Showing 59614 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Welsh
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

Detholiad o adroddiadau Cymreig

  • NLW MS 24148E.
  • File
  • [1863]

Llawysgrif yn dwyn y teitl 'Detholiad o adroddiadau (recitations) Cymreig mewn rhyddiaith a barddoniaeth, dwys a llon. Testun yr Eisteddfod Genhedlaethol 1863' yn cynnwys englynion (tt. 1-7), awdlau a chywyddau (tt. 7-15), caneuon a phryddestau (tt. 15-21), canu caeth a chanu rhydd (tt. 21-48) a rhyddiaith (tt. 49-72). Mae'r awdur yn anhysbys. = A manuscript entitled 'Detholiad o adroddiadau (recitations) Cymreig mewn rhyddiaith a barddoniaeth, dwys a llon. Testun yr Eisteddfod Genhedlaethol 1863' ['Selection of Welsh Recitations in Prose and Poetry, Grave and Gay. Subject for the National Eisteddfod 1863'], containing transcripts of englynion (pp. 1-7), odes and cywyddau (pp. 7-15), songs and pryddestau (pp. 15-21), verse in strict and free metres (pp. 21-48) and prose (pp. 49-72). The author is unknown.
Ymysg y beirdd a gynrhychiolir mae [William Williams] (Caledfryn) (tt. 1, 34, 41-42, 44-48), [William Rees] (Gwilym Hiraethog) (tt. 1, 8-9, 37, 40-44), [Richard Foulkes Edwards] (R[hisiart] Ddu o Wynedd) (tt. 2, 3), [Evan Jones] (Ieuan Gwynedd) (tt. 3, 38), [Thomas Essile Davies] (D[ewi] W[yn] o Essyllt) (tt. 3-4, 7-8, 17-18), [David Owen] (D[ewi] Wyn o Eifion) (tt. 4, 9), [Robert Ellis] (Cynddelw) (tt. 9-10, 23-24), [William Ellis Jones] (Cawrdaf) (tt. 10-11, 33-34), [John] Ceiriog [Hughes] (tt. 19-20, 25, 29-31, 47), [John Jones] (Tegid) (tt. 24, 31), [Robert Parry] (Robyn Ddu o Eryri) (tt. 36, 45-46) a [David Thomas] (D[afydd] Ddu o Eryri) (tt. 36-39, 42, 44). Ymysg y darnau rhyddaith mae yna dri darn gan J[ohn] Roberts [J.R.] (tt. 49-56, 60-64, 66-69). Roedd y testun yn rhif 4 yn adran Rhyddiaith Eisteddfod Genedlaethol 1863; yn y pen draw rhannwyd y wobr rhwng J. D. Jones, Rhuthun, Rhydderch o Fôn a Gwilym Teilo. = Amongst the poets represented are [William Williams] (Caledfryn) (pp. 1, 34, 41-42, 44-48), [William Rees] (Gwilym Hiraethog) (pp. 1, 8-9, 37, 40-44), [Richard Foulkes Edwards] R[hisiart] Ddu o Wynedd (pp. 2, 3), [Evan Jones] (Ieuan Gwynedd) (pp. 3, 38), [Thomas Essile Davies] (D[ewi] W[yn] o Essyllt) (pp. 3-4, 7-8, 17-18), [David Owen] (D[ewi] Wyn o Eifion) (pp. 4, 9), [Robert Ellis] (Cynddelw) (pp. 9-10, 23-24), [William Ellis Jones] (Cawrdaf) (pp. 10-11, 33-34), [John] Ceiriog [Hughes] (pp. 19-20, 25, 29-31, 47), [John Jones] (Tegid) (pp. 24, 31), [Robert Parry] (Robyn Ddu o Eryri) (pp. 36, 45-46) and [David Thomas] (D[afydd] Ddu o Eryri) (pp. 36-39, 42, 44). The prose pieces include three items by J[ohn] Roberts [J.R.] (pp. 49-56, 60-64, 66-69). The subject was No. 4 in the Prose section of the 1863 National Eisteddfod; the prize was ultimately shared between J. D. Jones, Ruthin, Rhydderch o Fôn and Gwilym Teilo.

Caledfryn, 1801-1869

Album y Bont

  • NLW MS 24131C.
  • File
  • 1840-1891, 1901 (crynhowyd 1872-1901)

