Showing 2060 results

Archival description
Only top-level descriptions Fonds
Print preview View:

Papurau Syr Alun Talfan Davies

  • GB 0210 ALUIES
  • Fonds
  • 1938-1999

Gohebiaeth a phapurau eraill yn ymwneud â Llyfrau'r Dryw/Cristopher Davies (Cyhoeddwyr) Cyf, Landybïe, 1938-1972, yn cynnwys llythyrau at, ac oddi wrth lawer o lenorion pennaf Cymru; gohebiaeth yn ymwneud ag amrywiaeth o bynciau a sefydliadau gan gynnwys y diwydiant cyhoeddi, yr Eisteddfod Genedlaethol, y Blaid Ryddfrydol, y Swyddfa Gymreig, Prifysgol Cymru, y BBC a HTV, Urdd Gobaith Cymru, Cronfa Trychineb Aberfan a Banc Brenhinol Cymru, 1943-1999; papurau cyfreithiol, 1964-1972; memoranda a chylchlythyrau, 1941-1986; a ffeiliau amrywiol yn cynnwys papurau personol, darlithoedd, torion papur newydd, ffotograffau a deunydd printiedig,1938-1987. = Correspondence and other papers concerning Llyfrau'r Dryw/Christopher Davies (Publishers) Ltd, Llandybïe, 1938-1972, including letters to and from many significant Welsh literary figures; correspondence concerning a variety of subjects and institutions including the publishing industry, the National Eisteddfod, the Liberal Party, the Welsh Office, the University of Wales, the BBC and HTV, Urdd Gobaith Cymru, the Aberfan Disaster Fund and the Royal Bank of Wales, 1943-1999; legal papers, 1964-1972; memoranda and circulars, 1941-1986; and miscellaneous files including personal papers, lectures, newspaper cuttings, photographs and printed matter, 1938-1987.

Davies, Alun Talfan, 1913-2000

Papurau Idwal Jones

  • GB 0210 IDWNES
  • Fonds
  • 1915-1957

Llythyrau, 1915-1936, yn bennaf at ei deulu tra bu'n gwasanaethu yn y fyddin, 1915-1919; teipysgrifau a llawysgrifau o'i ddramâu a sgriptiau radio, 1920-1936, a thorion papur newydd o adolygiadau, 1926-1940; barddoniaeth, caneuon, parodïau, rhyddiaith a deunydd arall, 1924-1932; copi teipysgrif o 'Ann y Wernolau',drama gan ei fam, Mrs Teifi Jones, 1921; a deunydd amrywiol a ychwanegwyd gan D. Gwenallt Jones tra bu'n ymchwilio ar gyfer Cofiant Idwal Jones, 1934-1957. = Letters, 1915-1936, mainly to his family whilst serving in the army, 1915-1919; typescripts and manuscripts of plays and radio scripts, 1920-1936, and newspaper cuttings of reviews, 1926-1940; poetry, songs, parodies, prose and other material, 1924-1932; a typescript copy of 'Ann y Wernolau', a play by his mother, Mrs Teifi Jones, 1921; and miscellaneous material added by D. Gwenallt Jones while researching Cofiant Idwal Jones, 1934-1957.

Derbyniwyd bocs ychwanegol o bapurau gan Mrs Eirain Rees (nee Jones), Medi 2008. Mae'r grŵp yn parhau heb ei gatalogio.

Jones, Idwal, 1895-1937

Papurau'r Parch. Huw Wynne Griffith

  • GB 0210 HUWGRIFF
  • Fonds
  • 1947-1992

Mae'r casgliad yn cynnwys ffeiliau gohebiaeth a chofnodion cyfarfodydd. Ymysg rhai o'r ffeiliau ceir amlinelliad o'u cynnwys a baratowyd gan y Parch. Huw Wynne Griffith ynghyd â manylion am ddigwyddiadau arwyddocaol. Mae'r ffeiliau yn ymwneud â chyfamodi, 1963-1991; pwyllgor y pedwar enwad, 1954-1970; Cymdeithas Ecwmenaidd Cymru, 1947-1978; Cyngor Eglwysi Rhyddion, 1956-1990 (yn cynnwys cofnodion,1956-1989, a phapurau'n ymwneud â Phwyllgor Ffydd a Threfn, 1961-1970, Pwyllgor Materion Cenedlaethol a Rhyngwladol, 1971-1989, a phapurau amrywiol,1966-1989); grŵp Aberystwyth o Gyngor Eglwysi Cymru, 1962-1990 (yn cynnwys cofnodion,1962-1990, ffoaduriaid,1955-1986, a phapurau amrywiol,1962-1990); Cytun, 1990-1992; Cyngor Eglwysi Prydain, 1964-1981; a phapurau amrywiol,1958-1991. = The collection consists of files of correspondence and committee minutes. Within some of the files is an outline of their contents prepared by Rev. Huw Wynne Griffith together with details of significant events. The files relate to covenanting, 1963-1991; the four denominations committee, 1954-1970; the Welsh Ecunemical Society, 1947-1978; the Council of Welsh Churches, 1956-1990 (comprising minutes, 1956-1989, and papers relating to the Faith and Organisation Committee, 1961-1970, the Committee for National and International Matters, 1971-1989, and miscellaneous papers, 1966-1989); the Aberystwyth group of the Council of Welsh Churches, 1962-1990 (including minutes, 1962-1990, refugees, 1955-1986, and miscellaneous papers, 1962-1990); Cytun, 1990-1992; the Council of British Churches, 1964-1981; and miscellaneous papers, 1958-1991.

