Dangos 839431 canlyniad

Disgrifiad archifol
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

William Roberts,

Carisbrook. Rhoi ychydig o hanes ei deulu a sylwadau ar 'y byd terfysglyd'.

William Roberts,

Garndolbenmaen. [Tannau Tegfelyn] yn gwerthu'n dda. Gofyn am fwy o gopïau. Bwriadu galw.

William Roberts,

Garndolbenmaen. Methu â dod o hyd i dyddiad marw Tomos Williams, Tyn-y-mynydd yng nghofnodion ei daid. Trafod dyddiadau rhai eraill megis John Owen, Hendre Howel, a Richard Williams, yr Erw. Bwriadu ei helpu i werthu [Tannau Tegfelyn].

William Richard Owen, Rhewl, Rhuthun,

Llongyfarch W. J. Gruffydd ar ei araith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwrandawai cwmni bach arno yno o fewn tafliad carreg i'r fynwent lle gorwedd Emrys ap Iwan. Dymuno pob hwyl iddo ddweud y gwir 'wrth Philistiaid o bob math'. Cerdyn post.

William R. Jones,

Cerdyn post o Bad Ems. Sôn am ganu emyn Martin Luther yn y sgwâr bob bore am saith.

William Price Jones

Cardiau post, un â marc post 19 Rhagfyr 1915 a'r llall â marc post aneglur, yn dwyn cyfarchion Nadolig at 'Mrs J. E. Williams' (Angharad Williams) oddi wrth ei brawd, William Price Jones. Mae'r cyfeiriad 'Oak or Elm Cottage' ar un o'r cardiau yn enghraifft o hiwmor William Price Jones (gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 39; gweler hefyd Cardiau post at Mary Williams dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams - Mary Francis (née Williams)).

Adroddiad blynyddol y Durban Benevolent Society am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 1974 a roddwyd i neu a anfonwyd at William Price Jones, brawd Angharad Williams (née Jones), ynghyd â nodyn ar ran y Gymdeithas yn cyfeirio at gwymp a gafodd y derbynnydd, gan obeithio am wellhad buan. Mae'r gyfrol yn cynnwys adroddiad gan William Price Jones, ysgrifennydd a thrysorydd y Gymdeithas.

Llungopïau o lythyrau, 27 Awst 1973 a di-ddyddiad (ond ceir y dyddiad '28 10 76' mewn llaw anhysbys ar frig y llythyr dyddiedig 27 Awst 1975, sydd o bosib yn cyfeirio at y llythyr di-ddyddiad), a llythyr gwreiddiol, 17 Hydref 1975, oddi wrth William Price Jones, brawd Angharad Williams (née Jones), at ei chwaer Mwynlan Mai Edmond (née Jones). Yn y llythyr di-ddyddiad ceir ôl-nodyn yn llaw William Price Jones a ffotograff ohono (wedi'i lungopïo yn unol â chorff y llythyr) wedi'i glymu i frig y llythyr. Ceir nodyn (heb ei lungopïo) [?yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai Angharad] ar frig yr un llythyr yn datgan 'Brawd ieuengaf Angharad i'w chwaer ieuengaf Mwynlan'. Mae'r llythyrau yn cynnwys peth o hanes bywyd William Price Jones yn Durban, De Affrica, cyfeiriad at farwolaeth ei wraig, Doreen, a hanes y llawdriniaeth a gafodd ar ei lygad.

William Pierce.

'Bugeilgerdd Mur Muriannau' neu 'penillion carwriaethol John ac Anne' gan yr uchod.

William P. Milne, Leeds,

Estyn gwahoddiad, fel Llywydd Cymdeithas Astudiaethau Celtaidd Swydd Efrog, i W. J. Gruffydd eu hannerch ar unrhyw destun Celtaidd. Amlinellu dibenion y gymdeithas a ffurf y cyfarfod. Y flwyddyn cynt Dr Robin Flower o'r Amgueddfa Brydeinig oedd y darlithydd gwadd a chyn hynny, yr Athro Tolkien o Rydychen. Telir ei gostau teithio ar y trên ac estynnir croeso iddo aros yng nghartref William P. Milne a'i wraig. Brodor o swydd Aberdeen yw William P. Milne.

[William Owen], 'Mate Bill', Biwmares,

Ysgrifennu yn dilyn y mwynhad a gafodd o raglen o ddarlleniadau am Gymru yn farddoniaeth a rhyddiaith. Sylweddola mai oherwydd iddo fynychu dosbarth llenyddiaeth W. J. Gruffydd yn y gorffennol yr oedd y cyfan mor gyfarwydd iddo. Yr oedd y dosbarthiadau hynny fel 'agor drws teml gweledigaethau'. Cafodd bleser mawr o ddarllen gwaith W. J. Gruffydd hefyd. Gwyr am bob troedfedd o'r triongl tir yn Llanddeiniolen a ddisgrifiwyd mor fendigedig gan W. J. Gruffydd.

Canlyniadau 3121 i 3140 o 839431