Dangos 839675 canlyniad

Disgrifiad archifol
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

9561 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Album y Bont

  • NLW MS 24131C.
  • Ffeil
  • 1840-1891, 1901 (crynhowyd 1872-1901)

Albwm llofnodion, 1872-1878, 1901, a fu'n eiddo i Sarah Williams, Bont Dolgadfan, Llanbrynmair, sir Drefaldwyn, yn cynnwys enghreifftiau o farddoniaeth, emynau a rhyddiaith Cymraeg a Saesneg yn nwylo tua 123 o weinidogion, beirdd ac unigolion eraill a oeddynt yn adnabod ei thad, William Williams (Gwilym Cyfeiliog). Ceir yn y gyfrol yn ogystal dau ddeg pedwar o lythyrau, 1840-1891, 1901, y rhan fwyaf at Gwilym Cyfeiliog neu ei blant, a phedwar eitem arall, i gyd wedi'i tipio i mewn. = Autograph album, 1872-1878, 1901, of Sarah Williams of Bont Dolgadfan, Llanbrynmair, Montgomeryshire, containing examples of poetry, hymns and prose in Welsh and English in the hands of some 123 Nonconformist ministers, poets and other individuals, mostly acquainted with her father William Williams (Gwilym Cyfeiliog). Also included are twenty-four letters, 1840-1891, 1901, mostly addressed to Gwilym Cyfeiliog or his children, and another four items, all tipped into the volume.
Ymysg y cyfranwyr mae Mynyddog (f. 32), [William Rees] (G[wilym] Hiraethog) (f. 53 verso), [Richard Roberts] (Gruffydd Risiart) (f. 66 verso) a Ieuan Gwyllt (f. 74). Ceir llythyrau gan W[illiam] Rowlands (Gwilym Leyn), [18]64 (f. 3), S[amuel] R[oberts], 1876 (ff. 10-11), [y Parch.] Richard [Williams], [ewythr Sarah Williams], [18]42 (f. 14), John Evans (I. D. Ffraid), 1870 (f. 18), [y Parch.] Henry Rees, [18]59 (f. 21), J. R. Kilsby Jones, Tachwedd-[Rhagfyr] 1866 (ff. 23-24, 28 verso-29 (copi)), J[oseph] Parry, 1870 (f. 26), E[dward] Stephen (Tanymarian) (f. 31), [y Parch.] John Elias, 1840 (f. 41), James Sauvage, 1882 (ff. 45-46), Fre[deri]ck Hanbury Tracy [AS], 1878 (f. 50), Mary Davies, [18]83 (f. 61), Cranogwen, 1867 (f. 65 recto-verso), ac eraill. Hefyd yn y gyfrol mae copi o'r emyn pedair pennill, yn cychwyn 'Er mai hollol groes i nattur…', o waith Ann Griffiths, yn llaw y Parch. John Hughes Pontrobert, [?1840au] (ff. 56 recto-verso; gw., er enghraifft, Gwaith Ann Griffiths, [gol. gan O. M. Edwards] (Llanuwchllyn, 1905), tt. 30-31), ar gefn byr-gofiant Thomas Meredith, Llanbrynmair, gan 'WH' [?William Howell] (ff. 56 verso-57; gw. hefyd f. 52). = The contributors include Mynyddog (f. 32), [William Rees] (G[wilym] Hiraethog) (f. 53 verso), [Richard Roberts] (Gruffydd Risiart) (f. 66 verso) and Ieuan Gwyllt (f. 74). There are letters from W[illiam] Rowlands (Gwilym Leyn), [18]64 (f. 3), S[amuel] R[oberts], 1876 (ff. 10-11), [the Rev.] Richard [Williams], [Sarah Williams's uncle], [18]42 (f. 14), John Evans (I. D. Ffraid), 1870 (f. 18), [the Rev.] Henry Rees, [18]59 (f. 21), J. R. Kilsby Jones, November-[December] 1866 (ff. 23-24, 28 verso-29 (copy)), J[oseph] Parry, 1870 (f. 26), E[dward] Stephen (Tanymarian) (f. 31), [the Rev.] John Elias, 1840 (f. 41), James Sauvage, 1882 (ff. 45-46), Fre[deri]ck Hanbury Tracy [MP], 1878 (f. 50), Mary Davies, [18]83 (f. 61), Cranogwen, 1867 (f. 65 recto-verso), among others. Also inserted into the volume is a copy of the hymn of four stanzas beginning 'Er mai hollol groes i nattur…' by Ann Griffiths in the hand of the Rev. John Hughes, Pontrobert, [?1840s] (f. 56 recto-verso; see, for instance, Gwaith Ann Griffiths, [ed. by O. M. Edwards] (Llanuwchllyn, 1905), pp. 30-31), written on the reverse of a brief memoir of Thomas Meredith, Llanbrynmair, by 'WH' [?William Howell] (ff. 56 verso-57; see also f. 52).