Y Parch. Huw Wynne Griffith.

Papurau Cronfa Goffa Saunders Lewis,

  • GB 0210 SAUNDERS
  • Fonds
  • 1986, 1989-2002

Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli a phwyllgor Sir Gaernarfon Cronfa Apêl Saunders Lewis, 1989-2001; llythyron a phapurau amrywiol yn ymwneud â sefydlu a lansio'r Apêl, a llythyron yn ymwneud â threfnu gweithgareddau amrywiol i ddwyn arian i'r Gronfa, 1986-2002; gweithiau creadigol yn ymwneud â'r ysgoloriaethau, 1995-1996; cyfrifon a phapurau'r trysoryddion, 1989-2000; a phapurau printiedig sy'n ymwneud ag elusennau, 1996-2002. Y mae hefyd gopi o gyfansoddiad y Gronfa, 1989, a chopi o ddiweddariad, 1999.

Cronfa Goffa Saunders Lewis

Llawysgrifau Evan James

  • GB 0210 EVANMES
  • Fonds
  • 1806-1917

Llawysgrifau Evan James a James James, cerddoriaeth a barddoniaeth yn bennaf, 1806-1917, yn cynnwys fersiwn gwreiddiol yr alaw 'Glan Rhondda', y daethpwyd i'w hadnabod yn ddiweddarach fel Hen Wlad fy Nhadau, 1856; barddoniaeth Ieuan ab Iago,1831-1842; dyddiaduron,1806-1827, barddoniaeth, 1837-1849; cyfriflyfrau poced,1836-1837; a beirniadaethau eisteddfodol, 1853-1863. = Manuscripts of Evan James and James James, mainly music and poetry , 1831-1917, including the original version of the tune 'Glan Rhondda', which later became known as Hen Wlad fy Nhadau, 1856; poetry of Ieuan ab Iago, 1831-1842; diaries, 1806-1827, poetry, 1837-1849; pocket account books, 1836-1837; and Eisteddfod adjudications, 1853-1863.

James, Evan, 1809-1878

Papurau Cynllun Ymchwil Llenyddol yr Academi Gymreig

  • GB 0210 ACADEMI
  • Fonds
  • 1984-1988

Mae'r casgliad yn cynnwys deunydd a gasglwyd gan y cynllun yn ymwneud â'r llenorion Cymraeg canlynol: E. Tegla Davies, Huw Lloyd Edwards, Harri Gwynn, D. Gwenallt Jones, John Gwilym Jones, J. Saunders Lewis, Alun Llywelyn-Williams, T. H. Parry-Wiliams, Caradog Prichard, Kate Roberts, D. J. Williams, Abergwaun, Huw Llewelyn Williams a Waldo Williams. Mae'r archif yn cynnwys hefyd adysgrifau o rhai o'r casetiau o atgofion awduron Cymraeg diweddar a recordiwyd gan staff y cynllun ymchwil, ychydig eitemau o archifau yr Academi, deunydd yn ymwneud â gweithgareddau'r Academi a'r cynllun ymchwil, papurau ynglŷn â Geiriadur yr Academi a gwobr Griffith John Williams, a gohebiaeth yn deillio o'r cynllun ymchwil = The collection comprises material collected by the scheme relating to the following Welsh literary figures: E. Tegla Davies, Huw Lloyd Edwards, Harri Gwynn, D. Gwenallt Jones, John Gwilym Jones, J. Saunders Lewis, Alun Llywelyn-Williams, T. H. Parry-Wiliams, Caradog Prichard, Kate Roberts, D. J. Williams, Fishguard, Huw Llewelyn Williams and Waldo Williams. The archive also includes transcripts of some of the casettes of reminiscences of recent Welsh authors recorded by the staff of the research project, a few items from the archives of the Academi, material relating to the activities of the Academi and the research project, papers concerning the Welsh Academi Dictionary and the Griffith John Williams Prize, and correspondence deriving from the research scheme.

