Dangos 839266 canlyniad

Disgrifiad archifol
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Cardiau Nadolig Cymdeithas yr Iaith; cardiau aelodaeth y Gymdeithas; pamffledi amrywiol yn ymwneud â'r iaith Gymraeg; taflenni cangen Arfon o ...,

Cardiau Nadolig Cymdeithas yr Iaith; cardiau aelodaeth y Gymdeithas; pamffledi amrywiol yn ymwneud â'r iaith Gymraeg; taflenni cangen Arfon o Gymdeithas yr Iaith; erthyglau a chyhoeddiadau Gwyddelig; pamffledi'r Gymdeithas; holiadur yn ymwneud â'r defnydd o'r Gymraeg mewn Llysoedd Ynadon; cynllun Owen Owen o fathodyn 'Trafod y Ddraig'.

Cardiau Nadolig MYM,

Cardiau Nadolig MYM:. (I) proflenni, 1982. (Ii) proflenni [dim dyddiad]. (Iii) gohebiaeth, 1984-94. (Iv) gohebiaeth, 1988-91. (V) Cardiau Nadolig gorffenedig.

Cardiau Nadolig teuluol

Cardiau Nadolig a phen-blwydd, [1850]-[1945], a dderbyniwyd gan Mathonwy Hughes ac aelodau o’i deulu, gan gynnwys ei ewythr Silyn Roberts, a rhai cardiau coffa. Ceir cerdyn Nadolig hefyd oddi wrth 'Squadron-Leader & Mrs G. ap Silyn-Roberts, Henlow.

Cardiau Nadolig, 1970-2, 153 ohonynt, yn cynnwys rhai gan: Aneirin Talfan Davies, Cassie Davies, Jennie Eirian Davies, Mair Kitchener Davies ...,

Cardiau Nadolig, 1970-2, 153 ohonynt, yn cynnwys rhai gan: Aneirin Talfan Davies, Cassie Davies, Jennie Eirian Davies, Mair Kitchener Davies, Dr Noëlle Davies, Nesta Harris, Mathonwy Hughes, Emyr Humphreys, Bedwyr Lewis Jones, Gerallt Jones, Harri Pritchard Jones, John Gwilym, Jones, D. Eirwyn Morgan, Derec Llwyd Morgan, Gerald Morgan, ac Eigra Lewis Roberts.

Cardiau pen blwydd pan oedd Kate Roberts yn 90 oed, 1981, 158 ohonynt, yn cynnwys rhai gan: Cassie Davies, John ...,

Cardiau pen blwydd pan oedd Kate Roberts yn 90 oed, 1981, 158 ohonynt, yn cynnwys rhai gan: Cassie Davies, John Emyr, Mathonwy Hughes, Richard Hughes (Co Bach), Dafydd Ifans, Geraint Vaughan Jones, Huw Jones (Y Bala), John Gwilym Jones, Derec Llwyd Morgan, Dyfnallt Morgan, Marged Pritchard, Mair Saunders, Gwyn Thomas, R. S. Thomas, Lewis Valentine, Aled Vaughan, Cynwil Williams, J. E. Caerwyn Williams ac R. Bryn Williams.

Cardiau post at Mary Williams

Cardiau post wedi'u cyfeirio at Mary Williams (yn ddiweddarach Francis), fel a ganlyn:

Cerdyn, di-ddyddiad, wedi'i lofnodi gan George W[illiam] Roome, a oedd yn gyd-fyfyriwr i John Edwal Williams, tad Mary, yn y Coleg Normal, Bangor (gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 28).

Cerdyn, marc post 19 Rhagfyr 1915, oddi wrth ei hewythr, William Price Jones, brawd ei mam, Angharad Williams (née Jones) (mae'r cyfeiriad 'Oak or Elm Cottage' ar ei gerdyn yn enghraifft o hiwmor William Price Jones (gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 39) (gweler hefyd Cardiau post at Angharad Williams oddi wrth William Price Jones dan bennawd Angharad Williams (née Jones)).

Cardiau, un di-ddyddiad, un marc post 3 Rhagfyr 1915, oddi wrth 'Uncle Ned' ac oddi wrth 'Uncle Ned, Aunty Minnie & Ioan', sef Edward (Ned) Thomas Edmunds, ei wraig Wilhelmina (Minnie) (née Jones), chwaer Angharad Williams (née Jones), a'u mab Ioan Edmunds (gweler Edward (Ned) Thomas Edmunds dan bennawd Angharad Williams (née Jones)).

Dau gerdyn, marc post Avalon, California, 9 Gorffennaf 1927 a Cleveland, Ohio, 1[?0] Mawrth (dyddiad wedi'i ddiddymu), oddi wrth Lewis Williams (llofnod 'LW' ar y cardiau), brawd ei thad, John Edwal Williams (gweler hefyd Lewis Williams dan bennawd John Edwal Williams a Cerdyn post at Dilys Williams oddi wrth Lewis Williams dan bennawd Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams).

Cerdyn, di-ddyddiad, â'r un gair 'Mary' arno.

Cerdyn, marc post 16 Awst 1915, oddi wrth 'Gwyneth'.

Cardiau post Cylch yr Orsedd, Eisteddfod Y Rhyl, 1904, ac arysgrif yn ymwneud â'r arwisgiad, 1911,

  • NLW Misc. Records 466.
  • Ffeil
  • 1904-1959.

Ceir hefyd tri cherdyn post yn dangos lluniau fel a ganlyn - (1) grŵp, yn cynnwys Olwen Silvester ar achlysur dathlu hanner canmlwyddiant Cymdeithas Cymmrodorion y Rhyl, 1959, (2) y Parchedig Rowland Williams ('Hwfa Mon; 1823-1905), a (3) golygfa yn ninas Caeredin, 1905 (gyda darn o farddoniaeth Gymraeg wedi ei ysgrifennu ar y cefn). Rhaglen gwasanaeth a gynhaliwyd yng Nghapel Clwyd Street, Rhyl, 22 Mehefin 1911, ar achlysur coroniad Sior V. Llythyr, 1931, oddi wrth Ifan ab Owen Edwards at y rhodddwr ynglŷn â phenillion a gynigiodd i'w cyhoeddi yn Cymru'r Plant.

Canlyniadau 6421 i 6440 o 839266