Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1813-1983 (crynhowyd [1940au]-[1983]) / (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.212 metrau ciwbig (22 bocs, 1 cyfrol)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ganwyd y Parch. Ddr Gomer Morgan Roberts (1904-1993) yn Llandybïe, sir Gaerfyrddin ar 3 Ionawr 1904. Yn dair ar ddeg oed, dechreuodd weithio fel glöwr cyn ennill ysgoloriaeth y WEA i Goleg Fircroft, rhan o Golegau Selly Oak, Birmingham, pan oedd yn bedair ar bymtheg. Aeth ymlaen i Goleg Trefeca yn ddiweddarach. Yn 1930 cafodd ei ordeinio'n weinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru, gan weinidogaethu yng Nghlydach, Cwm Tawe, 1930-1939, Pont-rhyd-y-fen, 1939-1958, ac wedyn yn Llandudoch ger Aberteifi nes iddo ymddeol yn 1968. Symudodd wedyn i Landybïe ger Rhydaman. Yn 1969 cafodd ei ethol yn Llywydd Cyfundeb De Cymru and yn 1973 yn Llywydd y Cynulliad Cyffredinol. Derbyniodd nifer fawr o anrhydeddau gan yr eglwys, ac yn 1982 cyhoeddodd ei gydweithwyr yn y Gymdeithas Hanes gasgliad o ysgrifau er clod iddo dan y teitl Gwanwyn Duw. Mae hwn yn cynnwys llyfryddiaeth lawn o'i weithiau cyhoeddedig niferus. Gwnaeth Gomer M. Roberts gyfraniad pwysig i astudiaeth ar ddiwygiad Methodistaidd y deunawfed ganrif yng Nghymru, yn cynnwys cyhoeddi dwy gyfrol o fywgraffiad William Williams, Pantycelyn. Yn ogystal bu'n gwasanaethu am bron deng mlynedd ar hugain fel golygydd Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd ac yn gyfrifol am y gyfres Trevecka Records a gyhoeddwyd gan yr un gymdeithas yn y 1950au a'r 1960au. At ei gilydd, roedd yn awdur tua deugain o lyfrau a nifer enfawr o erthyglau mewn cylchgronau. Bu farw yng Nglanaman ar 15 Mawrth 1993.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Y Parch. Gomer M. Roberts; Cymynrodd; Mai 1993
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae'r casgliad yn cynnwys: dyddiaduron, 1946-1983; papurau ymchwil, yn deillio yn bennaf o ymchwil Gomer M. Roberts i Hanes Methodistiaeth Galfinaidd yng Nghymru, ac yn cynnwys yn ogystal adysgrifau o ddeunydd ymchwil, drafftiau erthyglau etc.; copïau o gyhoeddiadau, 1924-1976, naill ai wedi eu hysgrifennu neu eu golygu gan Gomer M. Roberts neu'n cynnwys cyfraniadau ganddo, neu rifynnau o gylchgronau yn cynnwys gweithiau neu gerddi ganddo; gwaith gan awduron eraill, 1911-1966, gyda nodiadau, sylwadau a chywiriadau yn llaw Gomer M. Roberts; cyhoeddiadau, 1916-1976, Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd; llyfrynnau,1865-1960, yn cynnwys erthyglau gan nifer fawr o awduron allan o wahanol gylchgronau; cyfrolau o dorion o'r wasg, 1931-1937; gweithiau cyhoeddedig a theipysgrif,1950-1982, a gyflwynwyd i Gomer M. Roberts gan eu hawduron; eitemau printiedig amrywiol, 1876-1944; sgriptiau radio ar gyfer rhaglenni i'w darlledu i ysgolion Cymru,194-1967; llyfrau lloffion o ysgrifau o waith Gomer M. Roberts, 1859-1944; a phapurau amrywiol,1924-1982 = The collection comprises: diaries, 1946-1983; research papers, mainly deriving from Gomer M. Roberts's researches into the history of Calvinistic Methodism in Wales, and also including transcripts of research materials, drafts of writings etc.; copies of published works, 1924-1976, either written or edited by Gomer M. Roberts or else containing contributions by him, or issues of journals containing writings or poems written by him; works by other authors, 1911-1966, bearing notes, observations and corrections in the hand of Gomer M. Roberts; publications, 1916-1976, of the Historical Society of the Calvinistic Methodists; booklets, 1865-1960, including articles by a large number of authors taken from various journals; volumes of press cuttings, 1931-1937; published and typescript works, 1950-1982, presented to Gomer M. Roberts by their authors; miscellaneous printed matter, 1876-1944; radio scripts for programmes to be broadcast to Welsh schools, 1964-1967; scrapbooks of material written by Gomer M. Roberts, 1859-1944; and miscellaneous papers, 1924-1982.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd fel a ganlyn: dyddiaduron personol; papurau ymchwil; deunydd cyhoeddedig: ysgrifau, hanes capeli, erthyglau a cherddi a gyhoeddwyd mewn cylchgronau, ysgrifau o waith awduron eraill, a llyfrynnau yn cynnwys erthyglau o waith awduron eraill allan o wahanol gylchgronau; sgriptiau radio; llyfrau lloffion; ac amrywiol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Mân Restri a Chrynodebau 1994, tt. 45-53, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir mynediad i'r catalog ar lein.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae'r papurau yn rhagddyddio oes Gomer M. Roberts.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Project identifier
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Mai 2003.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Annette Strauch i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonllau canlynol wrth lunio'r rhestr: ysgrif goffa i Gomer M. Roberts gan y Parch. Dr. D. Ben Rees a gyhoeddwyd yn The Independent, 15 Ebrill 1993; LlGC, Mân Restri a Chrynodebau 1994, tt. 45-53;