Albwm llofnodion, 1872-1878, 1901, a fu'n eiddo i Sarah Williams, Bont Dolgadfan, Llanbrynmair, sir Drefaldwyn, yn cynnwys enghreifftiau o farddoniaeth, emynau a rhyddiaith Cymraeg a Saesneg yn nwylo tua 123 o weinidogion, beirdd ac unigolion eraill a oeddynt yn adnabod ei thad, William Williams (Gwilym Cyfeiliog). Ceir yn y gyfrol yn ogystal dau ddeg pedwar o lythyrau, 1840-1891, 1901, y rhan fwyaf at Gwilym Cyfeiliog neu ei blant, a phedwar eitem arall, i gyd wedi'i tipio i mewn. = Autograph album, 1872-1878, 1901, of Sarah Williams of Bont Dolgadfan, Llanbrynmair, Montgomeryshire, containing examples of poetry, hymns and prose in Welsh and English in the hands of some 123 Nonconformist ministers, poets and other individuals, mostly acquainted with her father William Williams (Gwilym Cyfeiliog). Also included are twenty-four letters, 1840-1891, 1901, mostly addressed to Gwilym Cyfeiliog or his children, and another four items, all tipped into the volume.
Ymysg y cyfranwyr mae Mynyddog (f. 32), [William Rees] (G[wilym] Hiraethog) (f. 53 verso), [Richard Roberts] (Gruffydd Risiart) (f. 66 verso) a Ieuan Gwyllt (f. 74). Ceir llythyrau gan W[illiam] Rowlands (Gwilym Leyn), [18]64 (f. 3), S[amuel] R[oberts], 1876 (ff. 10-11), [y Parch.] Richard [Williams], [ewythr Sarah Williams], [18]42 (f. 14), John Evans (I. D. Ffraid), 1870 (f. 18), [y Parch.] Henry Rees, [18]59 (f. 21), J. R. Kilsby Jones, Tachwedd-[Rhagfyr] 1866 (ff. 23-24, 28 verso-29 (copi)), J[oseph] Parry, 1870 (f. 26), E[dward] Stephen (Tanymarian) (f. 31), [y Parch.] John Elias, 1840 (f. 41), James Sauvage, 1882 (ff. 45-46), Fre[deri]ck Hanbury Tracy [AS], 1878 (f. 50), Mary Davies, [18]83 (f. 61), Cranogwen, 1867 (f. 65 recto-verso), ac eraill. Hefyd yn y gyfrol mae copi o'r emyn pedair pennill, yn cychwyn 'Er mai hollol groes i nattur…', o waith Ann Griffiths, yn llaw y Parch. John Hughes Pontrobert, [?1840au] (ff. 56 recto-verso; gw., er enghraifft, Gwaith Ann Griffiths, [gol. gan O. M. Edwards] (Llanuwchllyn, 1905), tt. 30-31), ar gefn byr-gofiant Thomas Meredith, Llanbrynmair, gan 'WH' [?William Howell] (ff. 56 verso-57; gw. hefyd f. 52). = The contributors include Mynyddog (f. 32), [William Rees] (G[wilym] Hiraethog) (f. 53 verso), [Richard Roberts] (Gruffydd Risiart) (f. 66 verso) and Ieuan Gwyllt (f. 74). There are letters from W[illiam] Rowlands (Gwilym Leyn), [18]64 (f. 3), S[amuel] R[oberts], 1876 (ff. 10-11), [the Rev.] Richard [Williams], [Sarah Williams's uncle], [18]42 (f. 14), John Evans (I. D. Ffraid), 1870 (f. 18), [the Rev.] Henry Rees, [18]59 (f. 21), J. R. Kilsby Jones, November-[December] 1866 (ff. 23-24, 28 verso-29 (copy)), J[oseph] Parry, 1870 (f. 26), E[dward] Stephen (Tanymarian) (f. 31), [the Rev.] John Elias, 1840 (f. 41), James Sauvage, 1882 (ff. 45-46), Fre[deri]ck Hanbury Tracy [MP], 1878 (f. 50), Mary Davies, [18]83 (f. 61), Cranogwen, 1867 (f. 65 recto-verso), among others. Also inserted into the volume is a copy of the hymn of four stanzas beginning 'Er mai hollol groes i nattur…' by Ann Griffiths in the hand of the Rev. John Hughes, Pontrobert, [?1840s] (f. 56 recto-verso; see, for instance, Gwaith Ann Griffiths, [ed. by O. M. Edwards] (Llanuwchllyn, 1905), pp. 30-31), written on the reverse of a brief memoir of Thomas Meredith, Llanbrynmair, by 'WH' [?William Howell] (ff. 56 verso-57; see also f. 52).

Williams, Sarah, 1859-1920

Dyddiadur Evan Isaac Thomas, Llandysul

  • NLW MS 24130A.
  • File
  • 1876-1885

Dyddiadur Evan Isaac Thomas, Llandysul, sir Aberteifi, ar gyfer 1 Ionawr 1876-31 Rhagfyr 1885, yn cynnwys cofnodion byr (dwy dudalen y mis) yn bennaf ynglŷn â'i waith fel saer dodrefn, trefnydd angladdau a ffermwr, ei ddyletswyddau fel ysgrifennydd a thrysorydd y Llandyssul Benefit Society a'i aelodaeth o Gapel y Bedyddwyr Penybont, [Pont Tyweli]. = Diary of Evan Isaac Thomas, Llandysul, Cardiganshire, for 1 January 1876-31 December 1885, containing brief entries (two pages per month) mainly relating to his work as cabinet maker, undertaker and farmer, his duties as secretary and treasurer of the Llandyssul Benefit Society and his membership of Penybont Baptist Chapel, [Pont Tyweli].

Thomas, Evan Isaac, 1823-1908

Pregethau'r Parch. Edmund Leigh

  • NLW MS 24124C.
  • File
  • 1773-[c. 1810]

Copi o gyfrol Peter Williams, Mynegeir Ysgrythurol; neu, Ddangoseg Egwyddorol o'r Holl Ymadroddion yn yr Hen Destament a'r Newydd (Caerfyrddin, 1773, ESTC T116289, Libri Walliae 5397), gyda nodiadau pregeth byr, yn Saesneg, yn llaw [y Parch.] Edmund Leigh, Llanedi, ar y dail rhwymo, [18 gan., ¼ olaf]-[c. 1810] (ff. 2 recto-verso, 4, 5), yn ogystal ac emyn Gymraeg tri phennill, yn cychwyn 'Fy lle pan welwy draw', wedi ei lofnodi gan Leigh a'i ddyddio 'Llannedy July the 2nd 1793' (f. 5 verso). = A copy of Peter Williams, Mynegeir Ysgrythurol; neu, Ddangoseg Egwyddorol o'r Holl Ymadroddion yn yr Hen Destament a'r Newydd (Carmarthen, 1773, ESTC T116289, Libri Walliae 5397), containing brief sermon notes, in English, in the hand of [the Rev.] Edmund Leigh, Llanedi, on the fly-leaves, [late 18 cent.]-[c. 1810] (ff. 2 recto-verso, 4, 5), together with a three verse Welsh hymn, beginning 'Fy lle pan welwy draw', signed by Leigh and dated 'Llannedy July the 2nd 1793' (f. 5 verso).
Mae'r nodiadau yn bennaf ar y testun pechod, gan gyfeirio at Job 42.5-6 (f. 2) a Genesis 42.36 a 45.8 (f. 4). Cyhoeddwyd yr emyn yn Diferion y Cyssegr: Sef Crynodeb o Hymnau a Chaniadau Ysbrydol o Waith Amrywiol Awdwyr (Caerlleon, 1802) (emyn rhif 115) ac yn Casgliad o Hymnau … at Wasanaeth y Methodistiaid Wesleyaidd (1845) (emyn 635, gyda'r teitl 'Ofnau'n ffoi') ond ni enwir yr emynydd yn y nail na’r llall. Ceir ambell i fân gywiriad ac ymylnod, mewn inc a phensil, i'r testun printiedig (ff. 9 verso, 23, 30, 60, 71, 92 verso, 119 verso, 132, 147, 179, 201 verso). = The notes are mainly on the subject of sin, with reference to Job 42.5-6 (f. 2) and Genesis 42.36 and 45.8 (f. 4). The hymn was collected in Diferion y Cyssegr: Sef Crynodeb o Hymnau a Chaniadau Ysbrydol o Waith Amrywiol Awdwyr (Caerlleon [i.e. Chester], 1802) (hymn No. 115) and in Casgliad o Hymnau … at Wasanaeth y Methodistiaid Wesleyaidd (1845) (hymn No. 635, entitled 'Ofnau'n ffoi'), in neither of which is the hymn-writer named. There are a few minor corrections and marginal annotations, in ink and pencil, to the printed text (ff. 9 verso, 23, 30, 60, 71, 92 verso, 119 verso, 132, 147, 179, 201 verso).