Williams, Sarah, 1859-1920

Albwm 1949

Albwm a gyflwynwyd i Norah Isaac pan oedd yn gadael yr Ysgol Gymraeg i fod yn ddarlithydd yn Y Barri, 1949. Ceir cyfarchion ar lun a gair gan y disgyblion, ynghyd â ffotograffau rhydd, [1944]-1949, o'i chyfnod yno a rhai diweddarach. Ceir hefyd lungopi o lythyr byr oddi wrth Owen [Edwards], 1942

Albwm o dorion. Clawr blaen: Bryfdir: cyfres o englynion coffa i 'Gwynfor', Awst 1941; Carneddog: teyrnged yn ei golofn "Manion ...,

Albwm o dorion. Clawr blaen: Bryfdir: cyfres o englynion coffa i 'Gwynfor', Awst 1941; Carneddog: teyrnged yn ei golofn "Manion o'r Mynydd", Yr Herald Cymraeg, 1 Medi 1941; t. i, J. W., Llundain, cerdd: "Gwynfor"; [Dienw], "Death of 'Gwynfor'", 22 Awst 1941; t. ii: Llun 'Gwynfor'; [Dienw], " Tribute to Dramatist", Caernarvon and Denbigh Herald, 29 Awst 1941; Englynion gan Glan Caledffrwd yn dilyn ar t. ii; t. iii: Parhad "Tribute to Dramatist"; M. A. T., "Mustard and Cress, Gwynfor. The man and his work: A friend and neighbour: The two traditions; The old familiar faces", d.d.; t. iv: Parhad "Mustard and Cress"; t. v: H. R. Phillips, "The Passing of Gwynfor"; W. R. Jones, Hugh Griffith, W. P. Davies, "To Gwynfor's Memory," Caernarvon and Denbigh Herald, 5 Medi 1941; Bryfdir, cerdd: "Gwynfor", Y Rhedegydd; [Dienw], "Gwynfor," Y Goleuad, d.d.; t. vi: R. W[illiams] Parry, cerdd: "Yr Hen Actor (yr olwg olaf arno)", Y Faner, 13 Medi 1941; [Dienw], "Angladd Gwynfor", Yr Herald Cymraeg, 26 Awst 1941; t. vii: [Dienw], "Marw Dramodydd Cymreig", Y Cymro, 30 Awst 1941; [Dienw], "Well-known Dramatist", Liverpool Daily Post, 23 Awst 1941; t. viii: [Dienw], "Early Performances"; [Dienw], "A Notable Welshman", Liverpool Daily Post, 26 Awst 1941; [Dienw], "Marw Gwynfor", Yr Herald Cymraeg, 25 Awst 1941; t. ix: Parhad "Marw Gwynfor"; [Dienw], "Mr T. O. Jones, Caernarfon," The Cambrian News, 29 Awst 1941; t. x: 'Celt' [E. Morgan Humphreys], "Lack of Welsh Dramatists", Liverpool Daily Post, 9 Medi 1941; Evan Roberts Llandderfel, "Colli'm Cyfaill Gwynfor", Seren y Bala, 30 Awst [1941]; t. xi: Parhad o "Colli'm Cyfaill Gwynfor"; 'Euroswydd' [E. Prosser Rhys], "Marw Gwynfor", Y Faner, 3 Medi 1941; t. xii: Parhad "Marw Gwynfor"; t. xiii: Parhad "Marw Gwynfor"; R. W[illiams] Parry, cerdd: "Yr Hen Actor - I Dwylan II Llanbeblig"; Parch. W. T. Ellis, Porthmadog, "Bore Oes Gwynfor", Y Goleuad, 3 Medi 1941; t. xiv: Parhad "Bore Oes Gwynfor"; t. xv: Gohebydd Arbennig, "Dyled y Ddrama Gymraeg i Gwynfor", Y Cymro, 30 Awst 1941; Gohebydd Arbennig, "Teyrnged Caerwyn a Cynan", Y Cymro, 30 Awst 1941; t. xvi: Parhad "Teyrnged Caerwyn a Cynan"; T Gwynn Jones, "Marwolaeth Gwynfor", Y Faner, 27 Awst 1941; t. xvii: Parhad "Marwolaeth Gwynfor"; R. D. Owen, Penmaen-mawr, "Gwynfor", Yr Herald Cymraeg, 6 Hydref 1941; t. xviii: R. W[illiams] Parry, englyn: "Gwynfor Ddiragrith," Yr Herald Cymraeg, 6 Hydref 1941; T. G[wynn] J[ones], cerdd: "Yr Hen Actor (aeth o yn berffaith ieuanc)", Y Faner, 8 Hydref 1941; Cybi [Robert Evans], "Gwynfor y Bardd", Y Goleuad, 22 Hydref 1941; t. xix: [Dienw], [adroddiad o deyrnged William George, Cadeirydd Cyngor Sir Gaernarfon ar achlysur marwolaeth 'Gwynfor'], Caernarvon and Denbigh Herald, 21 Tachwedd 1941; 'Celt' [E. Morgan Humphreys], [teyrnged i 'Gwynfor'], Liverpool Daily Post, 5 Ionawr 1942; [Dienw], [darn yn trafod adroddiad blynyddol Llyfrgell Sir Gaernarfon], The Cambrian News, 28 Tachwedd,1941; [Mrs Madge Jones], "In Memoriam" am 'Gwynfor', 21 Awst 1942; [Dienw], "Local Associations", [darn yn trafod adfywiad llenyddol yn ardal Caernarfon], Caernarvon and Denbigh Herald, 28 Awst 1942; [Dienw], "Adre'n Myned ...", Y Cymro, Awst 1942; t. xx: R. W[illiams] Parry, cerdd: "Yn y Bore Bach", Baner ac Amserau Cymru, 4 Chwefror 1942; 'Celt' [E. Morgan Humphreys], [colofn yn trafod llenyddiaeth Gymraeg sy'n dwyn y teitl "The Advisory Council"], Liverpool Daily Post, 6 Gorffennaf 1942; t. xxi: [Dienw], "National Eisteddfod Council"; 'Gwynfor', "Cywydd Hiraeth"; t. xxii: 'Y Corn Gwlad', [trafod y gyfrol Straeon gan 'Gwynfor']; 'Euroswydd' [E. Prosser Rhys], [trafod uchelgais 'Gwynfor'], Y Faner, 13 Mehefin 1933; t. xiii: Dewi Meirion [Thomas Davies, Bangor], "Y Ddrama yng Nghymru"; 'Di Wifrydd', "Act Nodedig Gwynfor", Baner ac Amserau Cymru, 24 Ionawr 1935; [Dienw], darn o gywydd: "Dwylan Caernarvon," [mewn llawysgrifen]; t. xxiv: [Dienw], [erthygl yn trafod darllediad radio gan 'Gwynfor' ar hen faledi]; H. H., "Comedy's Repeat Performance", [d.d.]; 'Gwynfor', englyn: "Er Cof Cu am John Elias Williams", [d.d.]; t. xxv: 'Gwynfor', cerdd: "Erini (ar ddydd ei phriodas)", Y Rhedegydd, 12 Ionawr 1933; 'Gwynfor', dau englyn: "David Islwyn Jones, Abermaw", Y Goleuad, 11 Rhagfyr 1933; 