Academi Gymreig

Papurau Gwyliau Cerdd Dant Cymru,

  • GB 0210 GWYDANCYM
  • Fonds
  • 1953-1966 /

Papurau, 1953-1966, yn ymwneud â'r Gwyliau Cerdd Dant a gynhaliwyd yn Aberystwyth, 1954 a 1962, a Thregaron, 1966, yn cynnwys cofnodion y pwyllgorau, cyfrifon, gohebiaeth, deunydd cyhoeddusrwydd, ynghyd â rhaglenni a manylion am y cystadlaethau. = Papers, 1953-1966, relating to the Cerdd Dant Festivals held at Aberystwyth, 1954 and 1962, and Tregaron, 1966, including minutes of the committees, accounts, correspondence, publicity material, together with programmes and details of competitions.

Papurau yn ymwneud a'r Gwyliau Cerdd Dant Aberystwyth a'r Cylch, 1997 a 2003. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto (Awst 2011).

Papurau yn ymwneud â Gwyliau Cerdd Dant Ystrad Fflur a'r Fro, a gynhaliwyd ym Mhontrhydfendigaid yn 1989, 2007 a 2013, gan gynnwys rhestr testunau, rhaglenni'r dydd a chofnodion. Nid ydynt wedi eu catalogio (Chwefror 2025).

Cymdeithas Cerdd Dant Cymru.

Papurau Lilian Rees

  • GB 0210 LILIANREES
  • Fonds
  • [1920au]-1996

Papurau llenyddol Lilian Rees, llyfrau nodiadau yn bennaf yn cynnwys cyfansoddiadau gan gynnwys Llyfr Eiry a rhyddiaith a barddoniaeth a gyfrannwyd i gyfnodolion ac eisteddfodau, ynghyd ag atgofion personol, [1920au]-1996. = Literary papers of Lilian Rees, mainly notebooks containing compositions including Llyfr Eiry and prose and poetry written for periodicals and eisteddfodau, together with personal memoirs, [1920s]-1996.

Rees, Lilian

Llawysgrifau Gwilym Elian

  • GB 0210 MSGWILEL
  • Fonds
  • 1856-1900

Llyfrau nodiadau o waith William Cosslett (Gwilym Elian) yn cynnwys cerddi holograff, 1856-1900, ar amryw destunau. = Notebooks of William Cosslett (Gwilym Elian) containing holograph poems, 1856-1900, on various subjects.

Cosslett, William, 1831-1904

Llawysgrifau ac archifau T. Llew Jones

  • GB 0210 MSLLEW
  • Fonds
  • [?1945]-[2006]

Dyddiaduon y bardd a'r llenor T. Llew Jones, 1957-1999, ynghyd â cherddi ganddo, llythyrau a ysgrifennwyd ato a phapurau amrywiol, [?1945]-[2006]. = Diaries of the poet and author T. Llew Jones, 1957-1999, together with poems written by him, letters written to him and miscellaneous papers, [1945]-[2006].

Jones, T. Llew (Thomas Llew)

Papurau Glasnant

  • GB 0210 GLASNANT
  • Fonds
  • [1882x1971]

Pregethau, gweithiau creadigol, anerchiadau a gwaith ymchwil y Parch. W. Glasnant Jones, ynghyd â phapurau'n ymwneud â'i ymddeoliad a'i farwolaeth, gan gynnwys llythyrau o gydymdeimlad, [1882x1971].

Glasnant, 1869-1951

Papurau Ymchwil Dylan Phillips

  • GB 0210 DYLPHILLIPS
  • Fonds
  • 1960-1995 (crynhowyd [c. 1993]-1995)

Papurau, 1960-1995, yn ymwneud â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gasglwyd gan Dylan Phillips, gan gynnwys papurau Gareth Miles, 1960-1979, Dafydd Iwan, 1967-1987, Rheinallt Llwyd, 1968-1995, ac Ann Ffrancon,1967-1984, sydd yn ymwneud yn arbennig â'r 1960au a'r 1970au, ac yn cynnwys gohebiaeth yn bennaf, ynghyd â deunydd yn ymwneud ag ymgyrchoedd yn Gymdeithas ac ychydig bapurau gweinyddol. = Papers, 1960-1995, collected by Dylan Phillips relating to Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, comprising papers of Gareth Miles, 1960-1979, Dafydd Iwan, 1967-1987, Rheinallt Llwyd, 1968-1995, and Ann Ffrancon, 1967-1984, relating especially to the 1960s and 1970s, and consisting mainly of correspondence, together with material relating to the Society's campaigns and some administrative papers.