Leigh, Edmund, 1736-1819

Barddoniaeth

  • NLW MS 24092A.
  • File
  • 1778-[18 gan., hwyr]

Copi o Jonathan Hughes, Bardd, a Byrddau Amryw, Seigiau; neu, Gasgliad o Gynghanedd sef Carolau a Cherddi a Chywyddau (Amwythig: Stafford Prys, 1778; ESTC T140501, Libri Walliae 2526), gyda cherddi wedi eu hychwanegu mewn llawysgrif tu mewn i'r clawr blaen ac ar y dail rhwymo (tt. i-vi, 376-382), yn bennaf yn llaw William Samuel, [18 gan., hwyr]. = A copy of Jonathan Hughes, Bardd, a Byrddau Amryw, Seigiau; neu, Gasgliad o Gynghanedd sef Carolau a Cherddi a Chywyddau (Shrewsbury: Stafford Prys, 1778; ESTC T140501, Libri Walliae 2526), with Welsh poetry added in manuscript inside the front cover and on the fly-leaves (pp. i-vi, 376-382), mostly in the hand of William Samuel, [late 18 cent.].
Ymysg y tair cerdd ar ddeg a ychwanegwyd, mae dwy bennill gan William Samuel (tt. v, vi), ['Cerdd y Pren Almon'] gan Owen Griffith, [Llanystumdwy] (tt. 376-381), englyn gan Rhys Jones o'r Blaenau (t. 381) a phennill cyntaf cerdd [gan Dafydd Williams] (t. 382). Ceir mân gywiriadau ac arnodiadau ar tt. 5, 27, 111, 150, 182, 184, 202, 286, 358, 360, 367 a 369. Mae toriad papur newydd, 17 Ebrill 1928, ynglŷn â Jonathan Hughes wedi ei phastio i mewn ar. t. viii. = Amongst the thirteen additional poems are two verses by William Samuel (pp. v. vi), ['Cerdd y Pren Almon'] by Owen Griffith, [Llanystumdwy] (pp. 376-381), an englyn by Rhys Jones, Blaenau (t. 381) and the first verso only of a poem [by Dafydd Williams] (t. 382). There are minor corrections and annotations on pp. 5, 27, 111, 150, 182, 184, 202, 286, 358, 360, 367 and 369. A newspaper cutting, 17 April 1928, relating to Jonathan Hughes is pasted in on p. viii.

Samuel, William, 1749 or 1750-

Nodiadau T. E. Ellis ar Morgan Llwyd

  • NLW MS 24073B
  • File
  • 1893, [c. 1897]

Copi personol Thomas [Edward] Ellis, wedi ei ryngddalennu, o Morgan Llwyd, Llyfr y Tri Aderyn (Lerpwl: Isaac Foulkes, 1893), yn cynnwys nodiadau ac arnodiadau helaeth, yn Saesneg a Chymraeg, yn llaw Ellis, [c. 1897]. Ellis oedd golygydd cyfrol gyntaf Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd (Bangor, 1899), lle'r atgynhyrchwyd testun argraffiad cyntaf Llyfr y Tri Aderyn (1653) (tt. 151-266). = Thomas [Edward] Ellis's personal interleaved copy of Morgan Llwyd, Llyfr y Tri Aderyn (Liverpool: Isaac Foulkes, 1893), containing copious notes and annotations, [c. 1897], by Ellis in English and Welsh. Ellis was the editor of the first volume of Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd (Bangor, 1899), in which was reproduced the text of the first edition of Llyfr y Tri Aderyn (1653) (pp. 151-266).
Mae'r gyfrol yn cynnwys mân arnodiadau ar y testun gwreiddiol gyda nodiadau ychwanegol ar y rhyngddalennau (ff. 28 verso-141 verso passim). Ceir nodiadau a dyfyniadau mwy sylweddol, ar bynciau megis y Rhyfel Cartref a'r Werinlywodraeth, Oliver Cromwell, John Milton, diwinyddiaeth Gatholig, y Bumed Frenhiniaeth a'r Piwritaniaid Cymreig, ar y dalennau ychwanegol ar gychwyn a diwedd y gyfrol (ff. 1 verso-15, 25 verso-26, 145-150), gan ddyfynnu amrywiaeth o ffynonellau. = The volume contains minor annotations to the original text with further notes supplied on the interleaves (ff. 28 verso-141 verso passim). More substantial notes and quotations, on subjects including the Civil War and Commonwealth, Oliver Cromwell, John Milton, Catholic theology, the Fifth Monarchy and the Welsh Puritans, have been written on the additional leaves at the beginning and end of the volume (ff. 1 verso-15, 25 verso-26, 145-150), quoting various sources.