'Gwynfor', cerdd: "Cymdogion (Er Cof am O. O. R. ac R. E. R.)", [d.d.], gweler hefyd rif 73 isod; 'Gwynfor', englyn [coffa i O. O. R. a gladdwyd ym mynwent Caeathro]; t. 1: [Dienw], "Dramatic Competition," [adroddiad ar berfformiad Cwmni'r Ddraig Goch yn perfformio "Beddau'r Proffwydi" yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, Awst 1915]; [Dienw], "Local Notes" [trafod llwyddiant Cwmni'r Ddraig Goch yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1915], North Wales Observer, Awst 1915; t. 2: W. J. J., "Comedi o'r Diwedd", Y Brython, 9 Mawrth 1916; [Dienw], "Y Ddeddf", Udgorn, 21 Chwefror 1917; t. 3: ESCA, "Huw Bennet," [d.d.]; [Dienw], [darn Saesneg yn canmol cyfraniad 'Gwynfor' i ddiwylliant tref Caernarfon], [d.d.]; [Dienw], "Beddau'r Proffwydi yn Rhos", Y Brython, 1915; t. 4: [Dienw], "Ymadawiad Mr Gwynn Jones", [1913]; [Dienw], [darn Saesneg yn trafod 'Gwynfor' y special constable], [d.d.]; 'Gwynfor', [cyfres o englynion a ddarllenwyd yng nghyfarfod ymadawol Mr Isaac Edwards], [d.d.]; 'Observer', "Carnarvon Actors, Criticism of their performance at Pwllheli", [d.d.]; t. 5: Parhad o "Carnarvon Actors"; t. 6: [Dienw], "Teip o Wir Gymro", [d.d.]; 'Gwynfor', englynion [ar ymadawiad y Parch John Owen M.A., Engedi Caernarfon], Y Brython, 11 Gorffennaf 1928; [Dienw], "Trem yn ôl, Perfformiad yng Nghaernarfon", [d.d.]; t. 7: 'Arvon', "Beyond the Veil", [trafod y ddrama "Tu hwnt i'r llen"], Liverpool Courier, [d.d.]; 'Gwynfor', cerdd: "Gadewch i ni wylo" [ar farwolaeth W. G. Williams, gynt o Gaernarfon, yn America], [d.d.]; t. 8: [Dienw], "Welsh Drama. Another successsful [sic] performance of Trem yn ôl", [d.d.]; t. 9: [Dienw], "The new nurse", [ar ffurf deialog], [d.d.]; [Dienw], "Drama Competition - programme changes for 1926 Eisteddfod", [d.d.]; t. 10: [Dienw], "Dramatic Performance at Caernarvon", Caernarvon and Denbigh Herald, 9 Ebrill 1926; [Dienw], "Gwynfor." South Wales News, 6 Awst 1926; [Dienw], "Gwynfor's Bereavement" [trafod marwolaeth mam 'Gwynfor'], North Wales Observer, 17 Mehefin 1929; t. 11: [Dienw], "Y Stori Fer", Y Darian, 11 Awst 1926; [Dienw], [trafod ymddangosiad llun 'Gwynfor' yn Nhrysorfa'r Plant], Baner ac Amserau Cymru, Hydref 1929; [Dienw], [adroddiad o angladd mam 'Gwynfor'], North Wales Observer, 17 Gorffennaf 1929; t. 12: [Dienw], "Revolution at Caernarvon", Caernarvon and Denbigh Herald, 13 Ebrill 1928; t. 13: Parhad o "Revolution at Caernarvon"; [Dienw], "Ein Cymwynaswyr, XII - Gwynfor", 1928; t. 14: [Dienw], D. T. H., "Manion o Goflyfr Cymro, The County Times", 25 Mai 1940; [Dienw], "Dramatic Performance at Carnarvon", Pasg 1917; t. 15: Parhad "Dramatic Performance at Carnarvon"; [Dienw], [trafod sefydlu cynghrair drama newydd], [d.d.]; [Dienw], "The Drama at Carnarvon"; ['Gwynfor'], [pedair llinell o gywydd yn dechrau: "Iach y bo'ch a gwyn eich byd ..."], [d.d.]; t. 16: [Dienw], "The Welsh Drama League", [d.d.]; t. 17: [Dienw], "Fair Play," [d.d.]; 'Foyer', "Welsh Players' Good Performance", Liverpool Echo, Gwanwyn 1940; D. R. L., [trafod darlith a draddodwyd gan 'Gwynfor' yng nghapel Liscard Road, Wallasey], Y Brython, Hydref 1935; t. 18: [Dienw], [trafod dramâu 'Gwynfor'], [d.d.]; [Dienw], [trafod cystadleuaeth yn y Fflint], Chester Chronicle, 16 Chwefror 1935; [Dienw], [trafod cyfraniad gan 'Gwynfor' i'r rhaglen radio 'Yr Egwyl Gymraeg' ar yr "Yr Hen Yswain, Love Jones Parry Madryn'], [d.d., ?1935]; [Dienw], [trafod rhai o ddramâu 'Gwynfor'], News Chronicle, Rhagfyr 1935; t. 19: [Dienw], "Pageantry instead of Sermons", News Chronicle, 13 Chwefror 1939; A correspondent, "Short Dramas", North Wales Observer, 27 Chwefror 1939; R, "Maes y Meillion", [d.d.]; t. 20: J. J. Williams, Bethesda, "Trem yn ôl", [d.d.]; t. 21: [Dienw], "New Welsh Comedy, 'Gwynfor's Contribution to Cymric Plays", [d.d.]; [Dienw], "Ffars Hen Ffasiwn", Y Faner, 24 Ionawr 1940; ['Euroswydd', E. Prosser Rhys], [llongyfarch 'Gwynfor' ar ei ddarlleniad o'i stori "Gelynion" ar y radio], [Y Faner], [d.d.]; t. 22: [Dienw], "Ysgol Ddrama, Peth Newydd Spon yng Ngholeg Harlech", Y Faner, Hydref 1928; 'Spectator', [adroddiad Saesneg ar ddrama 'Gwynfor', "Perthnasau", Llun y Pasg 1922], North Wales Observer, Pasg 1922; t. 23: Parhad o'r uchod; t. 24: [Dienw], "New Welsh Comedy", Liverpool Courier, 19 Ebrill 1922; [Dienw], "A New Welsh Comedy", Liverpool Daily Post, 4 Ebrill 1922; [Dienw], "A Welsh Comedy", [d.d.]; t. 25: Philip Morris, "Ei Facwyaid yn actio "Perthnasau" Gwynfor yng Nghaernarfon," Y Brython, 23 Tachwedd 1922; t. 26: Y Parch. Tywi Jones, "Perthnasau", Y Darian, 24 Awst 1922; [Dienw], "Dramatic Performance - New Welsh Comedy", North Wales Times, 30 Medi 1922; t. 27: Parhad o "Dramatic Performance - New Welsh Comedy"; t.

