mary Silyn Roberts from Maggie Jones (Meiriona), National Union of Welsh Societies co-ordinator between those of the Welsh population who had emigrated overseas and their motherland, relating to Welsh connections in New Zealand and Natal. Letter annotated in the hand of Mary Silyn Roberts.

Llythyr at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth Evan Parry = Letter to Robert (Silyn) Roberts from Evan Parry

Llythyr, 12 Ebrill 1908, at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth Evan, brawd Mary Silyn Roberts, Eardley Crescent, Llundain, yn cynghori Mary i symud i leoliad mwy iachus cyn geni ei phlentyn disgwyliedig oherwydd problemau efo'r draeniau yng nghartref Silyn a Mary; ceir cyfeiriadau hefyd at ei waith meddygol Evan Parry yn Llundain, a'i gynlluniau i ymfudo i Awstralia. = Letter, 12 April 1908, to Robert (Silyn) Roberts from Evan, brother of Mary Silyn Roberts, Eardley Crescent, London, advising Mary, due to problems with the drains at Silyn and Mary's home, to relocate to a healthier environment prior to the birth of her expected child; references also to Evan Parry's medical work in London and his plans to emigrate to Australia.

Llythyr at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth Jane Parry = Letter to Robert (Silyn) Roberts from Jane Parry

Llythyr, 3 Ebrill 1906, at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth Jane Parry, mam Mary Silyn Roberts, Eardley Crescent, Llundain ar achlysur geni Glynn, mab Silyn a Mary Silyn Roberts. Arnodwyd yn llaw Mary Silyn Roberts: 'for Glynn' a 'ar ol [sic] geni Glynn ap Silyn'. = Letter, 3 April 1906, to Robert (Silyn) Roberts from Jane Parry, Eardley Crescent, London, mother of Mary Silyn Roberts, on the occasion of the birth of Glynn, son of Silyn and Mary Silyn Roberts. Annotated in Mary Silyn Roberts' hand: 'for Glynn' and 'ar ol [sic] geni Glynn ap Silyn' [after the birth of Glynn ap [son of] Silyn].

Llythyr at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth [?M. F.] Griffiths = Letter to Robert (Silyn) Roberts from [?M. F.] Griffiths

Llythyr, 9 Medi 1908, at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth [?M. F] Griffiths, Highbury, Llundain, yn trafod cyfarfod yn Llundain, gyda chyfeiriadau hefyd at ddannodd Silyn, at enedigaeth ail blentyn Silyn a Mary Silyn Roberts ac at ethol Silyn yn un o feirniaid Eisteddfod Genedlaethol Llundain 1909. = Letter, 9 September 1908, to Robert (Silyn) Roberts from [?M. F.] Griffiths, Highbury, London, with arrangements to meet in London; references also to Silyn's toothache, to the birth of his and Mary's second child, and to Silyn's election as one of the adjudicators at the National Eisteddfod held in London in 1909.

Llythyr at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth R. K. Mirchandani = Letter to Robert (Silyn) Roberts from R. K. Mirchandani

Llythyr, 21 Awst 1930, at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth R. K. Mirchandani, Sydenham Hill, Llundain, yn gobeithio clywed argraffiadau Silyn o'i daith ddiweddar i Rwsia. Mae'n amlwg nad yw'r gohebydd yn ymwybodol o farwolaeth Silyn ar 15 Awst 1930. Arnodir y llythyr gan Mary Silyn Roberts. = Letter, 21 August 1930, to Robert (Silyn) Roberts from R. K. Mirchandani, Sydenham Hill, London, hoping to hear Silyn's impressions of his recent visit to Russia. The correspondent is apparently unaware that Silyn had died on 15 August 1930. Letter annotated by Mary Silyn Roberts.

Llythyr oddi wrth R. Williams Parry at Y Dinesydd Cymreig = Letter from R. Williams Parry to Y Dinesydd Cymreig

Llythyr printiedig, 14 Rhagfyr 1927, ynghylch Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a anfonwyd gan y bardd a'r darlithydd prifysgol R. Williams Parry i'r newyddlen Y Dinesydd Cymreig. = Printed letter, 14 December 1927, regarding the Workers' Educational Association sent by poet and university lecturer R. Williams Parry to the newspaper Y Dinesydd Cymreig.