Ellis, Thomas Edward, 1859-1899

Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym

  • NLW MS 24070C
  • File
  • 1863

Adysgrif, 1863, yn bennaf yn llaw D[aniel] L[ewis] Moses, gynt o Lanbedr Pont Steffan, o'r gyfrol Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym, gol. gan Owen Jones a William Owen (Llundain, 1789). = Transcript, 1863, mainly in the hand of D[aniel] L[ewis] Moses, formerly of Lampeter, of the volume Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym, ed. by Owen Jones and William Owen (London, 1789).
Mae'r llawysgrif yn cynnwys y cyfan o gerddi Dafydd ap Gwilym yn y gyfrol, heblaw am ambell i fwlch, damweiniol mae'n debyg, ar tt. 67, 354 a 423 ac eraill o bosib (tt. 1-210, 249-492). Mae hefyd yn cynnwys cerddi ffug Iolo Morganwg o'r atodiad (tt. 211-243); crynodeb, yng Nghymraeg, o hanes Dafydd (yn Saesneg) gan Owen Jones (ff. vi-xii); y marwnadau i Dafydd (ff. xii verso-xv verso); a chychwyn (Abermaw-Gwdion ab Don) yr eirfa Saesneg o bobol a llefydd yn y cerddi (tt. 493-502). Heblaw am Moses, ysgrifennwyd y llawysgrif mewn dwy law ychwanegol (tt. 249-279 a 297-328 yn eu tro). = The manuscript contains all the Dafydd ap Gwilym poems, except for a few apparently unintentional lacunae on pp. 67, 354 and 423 and possibly elsewhere (pp. 1-210, 249-492). It also includes Iolo Morganwg’s forgeries from the appendix (pp. 211-243); a precis, in Welsh, of Owen Jones's (English) biography of Dafydd (ff. vi-xii); the elegies to Dafydd (ff. xii verso-xv verso); and the beginning (Abermaw-Gwdion ab Don) of the English glossary of people and places mentioned in the poems (pp. 493-502). Besides Moses, parts of the manuscript are written in two additional hands (pp. 249-279 and 297-328 respectively).

Moses, D. L. (Daniel Lewis), 1822-1893

Pregethau Griffith Jones, Llanddowror

  • NLW MS 24057B
  • File
  • 1760

Y gyfrol gyntaf mewn cyfres o chwech yn cynnwys adysgrifau o bregethau ar y Testament Newydd gan y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, wedi eu copïo yn nhrefn y Beibl. Mae'r gyfrol hon yn cynnwys pregethau ar Efengyl Mathew ac fe'i cwblhawyd ar 5 Tachwedd 1760 (t. 1244). = The first volume in a series of six containing transcripts of sermons on the New Testament by the Rev. Griffith Jones of Llanddowror, transcribed in Bible order. This volume contains sermons on the Gospel of St Matthew and was completed on 5 November 1760 (p. 1244).
Mae'r gyfrol wedi ei ysgrifennu mewn dwy law: mae'r rhestr cynnwys anghyflawn (ff. ii-iii) a nifer o gywiriadau ac arnodiadau yn y testun yn llaw'r Parch. Thomas Evans, curad Llanddowror a rheithor Walton, sir Benfro; ni adnabuwyd copïwr y prif destun (tt. 35-1244) gan y catalogydd. O'r 93 pregeth a gopïwyd i'r gyfrol yn wreiddiol (gw. y nodyn y tu mewn i'r clawr blaen) erbyn hyn mae pump, gan gynnwys y cyntaf, yn anghyflawn, ac mae un ar goll yn gyfan gwbl (tt. 476-[486]). = The volume is in two hands: the incomplete table of contents (ff. ii-iii) and a number of corrections and annotations to the text are in the hand of the Rev. Thomas Evans, curate of Llanddowror and rector of Walton, Pembrokeshire; the scribe of the main body of the text (pp. 35-1244) has not been identified by the cataloguer. Of the 93 sermons originally transcribed in the volume (see note inside front cover) five are now incomplete, including the first, and one is missing in its entirety (pp. 476-[486]).

Jones, Griffith, 1683-1761

Gwlad y Bryniau

  • NLW MS 24054A.
  • File
  • [1909]

Drafft, [1909], yn llaw T. Gwynn Jones o'i awdl 'Gwlad y Bryniau', awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol 1909, Llundain. = A holograph draft, [1909], of 'Gwlad y Bryniau' by T. Gwynn Jones, the winning awdl at the 1909 National Eisteddfod in London.
Mae'r llawysgrif yn gyfrol gyfansawdd, gyda nifer fawr o ddalennau (ff. 2-6, 8, 10-22, 25, 27-29, 32, 34-35) wedi eu tynnu allan o lyfr poced (LlGC, Papurau Thomas Gwynn Jones D320 erbyn hyn) sydd yn cynnwys drafft cynharach o rannau o'r awdl. Mae'r gweddill yn ddalennau newydd yn cynnwys rhannau diwygiedig o'r gerdd (ff. 1, 7, 9, 23-24, 26, 30-31, 33, 36-44). Mae'r testun yn cynnwys nifer fawr o newidiadau a diddymiadau, ac yn y ffurf ddiwygiedig yma mae'n cyfateb yn agos iawn i'r fersiwn orffenedig (gw. LlGC, Eisteddfod Genedlaethol Cymru - Cyfansoddiadau a beirniadaethau 1909/1). Cyhoeddwyd yr awdl gyntaf yng Nghofnodion a Chyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1909 (Llundain), gol. gan E. Vincent Evans (Llundain, 1910), tt. 25-36, a'i ail-argraffu yn T. Gwynn Jones, Detholiad o Ganiadau ([Y Drenewydd], 1926), tt. 20-44. = The manuscript is a composite volume, with many folios (ff. 2-6, 8, 10-22, 25, 27-29, 32, 34-35) being leaves removed from a pocket book (now NLW, Papurau Thomas Gwynn Jones D320) which contains an earlier draft of parts of the awdl. The remaining folios are new leaves containing revised sections of the poem (ff. 1, 7, 9, 23-24, 26, 30-31, 33, 36-44). The text contains many emendations and deletions and in this revised form corresponds very closely to the submitted version (see NLW, Eisteddfod Genedlaethol Cymru - Cyfansoddiadau a beirniadaethau 1909/1). It was first published in Cofnodion a Chyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1909 (Llundain), ed. by E. Vincent Evans (London, 1910), pp. 25-36, and re-printed in T. Gwynn Jones, Detholiad o Ganiadau ([Newtown], 1926), pp. 20-44.