Papurau ymchwil ychwanegol Dylan Phillips, yn cynnwys gohebiaeth, papurau swyddogol a thorion o'r wasg, 1983-1992, wedi eu crynhoi gan Mr John Phillips. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto.

Phillips, Dylan.

Cofnodion Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

  • GB 0210 NANTGWRTH
  • Fonds
  • [1974]-[2010]

Gohebiaeth a phapurau, 1891; 1972-2015, yn ymwneud â sefydlu Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, a datblygu gwasanaethau y Ganolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn. Mae’r casgliad yn cynnwys gohebiaeth yr Ymddiriedolwyr, cyfreithwyr, staff, fasnachwyr, dysgwyr, a sefydliadau cysylltiedig eraill, a phapurau cysylltiedig, yn ymwneud â materion ariannol (1978-1994); cofnodion cyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolaeth a phwyllgorau amrywiol yn ymwneud â’r Nant (1980-1992; 1994-2003); cyflogaeth a gwirfoddoli (1980-1993; 1997-2013); marchnata a hysbysebu gweithgareddau, cyrsiau, a chyfleusterau y Ganolfan (1980-1992; 1997-2003); datblygu gwasanaethau y Ganolfan (1972-1997; 2002-2008); a phryniant a gwerthiant Plas Pistyll, ac ymgyfreitha cysylltiedig (1978-1995).

Nant Gwrtheyrn National Language Centre

Papurau Waldo Williams

  • GB 0210 WALDO
  • Fonds
  • [1880]x[2018]

Deunydd gan neu yn ymwneud â'r bardd a'r heddychwr Waldo Williams, sy'n adlewyrchu ei ddaliadau gwleidyddol, crefyddol, heddychol a dyngarol; ynghyd â deunydd gan neu yn ymwneud ag aelodau teuluol, cyfeillion a chydnabod Waldo Williams.

Williams, Waldo, 1904-1971

Papurau Rhys Mwyn = Rhys Mwyn Papers

  • GB 0210 RHYSMWYN
  • Fonds
  • 1979-2019

Papurau'r cerddor, archaeolegydd, awdur a darlithydd Rhys Mwyn, sy'n cynnwys deunydd yn ymwneud â'i fywyd proffesiynol. = Papers of the musician, archaeologist, author and lecturer Rhys Mwyn, comprising material relating to his professional life.

Mwyn, Rhys, 1962-

CMA: Cofysgrifau Eglwys Bethel, Penrhewl, Mostyn

  • GB 0210 BETHMOST
  • Fonds
  • 1896-1985

Cofysgrifau Eglwys Bethel, Penrhewl, Mostyn, 1896-1985, yn cynnwys cofrestr bedyddiadau, 1896-1977; adroddiadau blynyddol, 1944-46, 1952, 1964-67, 1973-76 a 1978-1985; papurau’r Ysgrifennydd, 1967-1985; a llyfrau Trysorydd y Chwiorydd, 1966-1985.

Eglwys Bethel, Penrhewl, Mostyn

Papurau Aled Jones Williams

  • GB 0210 AJWILLIAMS
  • Fonds
  • [2022]-2024

Cyfrol yn cynnwys cerddi gan Aled Jones Williams, 2022-23, wedi eu hysgrifennu yn llaw y bardd.

Aled Jones Williams

CMA: Cofysgrifau Capel Blaenannerch, Ceredigion

  • GB 0210
  • Fonds
  • 1999-2015

Adroddiadau blynyddol 1999, 2008-2009, a 2011-2015. Taflen gwasanaeth arbennig i nodi 120 mlynedd ers Diwygiad 1904; Hydref 2024.

Capel Blaenannerch, Ceredigion

CMA: Cofysgrifau Capel Moria, Trefenter

  • GB 0210
  • Fonds
  • 1913-2007

Cofysgrifau Capel Moria, Trefenter, yn cynnwys cofnodion ariannol, 1913-2007; adroddiadau blynyddol, 1996-2007; ystadegau, 1969-1980; a phapurau yn ymwneud â chanmlwyddiant y capel, 2007.

Capel Moria, Trefenter

CMA: Cofysgrifau Capel Bethel, Penbre

  • GB 0210
  • Fonds

Cofysgrifau Capel Bethel, Penbre, yn cynnwys cofnodion ariannol a'r Ysgol Sul, adroddiadau blynyddol, a phapurau yn ymwneud â'r adeilad.

Capel Bethel, Penbre

Results 1981 to 2000 of 2060