Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 839266 canlyniad

Disgrifiad archifol
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Thomas [I.] Ellis, Aberystwyth,

Mae'n bwriadu ysgrifennu eto at Hughes Parry. Mae'n disgwyl gair oddi wrth Clement Davies ynglyn â'r ddirprwyaeth. Mae'r counterblast bron yn barod ac fe ddaw erbyn diwedd yr wythnos. Yngl?n â'r penodiad yn Llanbedr, cafodd ar ddeall fod yr Esgob Prosser yn awyddus i sicrhau rhywun ar y staff a allai hyfforddi'r myfyrwyr ar gyfer cymryd gwasanaethau yn Gymraeg. Dyna paham y cyfyngwyd y gadair. Mae pedwar o'r athrawon urddedig presennol yn Gymry da, ac yn ôl y si, fe gynigir y gadair i'r Canon W. H. Harris. Nid oes gwir obaith i Lanbedr ond fel Coleg Diwinyddol. Gyda phenodiad Harris efallai y daw hynny i ben cyn hir er gwaethaf ymdrechion y Prifathro Archdall. Disgwylir R. T. J[enkins] i aros yna yr wythnos ganlynol.

Thomas H. Jones,

Ysgol Tudweiliog. Llythyr yn cyflwyno ei hun a hanes ei fywyd a'i yrfa er pan yn blentyn ysgol.

Thomas H. Jones,

Ysgol Tudweiliog. Egluro pam nad ysgrifennodd yng nghynt. Hanes yr ysgol yn arbennig ffoadur wyth oed o Lerpwl o'r enw Peter Duffy. Trafod amryw o lyfrau a ddarllenodd yn arbennig The Importance of Living gan Lin Yutang. Gofyn am englyn gan Carneddog. Mân sylwadau ar y tywydd a natur.

Tho[ma]s H. Davies, Port Said,

Diolch i W. J. Gruffydd am y wledd a gafodd o ddarllen cofiant O. M. Edwards. Yr oedd nain Thomas H. Davies yn frodor o Lanuwchllyn. Yn amser ei nain defnyddid math cynnar o Welsh Not yn Ysgol y Llan, sef rhwng 1858 ac 1863. 'Y pryd hwnnw, nid am eu gyddfau y rhoesid y darn pren, ond yng nghegau'r plant. Nis gwn pa faint oedd hyd y darn pren, ond rhoesid ef yn nennol yn eu cegau am siarad Cymraeg'.

Thomas Gwynn Jones: Cofiant,

Papurau ymchwil a ffynonellau gwreiddiol, 1913-1984, yn ymwneud â chyfrol David Jenkins, Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Dinbych, 1973), gan gynnwys cerdyn, 1949, oddi wrth weddw T. Gwynn Jones yn diolch i Dr David Jenkins am ei eiriau o gydymdeimlad; rhannau o lawysgrif y gwaith; dyfyniadau o ohebiaeth ac erthyglau; llungopïau o lawysgrifau Bangor; nodiadau gan Francis Wynn Jones, mab yng nghyfraith T. Gwynn Jones; ynghyd â chopi o anerchiad y Parchedig W. Ffowc Evans ar achlysur dadorchuddio'r dabled goffa i T. Gwynn Jones ym Metws-yn-Rhos, 1958. Ceir hefyd anerchiad, Dr David Jenkins, [1971], adeg dathlu canmlwyddiant geni T. Gwynn Jones; a llythyrau, 1972 a 1984, oddi wrth Dr Iorwerth Hughes Jones. Ymhlith y deunydd gwreiddiol mae cerddi 'Y Dynged', 1941-1942, yn llaw T. Gwynn Jones, gyda llythyr, 1941, oddi wrtho at 'Ap Talfan' [Aneirin Talfan Davies] a dau lythyr, 1971 a 1972, at Dr David Jenkins oddi wrth Aneirin Talfan Davies. Bwriadwyd cynnwys y cerddi mewn blodeugerdd o gerddi modern ond ni ddigwyddodd hyn. Ceir llythyr hefyd, [19]13, oddi wrth Ca[dwala]dr Jones, Cwm Penmachno, at ei nai T. Gwynn Jones ac ysgrif ar y llenor gan Silyn Roberts, [cyn 1930].

Davies, Aneirin Talfan.

Thomas Davies,

Y Garreg Wen, Gorseinon. Ymddiheuro am beidio ag anfon digon o stampiau. Mae'n dda ganddo weld enw ei frawd yn Blodau'r Gynghanedd.

Canlyniadau 6201 i 6220 o 839266