Jones, T. Gwynn (Thomas Gwynn), 1871-1949

Darnau i Blant

  • NLW MS 24050C.
  • File
  • [?1935], [1955]

Llyfr ysgrifennu yn cynnwys cerddi, [?1935], yn llaw Waldo Williams a gyhoeddwyd yn E. Llwyd Williams a Waldo Williams, Cerddi'r Plant (Aberystwyth, 1936). = An exercise book containing holograph poems, [?1935], by Waldo Williams, published in E. Llwyd Williams and Waldo Williams, Cerddi'r Plant (Aberystwyth, 1936).
Mae pob un o'r ugain cerdd y cyfrannodd Waldo i'r gyfrol yn bresennol yn y llawysgrif, yn ogystal â chwe cherdd ychwanegol, 'Y Falwaden' [sic] (f. 7), 'Twmi Bach Pendre' (ff. 11-12), 'Y Ceiliog Gwynt' (f. 18), 'Storiau Tadcu' (ff. 25-27), 'Can y Fegin' (f. 28) ac 'Ar y Ffordd' (f. 29) (cyhoeddwyd 'Y Falwaden', 'Storiau Tadcu' a 'Can y Fegin' yn Robert Rhys, Chwilio am Nodau'r Gân (Llandysul, 1992), tt. 222-225). Mae braslun, [1955], gan D[avid] J. Morris, [Clunderwen], o'r darlun a ddefnyddiwyd ar glawr Cerddi'r Plant, 2il arg. (Aberystwyth, 1955) hefyd wedi ei gynnwys (f. 30). Mae ff. 23-30 yn ddail rhydd ychwanegol. = All twenty of the poems contributed to the volume by Waldo are present in the manuscript, as well as six additional poems, 'Y Falwaden' (f. 7), 'Twmi Bach Pendre' (ff. 11-12), 'Y Ceiliog Gwynt' (f. 18), 'Storiau Tadcu' (ff. 25-27), 'Can y Fegin' (f. 28) and 'Ar y Ffordd' (f. 29) ('Y Falwaden', 'Storiau Tadcu' and 'Can y Fegin' appeared in Robert Rhys, Chwilio am Nodau'r Gân (Llandysul, 1992), pp. 222-225). A sketch, [1955], by D[avid] J. Morris, [Clunderwen], of the drawing used on the cover of Cerddi'r Plant, 2nd ed. (Aberystwyth, 1955) is also included (f. 30). Folios 23-30 are additional leaves loose in the volume.

Williams, Waldo, 1904-1971

Llyfr cofnodion Cymdeithas Gyfeillgarol Rhydyfelin,

  • NLW MS 24048C.
  • file
  • 1874-1909.

Llyfr cofnodion, 1874-1909, Cymdeithas Gyfeillgarol Rhydyfelin, Melinbyrhedyn, sir Drefaldwyn. = Minute book, 1874-1909, of the Rhydyfelin Friendly Society, Melinbyrhedyn, Montgomeryshire.
Mae'r gyfrol yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd blynyddol y Gymdeithas, 1882-1891, 1896-1909 (ff. 47 verso-59 verso, 61-62, 63 verso-67 verso); cyfrifon o arian a dderbyniwyd ar gyfer talu am angladdau a threfnu Gŵyl y Gymdeithas, 1882-1909 (ff. 17 verso-21, 27 verso-45 verso); mantolen ddrafft ar gyfer 1894-1895 (ff. 15 verso-16; gw. hefyd NLW MS 22324E, f. ii); a llythyrau, 1874-1881, yn ymwneud yn bennaf ag apwyntio Swyddogion Meddygol i'r Gymdeithas (ff. 1-10). = The volume contains minutes of annual meetings of the Society, 1882-1891, 1896-1909 (ff. 47 verso-59 verso, 61-62, 63 verso-67 verso); accounts of money received towards burials and the Society's festival, 1882-1909 (ff. 17 verso-21, 27 verso-45 verso); a draft balance sheet for 1894-1895 (ff. 15 verso-16; see also NLW MS 22324E, f. ii); and letters, 1874-1881, relating mostly to the appointment of Medical Officers for the Society (ff. 1-10).

Cymdeithas Gyfeillgarol Rhydyfelin (Melinbyrhedyn, Wales)

Llythyrau ymfudwyr i Ogledd America,

  • NLW MS 24032E.
  • file
  • 1818-1845

Tri llythyr, 1818-1845, oddi wrth ymfudwyr Cymreig i Ogledd America. = Three letters, 1818-1845, from Welsh emigrants to North America.
Maent yn cynnwys llythyr, yn y Gymraeg, 16 Mehefin 1818, oddi wrth wraig Thomas Morgan, yn ninas Efrog Newydd, at ei rhieni a'i theulu, yn adrodd hanes ei mordaith o Fryste, ei chyrhaeddiad yn Efrog Newydd, a'u bwriad i fynd ymlaen i Dyffryn Mawr, Pennsylvania (ff. 1-2 verso); llythyr, yn Saesneg, 26 Ionawr 1835, oddi wrth David Morgan [?mab Thomas Morgan], Beamsville, Upper Canada [sef Ontario, Canada], at ei daid a nain ym Merthyr Tydfil (ff. 3-4 verso); a llythyr, yn y Gymraeg a'r Saesneg, 8 Ebrill 1845, oddi wrth y Parch. Joseph H. Jones, Cleveland, sir Oswego, talaith Efrog Newydd, at ei fam, Elizabeth Jones, Troedrhiwdalar, plwyf Llanafan Fawr, sir Frycheiniog, ac at ei chymydog David Davies, Penycrug (ff. 5-6). = They comprise a letter, in Welsh, 16 June 1818, from the wife of Thomas Morgan, in New York, to her parents and family, recounting her voyage from Bristol, her arrival in New York City and their intention to go on to Dyffryn Mawr, Pennsylvania (ff. 1-2 verso); a letter, in English, 26 January 1835, from David Morgan [?son of Thomas Morgan], Beamsville, Upper Canada [now Ontario, Canada], to his grandparents in Merthyr Tydfil (ff. 3-4 verso); and a letter, in Welsh and English, 8 April 1845, from the Rev. Joseph H. Jones, Cleveland, Oswego County, New York, to his mother Elizabeth Jones, Troedrhiwdalar, parish of Llanafan Fawr, Breconshire, and her neighbour David Davies, Penycrug (ff. 5-6).

