Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1869-1944 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
0.023 metrau ciwbig (2 focs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Roedd 'Anthropos', y Parch. Robert David Rowland ([1953]-1944), yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yn fardd ac yn llenor. Cafodd ei fagu yn Nhyn-y-cefn, ger Corwen, sir Feirionnydd. Dechreuodd bregethu yn 1873 a chofrestru yng Ngholeg y Bala yn 1874. Tra'r oedd yn y Bala bu'n athro yn yr ysgol leol a chyhoeddodd gyfrol o gerddi, Y Blodeuglwm (Bala, 1878). Symudodd i Gaernarfon lle bu'n newyddiadurwr, gan weithio ar Yr Herald Gymraeg, Amseroedd ac Y Genedl Gymreig, y bu'n olygydd arni o 1881 i 1884. Ordeiniwyd ef yn 1887, a chael ei alw yn weinidog Capel Beulah yng Nghaernarfon yn 1890, lle yr arhosodd tan ei ymddeoliad yn 1933. Parhaodd i ysgrifennu'n doreithiog, yn cyhoeddi cyfrolau o gasgliadau o gerddi, storiâu a thraethodau. Ymysg y pwysicaf ohonynt ceir Y Ffenestri Aur (Dinbych, 1907) a Y Pentref Gwyn (Wrecsam, 1909) lle rhydd atgofion am ei blentyndod. Bu hefyd yn olygydd Trysorfa'r Plant o 1912 i 1932 ac ysgrifennai i Baner, 1904-1914, yr Herald ac amryw o gyfnodolion eraill. Bu farw yng Nghaernarfon ar 12 Tachwedd 1944. Ymhlith ei gydnabod yr oedd Lewis William Lewis ('Llew Llwyfo', 1831-1901), bardd, newyddiadurwr, nofelydd a chanwr o Ben-sarn, sir Fôn, a weithiodd ar lawer o'r un cyfnodolion ag Anthropos.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Mrs Mary Rowland; Pryniad; 1946 a 1954
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau Anthropos, 1869-1944, yn cynnwys gohebiaeth, 1869-1944, a llythyrau o gydymdeimlad at ei weddw, 1944; papurau personol eraill, 1878-1944, yn cynnwys dyddiaduron, llyfrau nodiadau ar bynciau llenyddol a diwinyddol; torion o'r wasg, 1880-1937; papurau llenyddol yn cynnwys cerddi gan Anthropos, 1876-1939, anerchiadau, erthyglau, traethodau a chyfansoddiadau rhyddiaith eraill, 1898-1922; barddoniaeth a rhyddiaith gan awduron eraill (rhai llawysgrifau gwreiddiol), yn enwedig Llew Llwyfo, 1877-1939. = Papers of Anthropos, 1869-1944, including correspondence, 1869-1944, and letters of condolence to his widow, 1944; other personal papers, 1878-1944, including diaries, notebooks on literary and theological matters; newspaper cuttings, 1880-1937; literary papers including poems by Anthropos, 1876-1939, addresses, articles, essays and other prose compositions, 1898-1922; poetry and prose by other writers (some original manuscripts), in particular Llew Llwyfo, 1877-1939.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a brynwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd fel a ganlyn: gohebiaeth; cerddi gan Anthropos; anerchiadau a rhyddiaith gan Anthropos; barddoniaeth a rhyddiaith gan awduron eraill; deunydd personol; deunydd amrywiol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r furflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, rhai eitemau yn Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Mae copi caled o'r catalog, 'Papurau Anthropos', ar gael yn Llyfrgell Genedlathol Cymru. Ceir mynediad i'r catalog ar lein.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Project identifier
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Anthropos, 1853?-1944 -- Archives. (Pwnc)
- Llew Llwyfo, 1831-1901 -- Archives. (Pwnc)
- Llew Llwyfo, 1831-1901 (Pwnc)
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Medi 2003.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau Anthropos; Dictionary of Welsh Biography down to 1940 (Llundain, 1959); Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 (Llundain, 2001);