28: [Dienw], "A Dramatic Movement", Liverpool Daily Post, 2 Ebrill 1923; [Dienw], "Dramatic Performance, 'Trem yn ôl'", [d.d.]; t. 29: 'Cynfrig', "Y Ddrama 'Trem yn ôl' - Colled i Ddinbych a'r cylch", At Olygydd y North Wales Times, [d.d.]; Owen Hopkyn, "Drama yn y Capel", News Chronicle, Awst 1932; t. 30: M. T. W. [Morris T. Williams], "Cadw'r Traddodiad - Gwyl y Ddrama yng Nghaernarfon", [d.d.]; [Dienw], [sylwadau ar yr adrodd yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan 1932]; t. 31: A Correspondent, "Hywel Harris - Eisteddfod Prize Drama", Liverpool Daily Post, Mawrth 1932; t. 32: Parhad "Hywel Harris"; [Dienw], "A Dramatist's Wedding", [26 Gorffennaf 1922]; [Dienw], [colofn priodasau - nodi priodas 'Gwynfor' ynghyd ag englynion gan G. R. H., Bethel], North Wales Observer, 22 Gorffennaf 1922; [Dienw], [trafod y ddrama "Perthnasau"], Y Goleuad, 2 Awst 1922; t. 33: [Dienw], "Anrheg i Wynfor", Yr Herald Cymraeg, 20 Awst 1922; [Dienw], [nodyn yn trafod cwrs golff Caernarfon], Caernarvon and Denbigh Herald, 25 Awst 1922; [Dienw], "'Perthnasau' - Mr Llew. Berwydd Davies's brilliant production", [d.d.]; 'Gwynfor', [englyn coffa i wraig Dr Parry, Caernarfon], 1939; t. 34: [Dienw], "Cwmni y Ddraig Goch", Y Dinesydd, 6 Mehefin 1923; [Llun o 'Gwynfor' gyda Mr Daniel Matthews, Pontarddulais yn Eisteddfod yr Wyddgrug, 1923], Western Mail, Awst 1923; 'Gwynfor', cerdd: "Yr Hen Gapten" [er cof am y Capten Thomas Jones], Y Goleuad, Chwefror, 1932; t. 35: [Dienw], [trafod Cynan yn ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug, 1923], Baner ac Amserau Cymru, 16 Awst 1923; [Dienw], [trafod perfformiad o "Y Briodas Ddirgel" yng Nghaergybi], [d.d.]; t. 36: [Dienw], [trafod perfformiad o'r ddrama "Perthnasau" gan Gwmni Drama Illtyd, Llanelltud], Y Dydd, 22 Chwefror 1924; Llew Tegid, [cyfres o englynion coffa i'w fab Gwilym a laddwyd yn Fflandrys], "Deigryn Hiraeth," [d.d.]; t. 37: [Dienw], "Death of Mr H. Rees Jones", Caernarvon and Denbigh Herald, 9 Rhagfyr 1919; t. 38: 'Gwynfor', "Beth a Ddarlledir yng Nghymru?", Y Tyst, 1924; t. 39: Parhad "Beth a Ddarlledir yng Nghymru?"; [Dienw], "Mr Lloyd George in Wales - A Plea for Native Drama - The example of Ireland", Llun y Pasg 1924; t. 40: Parhad "Mr Lloyd George in Wales"; Gohebydd Arbennig, "Y Ddrama a'r Bala - Perfformiad Cwmni'r Ddraig Goch, Caernarfon", Y Seren, 1924; t. 41: Parhad "Y Ddrama a'r Bala"; t. 42: Ll. M., "Perfformiad y Gomedi 'Perthnasau'", Y Dydd, 28 Mawrth 1924; t. 43: [Dienw], "Welsh Drama - Performances at Caernarfon in Aid of Soldiers' Comforts", Liverpool Courier, 5 Mai 1917; [Dienw], "Dramatic Performance at Carnarvon - In Aid of Welsh Troops Fund", Caernarvon and Denbigh Herald, 5 Mai 1917; t. 44: [Dienw], "Y Nyrs Newydd", Yr Herald Cymraeg, [d.d.]; [Dienw], "Welsh Drama at Kinmel Camp", [d.d.]; [Dienw], "Gwyl Fai Beulah", Mai 1917; t. 45: Parhad "Gwyl Fai Beulah"; [Dienw], " 'Y Ddeddf' - Successful Dramatic Performance at Carnarvon", [d.d.]; t. 46: Parhad "'Y Ddeddf' - Successful Dramatic Performance at Carnarvon"; [Dienw], "The Drama at Carnarvon", Mai 1917; [Dienw], "Concert at Eryri Auxiliary Hospital", Carnarvon and Denbigh Herald, 9 Mawrth 1917; J. R. Tryfanwy, [englynion a luniwyd ganddo yn dilyn perfformiad gan Gwmni'r Ddraig Goch ym Mhorthmadog, gan gynnwys dau englyn i 'Gwynfor', [d.d.]; t. 47: [?'Gwynfor'], dau englyn, "Bob Jones" a "Y Criw i Gyd", 1 Chwefror 1918; [Dienw], [cyfeiriad at sgwrs gan 'Gwynfor' ar y radio yn dwyn y teitl "Competitive Drama and the Eisteddfod"], [?1930]; [Dienw], [cyfeiriad at rifyn Gaeaf 1930 Y Llenor (cyfrol IX) a gynhwysai stori fer "Gelynion" o waith 'Gwynfor', tt. 209-16]; [Dienw], [trafod ymadawiad Miss Anita Lloyd Jones a Miss Madge W. Jones, Porthmadog, i Ffrainc i glercio gyda'r Fyddin Brydeinig], The Cambrian News, 17 Awst 1917; [Dienw], [trafod dychweliad Miss Madge Jones adref ar wyliau], Caernarvon and Denbigh Herald, Ebrill 1918; Owen Hopkyn, "Cornel y Cymro - Enwogion Ein Gwlad - 'Gwynfor'," The Daily Express, 7 Ebrill 1930, gweler t. 53 isod; t. 48: [Dienw], "Gwynfor Married", 1 Awst 1922; [Dienw], [disgrifiad o briodas 'Gwynfor' ynghyd ag englynion gan G. R. H. a Meuryn], 1 Awst 1922; J. P., [englyn mewn llawysgrifen ar achlysur priodas 'Gwynfor' a Madge Jones]; t. 49: 'Gwynfor', [cerdd deipiedig i gyfarch 'Dic Rhos' ar ei ben blwydd yn ddeugain oed], Nadolig 1918, gweler hefyd rif 75 isod; t. 50: J. D. Davies, "Drama 'Perthnasau'", Y Rhedegydd, Mawrth 1924; [Dienw], "The