Pregethau Gwilym Hiraethog

  • NLW MS 24028A.
  • File
  • 1837-1838

Cyfrol o bregethau, 1837-1838, yn llaw y Parch. William Rees (Gwilym Hiraethog). = A volume of sermons, 1837-1838, in the hand of the Rev. William Rees (Gwilym Hiraethog).
Mae'r pregethau yn bennaf o'r Testament Newydd, ynghyd ag ambell un o Lyfrau'r Salmau a'r Diarhebion, ac eraill. Perthyn y gyfrol i gyfnod Rees yn weinidog ar eglwys Annibynnol Lôn Swan, Dinbych; rhestrir y pregethau a draddodwyd ganddo, Chwefror 1837-Rhagfyr 1838, ar tt. 188-190 (testun â'i wyneb i waered). = The sermons are taken mainly from the New Testament, along with a few from the Book of Psalms, Book of Proverbs and others. The volume relates to Rees's time as the minister of Swan Lane Independent church, Denbigh; the sermons preached by him, February 1837-December 1838, are listed on pp. 188-190 (inverted text).

Rees, William, 1802-1883

Llythyr gan Carneddog

  • NLW MS 24012D.
  • File
  • 1902-1929

Llythyr, dyddiedig 6 Mehefin 1929, gan Richard Griffith (Carneddog) at ei chwaer-yng-nghyfraith Elin Griffith a'i nith Jane, yng Nghicieth, yn cynnwys yn bennaf newyddion teuluol (ff. 1-20). Mae'r llythyr yn cynnwys englynion ganddo er cof am deulu a chyfeillion (ff. 12-20), englynion a oedd i'w cyhoeddi yn O Greigiau'r Grug (Dinbych, 1930), tt. 25-32. = A letter, dated 6 June 1929, from Richard Griffith (Carneddog) to his sister-in-law Elin Griffith and his niece Jane in Cricieth, containing mainly family news (ff. 1-20). The letter includes englynion composed by him in memory of family and friends (ff. 12-20), which were to be published in his forthcoming book O Greigiau'r Grug (Denbigh, 1930), pp. 25-32.
Ceir hefyd yn y llawysgrif ddau hysbysiad rhent stad Hafodgarregog, 1902-1903, yn ôl pob golwg ar gyfer William Griffith, Tylyrni, brawd Carneddog a gŵr Elin (ff. 21-22), a theipysgrif o ddyfyniad byr o araith a draddodwyd gan David Lloyd George ym 1925 (f. 23). = The manuscript also contains two Hafodgarregog estate rent notices, 1902-1903, apparently for Carneddog's brother and Elin's husband, William Griffith, Tylyrni (ff. 21-22), and a short typed extract from a 1925 speech by David Lloyd George (f. 23).

Carneddog, 1861-1947.

Llythyrau at John Emyr

  • NLW MS 24005E.
  • File
  • 1970-1991

Casgliad o 37 llythyr a 4 cerdyn a anfonwyd at yr awdur John Emyr (1950- ) yn ystod y cyfnod 1970-1991. Ymhlith y gohebwyr y mae Gwynfor Evans (ff. 1-4), R. Tudur Jones (ff. 11-12), T.H. Parry-Williams (ff. 16-17), Kate Roberts (ff. 18-37) a Lewis Valentine (ff. 39-40). Cyfeiria llawer o'r llythyrau at gyhoeddiadau John Emyr, megis Enaid clwyfus: golwg ar waith Kate Roberts (Dinbych, 1976), Terfysg Haf (Dinbych, 1979), Dadl Grefyddol Saunders Lewis a W.J. Gruffydd (Pen-y-bont ar Ogwr, 1986) a Dyddiadur Milwr a Gweithiau Eraill (Llandysul, 1988). = A collection of 37 letters and 4 cards in Welsh sent to author John Emyr (1950- ) during the period 1970-1991. Among the correspondents are Gwynfor Evans (ff. 1-4), R. Tudur Jones (ff. 11-12), T.H. Parry-Williams (ff. 16-17), Kate Roberts (ff. 18-37) and Lewis Valentine (ff. 39-40). Many of the letters refer to John Emyr's publications, such as Enaid clwyfus: golwg ar waith Kate Roberts (Dinbych, 1976), Terfysg Haf (Dinbych, 1979), Dadl Grefyddol Saunders Lewis ac W.J. Gruffydd (Pen-y-bont ar Ogwr, 1986) and Dyddiadur Milwr a Gweithiau Eraill (Llandysul, 1988).