Llythyrau at John Meirion Morris = Letters to John Meirion Morris

Llythyrau at John Meirion Morris gan amrywiol ohebwyr, yn cynnwys sefydliadau megis Cywaith Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, Cyngor y Celfyddydau, Wales Arts International, Gwasg Gomer a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a gohebwyr unigol megis y bardd a'r llenor Nesta Wyn Jones; yr arlunydd Cymreig Aneurin Jones; yr Athro Karî'kachä Seid'ou o Adran Gelfyddyd Gain Prifysgol Kwame Nkrumah, Kumasi, Ghana, lle bu John Meirion Morris yn darlithio o 1966 hyd 1968 (gweler nodyn ym mhrif weithlen yr archif), ynghyd â llythyrau mewn ymateb at yr Athro Karî'kachä Seid'ou oddi wrth John Meirion Morris (gweler hefyd lythyrau oddi wrth ddau gyd-ddarlithydd i John Meirion Morris ym Mhrifysgol Kumasi, sef Graham Wilton a Terry Ingersoll); yr offeiriad, dramodydd, bardd a llenor Aled Jones-Williams; y Prifardd Myrddin ap Dafydd, yn amgáu englynion coffa i'r cyfansoddwr Gareth Mitford Williams (1950-1982) (am Gareth Mitford Williams, gweler, er enghraifft, NLW Facs 441/2 yng nghasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru); yr arlunydd Iwan Bala; y cerflunydd a'r hanesydd celf Peter Lord; yr awdur T. Llew Jones; yr arlunydd Kyffin Williams (yn llongyfarch John Meirion Morris ar gael ei ethol i'r Academi Frenhinol Gymreig); yr academydd a'r bardd yr Athro Gwyn Thomas, Coleg Prifysgol Cymru Bangor; Rowan Williams, Archesgob Caergaint; y bardd Dafydd Islwyn; a'r caligraffydd a'r cerflunydd Ieuan Rees (yn amgáu cynllun ar gyfer cerfio enw tŷ John Meirion Morris). Anfonwyd nifer dda o'r llythyrau mewn ymateb i weld gwaith celf John Meirion Morris. Eitemau diddorol yw'r nodyn, 1 Mawrth 1989, oddi wrth Coleg Prifysgol Cymru Caerdydd yn hysbysu John Meirion Morris am ei lwyddiant yn ei radd M.Phil., a'r llythyr, 19 Gorffennaf 1976, oddi wrth Goronwy Daniel, Prifathro Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn annog John Meirion Morris i beidio cwtogi ei oriau darlithio.
= Letters to John Meirion Morris from various correspondents, including institutions such as Cywaith Cymru, the National Museum of Wales, University College of Wales Aberystwyth, the Arts Council, Wales Arts International, the Gomer Press and the National Library of Wales, and individual correspondents such as the poet and writer Nesta Wyn Jones; the Welsh artist Aneurin Jones; Professor Karî'kachä Seid'ou of the Fine Arts Department of Kwame Nkrumah University, Kumasi, Ghana, where John Meirion Morris lectured from 1966 to 1968 (see note in main section of archive), together with letters of response from John Meirion Morris to Professor Karî'kachä Seid'ou (see also letters from two of John Meirion Morris' lecturer colleagues at Kumasi University, namely Graham Wilton and Terry Ingersoll); the priest, dramatist, poet and writer Aled Jones-Williams; the chaired bard Myrddin ap Dafydd, enclosing englynion (strict-metre verses) in memoriam to the composer Gareth Mitford Williams (1950-1982) (for Gareth Mitford Williams, see, for example, NLW Facs 441/2 in the National Library of Wales' collections); the artist Iwan Bala; the sculptor and art historian Peter Lord; the author T. Llew Jones; the artist Kyffin Williams (congratulating John Meirion Morris on being elected to the Welsh Royal Academy); the academic and poet Professor Gwyn Thomas, University College of Wales Bangor; Rowan Williams, Archbishop of Canterbury; the poet Dafydd Islwyn; and the calligrapher and sculptor Ieuan Rees (enclosing a draft plan for engraving John Meirion Morris' house name). A considerable number of the letters were sent in response to viewing John Meirion Morris' work. Items of interest include a note, 1 March 1989, from the University College of Wales Cardiff notifying John Meirion Morris of his successful achievement of an M. Phil. degree, and a letter, 19 July 1976, from Goronwy Daniel, Principal of University College of Wales Aberystwyth, urging John Meirion Morris not to seek to curtail his weekly lecturing hours.

Results 2001 to 2020 of 5987