Dangos 59614 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

42 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Gohebiaeth gyffredinol

Llythyrau, 1924-1996, gan gynnwys rhai a anfonwyd at Erfyl Fychan a'i fab Geraint Vaughan-Jones, yn ymwneud â'u dyletswyddau proffesiynol, ynghyd â phersonalia.

Cofnodion

Mae'r ffeil yn cynnwys agendau a chofnodion Pwyllgor Rheoli Cronfa Apêl J. Saunders Lewis o'r cyfarfod cyntaf ar 3 Fehefin 1989 hyd 30 Ebrill 1994, a chopi o gofnodion yr unfed gyfarfod ar bymtheg ar 17 Tachwedd 2001; ynghyd â chyfrol o gofnodion Pwyllgor Sir Gaernarfon o'r Gronfa, o'r cyfarfod cyntaf ar 10 Mai 1992 hyd at y pedwerydd cyfarfod ar ddeg ar 2 Gorffennaf 1995.

Cyfieithiadau cerddorol

Mae'r gyfres yn cynnwys cyfieithiadau Cymraeg yn bennaf, 1987-2001, o ganeuon gan John Stoddart ynghyd â gohebiaeth berthnasol.

Dyddiaduron

Mae'r gyfres yn cynnwys dyddiaduron sy'n rhoi manylion am weithgareddau beunyddiol, iechyd a theimladau'r awdur ynghyd â chyfeiriadau at fusnes Capeli Chatham Street, Hope Street a Canning Street a digwyddiadau cyfoes yn Lerpwl, Cymru a'r byd.

Chatham Street Chapel (Liverpool, England)

Cyfrolau amrywiol

Pedair cyfrol o ddeunydd amrywiol, ond gan fwyaf o doriadau papur newydd. Mae tair cyfrol yn cynnwys toriadau o gerddi ar ben nodiadau eraill - dau yn cynnwys yr enw Evan Davies, Pentrebach, ac un yn cynnwys yr enw Annie Davies, Abercanaid, heb eu dyddio. Mae'r bedwaredd gyfrol yn cynnwys cyfrifon Miss E. E. Lewis a Margaret Lewis, Mr David H. Lewis, ac ystâd Plasmarl, 1891-1903, a thoriadau allan o'r Darian, 1916, a thoriadau yn ymwneud â choginio, heb eu dyddio.

Gohebiaeth etholaethol

Gohebiaeth etholaethol, 1990-2000, gan gynnwys llythyrau oddi wrth etholwyr Ieuan Wyn Jones, copïau o'i atebion, ynghyd â nodiadau ar gyfweliadau rhyngddo â'r unigolion dan sylw.

Papurau llenyddol

Papurau yn cynnwys cerddi cynnar Rhiannon Davies Jones , llythyrau a chopi o'i thraethawd MA (1975) ar ddychan mewn llenyddiaeth Gymraeg.

Dyddiaduron

Dyddiaduron, 1907-1967, yn ymwneud â dyletswyddau Tegla Davies fel gweinidog yn bennaf.

Cofnodion ariannol

Mae'r gyfres yn cynnwys cofnodion ariannol amrywiol, 1864-1931, sef tri chyfrol yn nodi casgliadau tuag at y weinidogaeth, 1887-1931, a llyfrau cyfrifon eraill, 1864-1931.

Capel Hill's Lane (Shrewsbury, England)

Gweithiau llenyddol

Mae'r gyfres yn cynnwys papurau llenyddol Carys Bell, 1957-2001, yn cynnwys drafftiau o'i nofelau, sef teipysgrifau a llyfrau nodiadau; cyfraniadau i weithiau eraill; erthyglau Cymraeg a Saesneg ar gyfer y wasg, a sgriptiau radio; ynghyd â gohebiaeth berthnasol.

Papurau Cassie Simon yn cynnwys rhaglenni cyngherddau, 1932-1986; posteri, 1947-1958; torion papur newydd, 1933-1974; beirniadaethau a thystysgrifau eisteddfodol, 1947-1956; ynghyd ...,

Papurau Cassie Simon yn cynnwys rhaglenni cyngherddau, 1932-1986; posteri, 1947-1958; torion papur newydd, 1933-1974; beirniadaethau a thystysgrifau eisteddfodol, 1947-1956; ynghyd â gohebiaeth a phapurau amrywiol, 1957-1989. Mae'r rhan helaethaf o'r deunydd yn ymwneud naill ai â Chôr Plant Cwmdwr neu â disgyblion a hyfforddid gan Cassie Simon. Trosglwyddwyd llyfrau a chylchgronau i Adran y Llyfrau Printiedig, tua 80 o ffotograffau a dau sleid i'r Adran Darluniau a Mapiau a 410 o recordiau, 6 cast a 5 tâp i'r Casgliad Clyweled.

Canlyniadau 161 i 180 o 59614