Evans, Gwynfor

Dogfennau Derwyddol

  • NLW MS 24001G.
  • File
  • 1876-1882

Casgliad o chwe dogfen, 1876-1882, yn ymwneud â sefydlu Derwyddiaeth yn Unol Daleithiau'r Amerig dan awdurdod 'Gorsedd Dderwyddol Ynys Brydain a Chadair Morganwg'. Cynhwysa'r casgliad ddwy ddogfen femrwn, y naill yn dystysgrif, 1876, yn awdurdodi James Davies ('Corafar') [y Parch. James Davies M.A. yn ôl Bye-gones (1874-5), t. 123], 'Rhag-archdderwydd America', i hybu derwyddiaeth yn 'hemisffer gorllewinol y byd' (f. 1), a'r llall, 1878, yn cymeradwyo sefydlu 'Prif-athrofa dderwyddol' yn yr Unol Daleithiau, dan awdurdod James Davies (f. 2). Am sylwadau ar y brifysgol dderwyddol yn Buffalo, Efrog Newydd, gweler ymhellach Young Wales, IV (1898), 213. Cynhwysa'r casgliad hefyd dri llythyr ar bapur, 1881-2, oddi wrth Evan Davies ('Myfyr Morganwg') at J.H. Davies, Efrog Newydd, yn trafod materion derwyddol, ynghyd â darn o lythyr arall yn llaw Evan Davies, a anfonwyd o bosibl at yr un derbynnydd (ff. 3-6). = A collection of six documents, 1876-1882, relating to the establishment of Druidism in the United States of America by authority of 'Gorsedd Dderwyddol Ynys Brydain a Chadair Morganwg'. The collection includes two parchment documents: a certificate, 1876, authorizing James Davies ('Corafar') [the Revd. James Davies M.A. according to Bye-gones (1874-5), p. 123], 'Vicarial Arch-druid of America', 'to perpetuate and propagate in the western hemisphere of the world the Druidic cause' (f. 1), together with a document authorizing the establishment of a Druidic University in the United States, under James Davies' direction (f. 2). On the druidic university at Buffalo, New York, see further Young Wales, IV (1898), p. 213. The collection also includes three letters on paper, 1881-2, from Evan Davies ('Myfyr Morganwg') to J.H. Davies, New York, discussing druidism, together with a fragment of another letter in the hand of Evan Davies, possibly sent to the same recipient (ff. 3-6).

Llyfr Tonau William Jenkins,

  • NLW MS 23995A.
  • file
  • [1818]-1852.

Llyfr tonau William Jenkins, Blaenbarthen, plwyf Llangoedmor, sir Aberteifi, a enwir fel saer maen 50 oed yng Nghyfrifiad 1851. Cynhwysa'r gyfrol donau, a rhai anthemau, a nodwyd gan Thomas John, 1820-1825 (ff. 39-106), a William Jenkins, 1824-1852 (ff. 57-255), rai ohonynt yn dwyn geiriau. Rhwymwyd yn y gyfrol hefyd hyfforddwr cerddorol Saesneg printiedig o 32 tt., [1818x1820], yn dwyn y teitl 'The Vocal Preceptor' (ff. 17-33). = The tune-book of William Jenkins, Blaenbarthen, parish of Llangoedmor, Cardiganshire, who is named as a 50 year old mason in the Census of 1851. The volume contains hymn-tunes, and some anthems, noted by Thomas John, 1820-1825 (ff. 39-106) and William Jenkins, 1824-1852 (ff. 57-255), some accompanied by texts. Bound in the volume is a 32 pp. English printed musical instruction manual, [1818x1820], entitled 'The Vocal Preceptor' (ff. 17-33).
Nodir dyddiad wrth gofnodi mwyafrif y tonau, ac ychwanegwyd manylion ffynhonnell yn achlysurol, gan gynnwys y Parch. Daniel Davies, 1830-1832 (ff. 135, 148, 159-60, 163), ynghyd â rhai priodoliadau (ff. 56, 72, 162). Ceir mynegai i'r tonau ar ff. 1-12. = Accompanying dates are noted with the majority of tunes, and sources are occasionally noted, including the Revd. Daniel Davies, 1830-1832 (ff. 135, 148, 159-60, 163), together with some attributions (ff. 56, 72, 162). There is an index to the tunes on ff. 1-12.

Llythyrau Kate Roberts at Olwen Samuel

  • NLW MS 23991i-ivE.
  • File
  • 1929-1983

Cyfres o 241 llythyr, 1929-1983, oddi wrth Kate Roberts at Mrs Olwen Margaret Samuel (née Rees), Glynebwy. Bu'r derbynydd yn ddisgybl i Kate Roberts yn Ysgol Ramadeg y Merched, Aberdâr, a chyfranodd atgofion yn Bobi Jones (gol.), Kate Roberts: Cyfrol Deyrnged (Dinbych, 1969), tt. 182-8. Ceir rhai o lythyrau Olwen Samuel at Kate Roberts yn Archif Kate Roberts yn LlGC. = A series of 241 letters, 1929-1983, from Kate Roberts to Mrs Olwen Margaret Samuel (née Rees), Ebbw Vale. The recipient was a former pupil of Kate Roberts at the Aberdare County Grammar School for Girls, and contributed reminiscences to Bobi Jones (ed.), Kate Roberts: Cyfrol Deyrnged (Dinbych, 1969), pp. 182-8. Some of Olwen Samuel's letters to Kate Roberts are in the Kate Roberts Archive at NLW.
Cynhwysa un llythyr gyfeiriad at amgylchiadau marw'r bardd David Ellis ym 1918 (f. 74). = One letter in this series refers to the circumstances surrounding the death of poet David Ellis in 1918 (f. 74).