Drama in North Wales - Formation of a New Society", [d.d.]; t. 51: Parhad "The Drama in North Wales - Formation of a New Society"; [Dienw], "Cwmni Drama Gwynfor", The Daily Express, 29 Mawrth 1930; t. 52: [Dienw], "Do Deacons Like Drama? - Interview with Gwynfor", Evening Express, 1 Mai 1930; 'Gwynfor', [darn o gywydd ar achlysur priodas Mr a Mrs Hugh Parry, Llanllyfni], 3 Chwefror 1940; t. 53: Owen Hopkyn, "Cornel y Cymro - Enwogion ein Gwlad - Gwynfor", The Daily Express, [7 Ebrill 1930], gweler t. 47 uchod; 'Gwynfor', cerdd: "Y Noddedigion", gweler hefyd rif 89 isod; 'Gwynfor', cerdd: "Y Fferyllydd (Er Cof)" [d.d.], gweler hefyd rif 86 isod; Llun o 'Gwynfor' gyda 'Glanogwen'; t. 54: [Dienw], "Revival of the National Drama in Wales", Daily Dispatch, 3 Tachwedd 1903; Llun: "Scene from Llewelyn Ein Llyw Olaf"; t. 55: Parhad "Revival of the National Drama in Wales"; t. 56: 'Gwynfor', cerdd: "We Were Seven", [teipiedig]; t. 57: 'Gwynfor', "Cychwyn y Ddrama yng Nghymru - ai pentrefwyr godre'r Wyddfa biau'r anrhydedd? - gwrthwynebiad cryf", Western Mail, 23 Awst 1932; t. 58: [Dienw], [trafod cyfraniad 'Gwynfor' i fyd y ddrama yng Nghymru], Baner ac Amserau Cymru, 8 Ionawr 1925; 'Gwynfor', englyn: "Y Parchedig Wyn Williams," [d.d]; t. 59: 'Di wifrydd', "Byd y Radio - Darlledwyr Gwych - Kate Roberts, Morgan Humphreys a Gwynfor", Y Faner, 24 Chwefror 1936; Anthropos, "Y Golofn Lenyddol - Camp yr Adroddwr", North Wales Times, 21 Chwefror 1925; t. 60: Parhad "Y Golofn lenyddol - Camp yr Adroddwr"; t. 61: Parhad "Y Golofn Lenyddol - Camp yr Adroddwr"; Anthropos, "Y Golofn Lenyddol - Yr Hen Lwybrau - Un o Blant y Gân," North Wales Times [d.d.]; t. 62: Parhad "Y Golofn Lenyddol - Yr Hen Lwybrau - Un o Blant y Gân"; t. 63: Daily Courier Correspondent, "The Golden Calf and Others - Welsh Playwright's New Comedy Produced", The Daily Courier, 14 Ebrill 1925; [Dienw], "'Y Llo Aur' - New Comedy at Carnarvon - Pavilion Performance", The Observer, 16 Ebrill 1925; t. 64: Parhad "'Y Llo Aur' - New Comedy at Carnarvon - Pavilion Performance"; [Dienw], "New Welsh Comedy - First Performance at Carnarvon - No Mention of Chapel or Deacons", The Caernarvon and Denbigh Herald, 17 Ebrill 1925; t. 65: Parhad "New Welsh Comedy - First Performance at Carnarvon - No Mention of Chapel or Deacons"; t. 66: 'Hafod', "Trem yn ôl," North Wales Observer, 25 Ionawr 1918; t. 67: Parhad o "Trem yn ôl"; [Dienw], "Cipwyr Llawryfon Cenedlaethol", [eitem ar enillwyr Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin, 1911]; t. 68: [Dienw], [trafod gwobr a dderbyniodd 'Gwynfor' am y ddrama orau yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin], Awst 1911; Ernest Rhys, [trafod y ddrama "Glyndwr" gan Beriah G[wynfe] Evans a luniwyd ar gyfer yr Arwisgo yng Nghaernarfon], 1911; [Dienw], [trafod y ddrama yng Nghymru], [Liverpool Daily] Post, 9 Tachwedd 1925; t. 69: Llun: 'Gwynfor', Y Parch. Tegla Davies, Dan Matthews a J. Eddie Parry yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, Awst 1925; Llun: Gwyn Fox, Caradog Evans a Mr Lewis, Maer Pwllheli, yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1925; t. 70: [Dienw], "Trem yn ôl - Gwynfor yn Rhoi Detholion Dramatig", Y Dinesydd, 22 Ionawr 1929; 'Waeth Pwy', "Hwyl yn 'Stumllyn - 'Noson Lawen' arall - Mon yn y cwmni", Y Clorianydd, Chwefror 1936; t. 71: Parhad "Hwyl yn 'Stumllyn - 'Noson Lawen' arall - Mon yn y cwmni"; Owen Hopcyn, "Llyfrau Cymraeg", [d.d.]; t. 72: [Dienw], "Y Ddrama yng Nghymru", Y Dydd, 25 Awst 1925; t. 73: [Dienw], "Ibsen in Welsh - Cast for Eisteddfod Drama", Liverpool Daily Post, 28 Tachwedd 1927; [Dienw], [trafod stori fer "Y Simpyl Idiot" gan 'Gwynfor' a oedd wedi ymddangos yn Y Llenor, Baner ac Amserau Cymru, 12 Gorffennaf 1927; t. 74: H. A. J., "Drama yng Nghymru - Gwynfor ym Manchester," Y Genedl Gymreig, 28 Chwefror 1927; t. 75: [Dienw], "Ibsen in Welsh - 'The Pretenders' - Audience of 10,000", South Wales News, 2 Awst 1927; t. 76: [Dienw], "Ibsen's 'Pretenders' - Lord Howard de Walden's hope", Western Mail, 2 Awst 1927; J. Eddie Parry, "Y Ddrama yng Nghaergybi", Y Faner, 9 Awst 1927; t. 77: Parhad "Y Ddrama yng Nghaergybi"; 'Gwynfor', [englyn i'r Parch. a Mrs Wyn Williams], Y Goleuad, Awst 1927; t. 78: 'Gwynfor', cerdd: "G. R. Hughes - Cofion", Y Genedl, 30 Ionawr 1928, gweler hefyd rif 76 isod; [Dienw], "Welsh Drama - Successful Performance at Caernarvon - Revolt of Youth against hypocrisy", Caernarvon and Denbigh Herald, 5 Ebrill 1929; t.

