Dangos 839147 canlyniad

Disgrifiad archifol
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

"A ddioddefws a orfu" ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Aberafan, 1932. Beirniaid: 'Wil Ifan', [Y Parch. William Evans, (1882-1968)]; 'Cynan', [Albert ...,

"A ddioddefws a orfu" ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Aberafan, 1932. Beirniaid: 'Wil Ifan', [Y Parch. William Evans, (1882-1968)]; 'Cynan', [Albert Evans-Jones, (1895-1970)]; a Caradog Prichard. Ffugenw: 'O'r Ffwrnais'. Nodyn: "Ail Wobr. Cyntaf ym marn Cynan". Gweler hefyd rif 263 isod. Printiedig.

[A. E. Jones] 'Cynan', Porthaethwy,

Yr oedd yn ddrwg ganddo glywed fod W. J. Gruffydd yn anhwylus ym Methel. Mae'n esbonio sut yr aethpwyd ymlaen gyda beirniadaeth y Goron er na dderbyniwyd beirniadaeth W. J. Gruffydd. Er pob ymdrech i gysylltu â W. J. Gruffydd methwyd â dod o hyd iddo. Gan fod Prosser Rhys a Chynan yn gytûn mai'r gwaith yn dwyn y ffugenw 'Aneirin' [Herman Jones, Deiniolen] oedd y gorau, fe aethpwyd ati yn unol â'r rheol ynghylch cytundeb dau feirniad, i gynnwys y beirniadaethau yn y gyfrol. Mae'n ofid nad yw W. J. Gruffydd yn cytuno ond nid yw'r ffaith honno yn newid dim ar farn Cynan.

[A. E. Jones] 'Cynan', Porthaethwy,

Y mae Cynan yn falch mai ato ef yr anfonodd W. J. Gruffydd ei brotest yn erbyn y rhan honedig a gymerodd yr Archdderwydd Crwys mewn seremoni yn Wessex pan wisgwyd tarw â garlantau barddol. Mae Cynan yn pwysleisio nad oedd a wnelo'r Orsedd ddim â'r peth. Yr adroddiad yn yr Evening News oedd y peth cyntaf a glywodd ef am y digwyddiad. Yr oedd hawl gan Crwys i dderbyn gwahoddiad personol i fynd yno ond nid oedd ganddo'r hawl i fynd â gwisg a theyrnwialen Archdderwydd Cymru o'r Amgueddfa Genedlaethol heb awdurdod Bwrdd yr Orsedd. Pan dderbyniodd Cynan y toriad gan gyd-swyddog ysgrifennodd at Crwys [ceir copi o'r llythyr yn atodiad i'r llythyr hwn] ond cadarnhau iddo fod yno a wnaeth Crwys yn hytrach na gwadu. Dywedodd na chymerodd ran yn nefod addurno'r tarw ac y bu iddo ymgynghori â'r Arwyddfardd cyn mynd. Yr oedd yr Arwyddfardd dan yr argraff mai dros Gyngor yr Eisteddfod yr âi Crwys ac nid fel unigolyn. Bwriada'r Arwyddfardd ysgrifennu i egluro hyn i Fwrdd yr Orsedd a chael Crwys i ysgrifennu llythyr o ymddiheuriad. Teimla Cynan na ddylai W. J. Gruffydd grybwyll y mater yn Y Llenor. Pwyllgor Gwaith Cyngor yr Eisteddfod yw'r lle priodol i wneud hynny.

[A. E. Jones], 'Cynan', Porthaethwy,

Cafodd ei dristáu o ddarllen yn Y Llenor fod W. J. Gruffydd yn bygwth ymddeol o'r olygyddiaeth. Nid oes pynciau pwysicach na'r Eisteddfod a'r iaith yng ngolwg Cynan ac y mae'n annog W. J. Gruffydd i gadw ymlaen am ddwy flynedd ar bymtheg arall. Mae'n protestio yn erbyn tri chamosodiad a wneir gan W. J. Gruffydd yn ei nodiadau golygyddol [Y Llenor XVII (1938), tt. 1929-31]. Y mae'r cyhuddiadau i gyd yn ymwneud â dewis aelodau o'r Orsedd i feirniadu'r prif gystadleuthau yn yr Eisteddfod. Teimla y bydd raid iddo godi'r mater yn y Pwyllgor Gwaith brynhawn Gwener, onibai i W. J. Gruffydd fod yn barod i gywiro'r paragraff tramgwyddus.

[A. E. Jones], 'Cynan', Porthaethwy,

Yn dilyn y drafodaeth yn y Pwyllgor Gwaith y mae'n parhau i esbonio'r rheolau ynghylch beirniadu ac aelodau'r Orsedd yn yr Eisteddfod. Y mae'n amheus fod yna gorff mawr o feirdd cadeiriol a choronog sydd heb fod yn perthyn i'r Orsedd.

A. E. W. Hazel, Coleg yr Iesu, Rhydychen,

Mynegi ei siom am na chafodd W. J. Gruffydd ei benodi'n brifathro Coleg y Brifysgol Caerdydd. Cafodd orchymyn i gyfarfod ag Arolygwr y Bwrdd Addysg yn y Bont-faen y dydd Mawrth canlynol. Gan ei bod yn anghyfleus iddo fynd yno y mae'n hyderu y gall W. J. Gruffydd fynd yno i ddiogelu buddiannau'r ysgol.

A. E. W. Hazel, Coleg yr Iesu, Rhydychen,

Mae'n dymuno'n dda i W. J. Gruffydd yn is-etholiad Prifysgol Cymru. Mae'n amgau gwybodaeth am Neville L. Evans sy'n ei wrthwynebu yn yr etholiad gan ei fod yn gynfyfyriwr o Goleg yr Iesu. Y mae ei weithred yn gwrthwynebu W. J. Gruffydd yn haerllugrwydd o'r mwyaf.

A. E. W. Hazel, Coleg yr Iesu, Rhydychen,

Mae'n diolch i W. J. Gruffydd am gopi o adroddiad Hansard ar ei araith yngl?n â'r Ddeddf Addysg. Mae'n hyderu y caiff y bobl iawn eu penodi i'r Cyngor Ymgynghorol Cymreig. Mae'n ymosod ar gefnogaeth W. J. Gruffydd i ymgais y Catholoigion i gael cefnogaeth y trethdalwyr i'w hysgolion. Nid oes achos gan W. J. Gruffydd i ofni'r Catholigion gan nad oes llawer ohonynt yn etholwyr posibl iddo.

A. E. W. Hazel, Coleg yr Iesu, Rhydychen,

Mae'n cytuno bod angen help ariannol ar ysgolion arbrofol ond byddai'r gwelliant dan sylw yn gwneud dim llai na thalu am addysg 'uchel-enwadol'. Mae cynllun W. J. Gruffydd i gael arian i'r ysgolion arbrofol cystal â llosgi ty er mwyn rhostio mochyn. Mae'n rhyfeddu bod W. J. Gruffydd wedi cael ei ddal yn y fagl Gatholig hon.

Canlyniadau 241 i 260 o 839147