Roberts, Kate, 1891-1985

Llyfr Melyn Tyfrydog

  • NLW MS 23969F.
  • File
  • 1763-1769

Cyfrol o achau, cerddi a nodion hynafiaethol, dyddiedig 1766 (ond a luniwyd tua 1763-1769), yn llaw Hugh Hughes (Y Bardd Coch o Fôn), ac sy'n dwyn y teitl 'Llyfr Melyn Tyfrydog [ne]u'r Gell Gymmysg' (t. xxv). Canolbwyntia rhan gyntaf y gyfrol ar achau disgynyddion Pymtheg Llwyth Gwynedd, y mwyafrif yn deuluoedd o Fôn (tt. 1-91; rhestrir y teuluoedd ar tt. xxvii-xxix). Ychwanegwyd arfbais liwiedig teulu Llwydiarth Esgob i gyd-fynd ag ach Hugh Hughes ei hunan ar t. 40. = A volume of pedigrees, poems and antiquarian notes, dated 1766 (but compiled around 1763-1769), in the hand of Hugh Hughes (Y Bardd Coch o Fôn), and entitled 'Llyfr Melyn Tyfrydog [ne]u'r Gell Gymmysg' (p. xxv). Pedigrees of the descendants of the Fifteen Tribes of North Wales, mostly Anglesey families, fill the first part of the volume (pp. 1-91; the families are listed on pp. xxvii-xxix). The coloured arms of the family of Llwydiarth Esgob are appended to the pedigree of Hugh Hughes himself (p. 40).
Cynhwysa'r gyfrol hefyd nodiadau hynafiaethol (t. 97 passim), trioedd a chynghorion (tt. 107-110, 116-119), ynghyd â nifer helaeth o gerddi Cymraeg (t. xiii passim), rhai wedi eu copïo o 'Delyn Ledr' William Morris, Caergybi (bellach BL Add. MS 14873) (tt. xvi, 119), ac eraill o gyfrol Evan Evans, Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards (London, 1764) (t. 182). Ymysg cerddi cyfoes y llawysgrif, ceir rhai gan David Ellis (t. 282), Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) (t. 269), Hugh Hughes (tt. 260, 272, 275), Robert Hughes (Robin Ddu yr Ail o Fôn) (t. 235), a Goronwy Owen (t. 263). Diweddarwyd rhai o nodiadau hynafiaethol y gyfrol mewn dwylo diweddarach, hyd oddeutu 1858 (t. 50). Am restr o gynnwys y gyfrol, yn llaw Hugh Hughes, gweler t. xvii. = The volume also contains antiquarian notes (p. 97 passim), triads and wisdom (pp. 107-110, 116-119), together with a great number of Welsh poems (p. xiii passim), some copied from the 'Telyn Ledr' of William Morris of Holyhead (now BL Add. MS 14873) (pp. xvi, 119), and others from Evan Evans' Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards (London, 1764) (p. 182). Amongst contemporary poems in the manuscript are compositions by David Ellis (p. 282), Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) (p. 269), Hugh Hughes (pp. 260, 272, 275), Robert Hughes (Robin Ddu yr Ail o Fôn) (p. 235), and Goronwy Owen (p. 263). Antiquarian notes of a later period were added to the manuscript, until c. 1858 (p. 50). For a list of the volume's contents, in the hand of Hugh Hughes, see p. xvii.

Hughes, Hugh, 1693-1776

Arnodiadau Morrisiaid Môn,

  • NLW MS 23966B.
  • file
  • 1603-1759

Copi anghyflawn o gyfrol William Middelton, 'Psalmae y brenhinol brophwyd Dafydh' (Llunden, 1603) [Libri Walliae 466-9, ESTC S90848], gyda'r chwe dalen gyntaf, a dalennau 1-30, 229-30, 233-87 ar goll (awgryma nodyn ar f. 118 verso iddynt gael eu colli cyn y ddeunawfed ganrif). Ceir yn y gyfrol nifer o fân nodiadau mewn inc yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg (y mwyafrif wedi gwisgo neu wedi eu tocio), gan gynnwys enwau Richard Jones (ff. 45, 65 passim), Kadwalad[r] Wynn (f. 55), Hugh Jones (ff. 88 verso, 89 passim), ac Owen Parry, 1690 (f. 63). = Incomplete copy of William Middelton's 'Psalmae y brenhinol brophwyd Dafydh' (Llunden, 1603) [Libri Walliae 466-9, ESTC S90848], lacking the six preliminary leaves and ff. 1-30, 229-30, 233-87 (the note on f. 118 verso suggests that they were lost before the eighteenth century). The volume bears a number of minor annotations in ink of the seventeenth century (most faded or cropped), including the names of Richard Jones (ff. 45, 65 passim), Kadwalad[r] Wynn (f. 55), Hugh Jones (ff. 88 verso, 89 passim), and Owen Parry, 1690 (f. 63).
Yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif, roedd y gyfrol yng ngogledd Môn, fel y tystia enwau Richard Owen, Llanfihangel-yn-Nhywyn, 1711 (ff. 81, 85 verso) a John Hughes o Lanfair-yn-neubwll (ff. 26, 36, a ddarlunnir efallai ar f. 112 verso). Bu wedyn ym Mhentreiriannell, Môn, lle'r ysgrifennwyd arno enwau Lewis Morris, 1721 (f. 62), Siôn Morris, 1721/2 (f. 49) a Rhisiart Morris, 1725 (f. 17), ac ychwanegodd Lewis Morris nifer o ddarnau o farddoniaeth, yn Gymraeg a Saesneg, ar ff. 90, 91, 111 verso, 114, 115 verso, a 116 verso. Wedi ei chludo i Benbryn, Ceredigion, cyflwynodd Lewis y gyfrol ym Medi 1759 i Siôn Bradford o Fetws Tir Iarll, Morgannwg (f. 17 verso). = Early in the eighteenth century, the volume was in the north of Anglesey, as witness the names of Richard Owen, Llanfihangel-yn-Nhywyn, 1711 (ff. 81, 85 verso) and John Hughes of Llanfair-yn-neubwll (ff. 26, 36, and possibly pictured on f. 112 verso). Subsequently at Pentreiriannell, Anglesey, it was inscribed with the names of Lewis Morris, 1721 (f. 62), John Morris, 1721/2 (f. 49) and Richard Morris, 1725 (f. 17), and Lewis Morris added numerous fragments of verse, in both Welsh and English, on ff. 90, 91, 111 verso, 114, 115 verso, and 116 verso. Having been transported to Penbryn, Cardiganshire, the volume was in September 1759 presented by Lewis to John Bradford, of Betws Tir Iarll, Glamorgan (f. 17 verso).

Morris, Lewis, 1701-1765

Results 201 to 220 of 59614