79: Parhad "Welsh Drama - Successful Performance at Caernarvon - Revolt of Youth against hypocrisy"; Llun: Cwmni Drama'r Ddraig Goch yn cyflwyno'r ddrama "Joan Danvers" ym Mhafiliwn Caernarfon, Llun y Pasg, 1929; [Dienw], "Gwynfor ar dlodi'n dramau", Y Brython, 7 Chwefror 1930; [Dienw], [trafod darllediad gan 'Gwynfor' am "Y Wesle Ola" ar y BBC], 31 Mehefin 1934; t. 80: [Dienw], "'Y Briodas Ddirgel' - Comedi Gwynfor - Perfformiad Caernarfon", [d.d.]; t. 81: [Dienw], [colofn yn trafod Straeon, cyfrol o waith 'Gwynfor', Y Goleuad, Rhagfyr 1932; [Dienw], [trafod Straeon, cyfrol o waith 'Gwynfor'], Daily News, 5 Chwefror 1932; 'Gwynfor', [englyn i G. Llewelyn Jones], Y Goleuad, 9 Tachwedd 1938; 'Di Wifrydd', "Byd y TDW - Gwynfor Eto - Perfformiad Radio Campus Arall", Y Faner, 26 Medi 1933; Lluniau: Y Parch. A. T. Jones, T. O. Jones a H. R. Phillips, a fu'n gysylltiedig â'r pasiant cenhadol yng Nghastell Caernarfon, Mehefin 1929; t. 82: 'Gwynfor', [penillion yn dwyn y teitl]: "The Late Mr Owen Jones, Caernarvon," North Wales Observer,11 Ebrill 1935; [Dienw], "Gorsedd Meeting - Early Morning Ceremony on Hill Top", [d.d.]; E. V. S. Jones, englyn: "I'r Ddau Hoff," 1937. Teipiedig; t. 83: [Dienw], "Clever Acting in 'Stormy Weather' - Welsh Audiences and Love Scenes", [d.d.]; [Dienw], "Cychwyn y Ddrama - Atgofion un o'r Cwmni," Western Mail, Awst 1932; J. J. Evans (Dinbych), "A Oes Eraill yn Fyw?", [d.d.]; 'Eurosrwydd' [E. Prosser Rhys], [trafod 'Gwynfor' y llyfrgellydd], Y Faner, [d.d.]; Clawr ôl: [Dienw], [trafod dramâu Cymraeg], Y Faner, 11 Hydref 1939; E. L. Harlow, "Early Days of Welsh Drama - Prince dressed as Lifeguardsman - Chapel Plays", Evening Express, 2 Mai 1930.

