Showing 45743 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales File Welsh
Print preview View:

36 results with digital objects Show results with digital objects

Llyfrau Cyfrifon Casgliadau

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfrau cyfrifon y casgliadau, yn enwedig tuag at ddyled y Capel, am y blynyddoedd 1871-1878, 1880, 1883-1884, 1886, 1890, 1901 a 1912. Ceir manylion cyffredinol am y casgliadau, megis enwau'r aelodau, gan gynnwys aelodau o ganghennau'r Ysgol Sul, eu preswylfeydd a'u cyfraniadau. Mae llyfr 1886 ar gyfer 'Casgliad at Gapel Llandyssil' yn unig.

Llyfr yr Ysgrifennydd

Mae'r ffeil yn cynnwys Llyfr yr Ysgrifennydd ar gyfer Ysgol Sabothol Bethel, 1933-1940. Ceir ystadegau am ddosbarthiadau'r Ysgol Sul, megis enwau'r athrawon a'r aelodau, nifer o adnodau a phenillion a ddarllenwyd, ynghyd â phresenoldeb a chyfraniadau'r aelodau.

Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru

Llyfr cofnodion Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru-Cangen Colegau Caerdydd a’r Cylch, 1965-66. R. Elwyn Hughes oedd Ysgrifennydd Mygedol y gangen, ynghyd â rhestr aelodaeth UCAC, 1967.

Amrywiol

Llyfr nodiadau ar ‘stage costumes’ a gwaith meim a beirniadaeth Gwynne D. Evans ar gystadleuaeth ysgrifennu drama un act Cymdeithas Ddrama Cymru 1967, ynghyd ag amrywiaeth o sgetshis ganddo a phapurau personol.

Testunau Pregethau

Mae'r gyfrol yn cynnwys rhestr o destunau pregethau a draddodwyd yng Nghapel Beddgelert rhwng 1918 a 1936. Mae'r llyfr wedi ei ysgrifennu gan John Rhys Jones o Feddgelert ac mae'n cynnwys enwau'r pregethwyr a'r pregethau a draddodwyd ganddynt, ynghyd â rhestr o'r rhai hynny a gymerodd ran yng nghyfarfodydd gweddi'r Capel.

Dramâu Cymraeg

Sgriptiau gan gynnwys ’Does unman yn debyg’, 1969; ’ Nos fory. Ystradmynach’ a'r trosiad 'Tomorrow night Ystradmynach', 1972; ‘Priodas dda’, 1973; ‘Angladd i bawb’, 1973; a drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin 1974; ‘Pen y daith’, 1976, i ddathlu pedwar canmlwyddiant Ysgol Ramadeg y Frenhines Elisabeth i Fechgyn, ynghyd â rhaglen; a ‘Nid heb anrhydedd’ a ‘Not without honour’, 1976.

'Byd y Ddrama'

Mae'r ffeil yn cynnwys cyfrol wedi ei defnyddio fel llyfr lloffion sy'n cynnwys toriadau papur newydd, 1927-1930, yn enwedig ei gyfres yn Y Brython, 'Byd y Ddrama', 1927; ffotograffau, 1927-1930; rhaglenni, 1929; llythyrau oddi wrth J. Gwili Jenkins, 1927, National Union of Teachers: Festiniog & District Association, 1928, E. O. Roberts, 1929, ac un oddi wrth Dan Williams at E. O. Roberts ynghylch Llyfr y Dyn Du, 1929; a beirniadaeth gan J. Gwili Jenkins ar y gerdd 'Y Pwyllgorddyn'.

Papurau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys tystysgrifau Sal Jenkins, 1908, am bresenoldeb da, ac am lwyddo mewn arholiad yr Ysgol Sul yn 1912; rhaglenni cyfarfodydd sefydlu'r Parchedigion T. P. Nicholas, 1934, R. Hugh Evans, 1944, T. Hywel Davies, 1950 ac Ieuan Jones, 1957; llungopïau o dorion yn adrodd hanes ailagor y capel yn 1935; ffeithiau am y gweinidogion a fu'n bugeilio'r eglwys a'r traddodiad cerddorol yno gyda nodyn bywgraffyddol am yr organydd a'r cyfansoddwr D. E. Williams; nodiadau am y ffenestri lliw o raglen 'Masterpieces in stained glass' a ddarlledwyd gan HTV, 1996; llungopi o hanes yr achos a ddarllenwyd i'r Henaduriaeth yn 1993; ynghyd â llythyrau, 2002, yn ymwneud â symud y ffenestri lliw a'r organ o'r eglwys.

Llyfr yr Ysgrifennydd

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr yr Ysgrifennydd ar gyfer Ysgol Sabothol Tregaron, 1898-1902. Ceir ystadegau am ddosbarthiadau'r Ysgol Sul, megis enwau'r athrawon a'r aelodau, nifer o adnodau a phenillion a ddarllenwyd, ynghyd â phresenoldeb a chyfraniadau'r aelodau.

Results 21 to 40 of 45743