Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 45762 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

36 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llythyrau at 'Ioan Brothen'; ymhlith y gohebwyr mae Richard Griffith ('Carneddog'), 1938; J. Lloyd Humphreys, 1909, 1928; Humphrey Jones ('Bryfdir') ...,

Llythyrau at 'Ioan Brothen'; ymhlith y gohebwyr mae Richard Griffith ('Carneddog'), 1938; J. Lloyd Humphreys, 1909, 1928; Humphrey Jones ('Bryfdir'), 1937; Owen Jones ('Glyn Hefin'), 1910; ynghyd â llythyr, 1944, oddi wrth Frances Lloyd George; J. Lloyd Humphreys, 1942; ac un, heb ddyddiad, oddi wrth J. W. Jones at Ellen Jones, gweddw 'Ioan Brothen'.

Ffeil o gyfansoddiadau eisteddfodol o waith James Clement, 'Alarch Ogwy': ff. 1-5. Pryddest: "Brwydrau Bywyd" ar gyfer Eisteddfod Penclawdd, Nadolig ...,

Ffeil o gyfansoddiadau eisteddfodol o waith James Clement, 'Alarch Ogwy': ff. 1-5. Pryddest: "Brwydrau Bywyd" ar gyfer Eisteddfod Penclawdd, Nadolig 1908. Beirniad: 'Gwilym Myrddin' [William Jones, (1863-1946), Rhydaman]. Ffugenw: 'Un tyner dan y tonau'. 200 llinell; ff. 6-10. Pryddest: "Ac o'r bobl nid oedd un gyd â mi" ar gyfer Eisteddfod Treforys, Pasg 1902. Beirniad: 'Gwili' [John Gwili Jenkins, (1872-1936)]. Ffugenw: 'Simeon'. 150 llinell; ff. 11-12. Marwnad i'r diweddar Mr Thomas Jones, Ystradgynlais. Ffugenw: 'Dan yr Ywen'; ff. 13-17. Marwnad i'r diweddar Mr William Punter, Brynmenyn; ff. 18-22. Marwnad i'r diweddar Mr John Evans, Llanfair, ar gyfer Cyfarfod Cystadleuol Llanfair. Beirniad: 'Elfed' [Howell Elvet Lewis, (1860-1953)]. Ffugenw: 'Gwlith Hermon'; ff. 23-6. Pryddest: "A'r olew a beidiodd" ar gyfer Eisteddfod Bodringallt, Nadolig 1903. Beirniad: Y Parchedig J. Lewis. Ffugenw: 'Simeon'. 100 llinell; ff. 27-8. Marwnad i'r diweddar Mr David Jeffreys, Ystradgynlais. Ffugenw: 'Dan yr Ywen'; ff. 29-33. Marwnad i'r diweddar Mr Thomas Williams, Rhos, ar gyfer Eisteddfod y Rhos, 19 Tachwedd 1898. Beirniad: Y Parchedig David Jenkins, 'Urbanus'. Ffugenw: 'Adwaenydd y brawd anwyl'. 100 llinell; ff. 34-5. Marwnad i'r diweddar Mr Rees Thomas, Ystradgynlais. Ffugenw: 'Dan yr Ywen'. (Gweler hefyd f. 52 isod); ff. 36-7. Cerdd: "Y Weddi Ddirgel" ar gyfer cystadleuaeth yn Eisteddfod Abertawe, 27 Ionawr [1898]. Ffugenw: 'Credadyn'; ff. 38-42. Marwnad i'r diweddar John Thomas, ysw., Cwrt Herbert, ar gyfer Eisteddfod yr Onllwyn, 1897. Beirniad: Y Parchedig B[en] Davies. Ffugenw: 'Trist ei ysbryd'. 150 llinell; ff. 43-51. Pryddest: "Anerchiad Paul i'r Atheniaid" ar gyfer cystadleuaeth yn Eisteddfod Pontneddfechan, 1901. Beirniad: [E.] Gurnos Jones. ?Anghyflawn; f. 52. Marwnad i'r diweddar Mr Rees Thomas, Ystradgynlais. (Gweler ff. 34-5 uchod). 26 llinell yn unig; ff. 54-5. Darn adrodd: "Petr a Ioan ger bron y Cyngor" ar gyfer cystadleuaeth yn Eisteddfod Bodringallt, Nadolig 1913. Beirniad: J. Bodfan Anwyl. Ffugenw: 'Galilead'; ff. 56-61. Traethawd: "Buddioldeb Cystadleuaeth" ar gyfer Eisteddfod Abertawe, 27 Ionawr 1898. Beirniad: Y Parchedig E. Edmunds. Ffugenw: 'Cystadleuydd'; ff. 62-8. Ysgrif: "Uchelgais" ar gyfer cystadleuaeth yng Nghyfarfod Llenyddol Gilfach Goch, 29 Mehefin 1880. Beirniad: Y Parchedig E. Gurnos Jones. Ffugenw: 'Omega'; ff. 69-75. [Stori fer]: "Penod o Fywyd Cymreig - Y Dydd Hwnnw"; ff. 76-99. Traethawd: "Hanes y gwahanol enwadau yn Sciwen" ar gyfer cystadleuaeth yn Eisteddfod Calfaria, Sciwen, 1901. Beirniad: Thomas Powell, Glais; ff. 100-5. [Stori fer]: "Penod - Ty a Theulu y Dolau"; ff. 106-116. Araith: "A all chwedloniaeth fod yn allu er daioni?".

Canlyniadau 101 i 120 o 45762