Albwm o dorion. Clawr blaen: Cyfres o englynion: 'Anerchiad i Eben Fardd'; Dau englyn beddargraff, un ar fedd Jane a ...,

Albwm o dorion. Clawr blaen: Cyfres o englynion: 'Anerchiad i Eben Fardd'; Dau englyn beddargraff, un ar fedd Jane a Griffith Owen o Fodnithoedd [?c. 1818] a'r llall ar fedd Dorothy, gwraig Owen Owen, Bodnithoedd [c. 1866]; f. 1r: Ioan o Fôn wedi darganfod 'Cyfarchiad' Owen Owen i'r gymdeithas er cosbi lladron yn Llyn ac Eifionydd, 'Na ladrata'; Englynion a anfonodd Owen Owen mewn llythyr at ei frawd, Mr Griffith Owen, Fox Hall, gerllaw Dinbych, i ddweud ei fod am ymweld ag ef; Beddargraff gan Owen Owen i Mr Griffith Owen, Fox Hall, ym mynwent Eglwys Henllan, sir Ddinbych [c. 1853]; f. 1v: Englyn: 'O bodded hen Babyddiaeth - eofn-dyb ...' di-enw; Englyn: 'Tra'n hwylio drwy fôr heli - allweddau ...' gan yr adeiladydd Mr Parry i'r achlysur o enwi'r llong 'Menai' (anghyflawn); Pennill 'Drigolion y byd! Cydseiniwn mae'n bryd ...' (darn o garol Nadolig) gan Owen Owen [c. 1842]; f. 2r: Englyn: 'Y Dyfrgi'; Englyn 'I'r Llwynog' [c. 1849]; Englyn heb benawd: 'Tamaid gan Mrs Thomas, - wraig annwyl ...'; Cyfres o englynion: 'Wele, hai! ow Talhaiarn, - annoeth ben ...' [c. 1849] o waith Owen Owen; f. 2v: Llinell: 'Byr ddyddiau, dim braidd oeddynt' gan Dewi Wyn; Cerdd: 'Tra'n ymson uwch ei chysegredig lwch ...' [c. 1867]; Cyfres o englynion: 'Lle i greadur llygredig - i dd'od ...'. Di-deitl yma ond ceir yn dwyn y teitl 'Y Bibl' yn y fersiwn cyhoeddedig. Tri phennill ychwanegol ar ddechrau'r fersiwn cyhoeddedig; 'Carol Nadolig' eto [c. 1842]; f. 3r-v: Awdl: 'Cywir i mi, y car mwyn,- a gofid ...'. Di-deitl yma, ond ceir y teitl 'Lleyn wedi marw yn Llefaru Eto,' yn y fersiwn cyhoeddedig [c. 1841]; f. 3v: Englyn 'I'r Brithyll', Llais y Wlad (9 Awst 1878); Dau englyn a gyfansoddwyd wedi edrych ar gladdu Mrs Mary Jones, Pen-y-Bont, Llyn, ym mynwent Mellteyrn: 'Yma rhoddwyd Mair heddyw, - ty 'nghof ...' [c. 1851]; Englyn a gyfansoddwyd ar gais y torrwr bedd-meini, John Daniel Michael i roi ar faen ei fedd ym mynwent Aberdaron: 'Athronydd llythrenau - cywir fu ...'; Englyn: 'Y Daran'; f. 4r: Mydryddiad o Weddi'r Arglwydd; Pennill ar gadwraeth y Saboth; f. 5r: Dau englyn a gyfansoddwyd ar ddyfodiad etifedd Glynllifon i'w oed: 'Aer glwys a anwyd i'r Glyn, - newyddlys ...'; Cerdd: fersiwn arall o 'Lleyn Wedi Marw yn Llefaru Eto', [c. 1841]; Cyfres o englynion i'r 'Winwydden'; Cyfres o englynion a gyfansoddwyd wedi ymweliad Hugh Pugh un bore â Bodnithoedd. Chwech o englynion ar ffurf ymddiddan rhwng y bardd â'r petris; 'Braw o odreu Bro Idris,- O gwyliwch! ...' [c. 1849]; f. 6r: Penillion 'Myfyrdod', uwch bedd y Parch. James Hughes a'i briod ym mynwent Mellteyrn: 'Iago a Mair ydoedd o gymeriadau ...' [c. 1852]; Englyn a luniwyd ar gais ymwelydd o Dremadog 'Cofiwch, a byddwch heb wad - yn sobr ...'; f. 7r: Cyfarchiad i 'Gymdeithas Amaethyddol Lleyn i ddal Lladron', 'Ha wyr! yn frodyr un fryd ...'; f. 8r: Cyfres o englynion: 'Ah! Rhufain erfawr ei rhyfyg - sydd am ...'. [Teitl y fersiwn cyhoeddedig yw 'Y Babaeth'.] Englyn y bwriadwyd ei baentio uwch drws gwesty Sarn Fawr, Mellteyrn; 'Iach odiaeth, os sychedi,- yw cwrw da ...'; Englyn am 'Arwydd y Llew Coch' ym Mhwllheli, 'Lliw coch ar y Llew cuchiog, - dy elyn ...'; Englynion: 'I'r Wenynen' [c. 1851]; f. 9r: Englynion ar ddydd priodas Mr Evan Owen, Bodnithoedd a Miss Mary Jones, y Faerdref. Teitl y fersiwn cyhoeddedig yw 'Priodas Mab y Prydydd' [c. 1842]; Cwpled: 'Bum fyw i farw, o angeuol glwy' / Bum farw i fyw, heb ofni marw mwy.'; Englyn: 'I'r Morgrugyn' [c. 1855]; Englyn: 'I'r Enfys'; Englynion ar y bwriad i sefydlu cymdeithas Cymedroldeb yn ardal Mellteyrn; f. 9v: Penillion: 'Cariad Crist' gan Robert ap Gwilym Ddu [?1784]; 'Englyn Darluniadol' a gyfansoddwyd gan Robert ap Gwilym Ddu pan ar fin cael ei ben blwydd yn bedwar ugain [c. 1846]; Cerdd: 'Heddyw ac Yfory' gan Robert Williams, [?1819]; f. 10r: Awdl: 'Lleyn Wedi Marw yn Llefaru Eto', [c. 1841]; Englyn: 'Ar Fedd Cerfiwr Beddlechau', (cf. f. 3v uchod); Englyn di-deitl; 'Ni thal i'r Llwyrymatalwyr - gostus ...'; f. 10v: Englyn: 'I'r Awrlais'; Pennill: 'O deffro di, bechadur swrth ...'. Yn y fersiwn cyhoeddedig mae'n dwyn y teitl 'Cymhelliad Effro ar Bechadur'; Englyn 'Ar y Babaeth'; Cyfres o englynion a ysgrifennwyd ar glawr y Beibl. Yn y fersiwn cyhoeddedig mae'n dwyn y teitl 'Y Bibl'; f. 11v: Beirnadiaethau Eisteddfod Sarn-Mellteyrn 1883 am 'Marwnadau Er Coffadwraeth am Mr & Mrs Owen (Owain Lleyn), Bodnithoedd'; f. 12r: Tri englyn byrfyfyr: 'Alltud Eifion' [c. 1891]; Pennill: 'Hiraeth am Adferiad Iechyd' gan R. Jones; 'Nodion Gwasgaredig' (o gasgliad Alltud Eifion) [c. 1843]; 'Pan ofynwyd i Meiriadog, tua 1843, a oedd ef yn hoff o "uwd a llaeth," efe a atebodd yn yr englyn ..."Uwd i mi ydyw maeth - goraf oll ..."; f. 13r: Erthygl: ' Tremiant ar Nwyfre.'; Cyfres o englynion sydd yn rhan o'r gerdd a ysgrifennwyd wedi ymweliad Hugh Pugh â Bodnithoedd, tra ar ei daith i Feillionydd i adara; f. 16r: Erthygl: 'Ein Hamgueddfa Lenyddol' gan Ap Morus [c. 1878]; Clawr ôl: Cerdd 'Dymuniad Fy Nghalon' gan Ap Morus, [Griffith Morris Williams, 1840-96]; Englyn: 'Y Gelyn Diweddaf' gan Alltud Eifion, [Robert Isaac Jones, 1836-1905].

Albwm yn cynnwys cant o gardiau post, 1903-31, a ffotograffau teuluol, tua deugain o'r cardiau wedi eu hanfon gan W ...,

Albwm yn cynnwys cant o gardiau post, 1903-31, a ffotograffau teuluol, tua deugain o'r cardiau wedi eu hanfon gan W. J. Gruffydd at aelodau o'i deulu ym Methel, ger Caernarfon, tra'r gweddill wedi eu hanfon at W. J. Gruffydd, gan gynnwys rhai yn llaw R. W[illiams] P[arry], Rhys J. Huws, [T.] Gwynn [Jones], [R.] Silyn [Roberts] a [J.] Dyfnallt [Owen].

Canlyniadau 1441 i 1460 o 839675